Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: ffyrdd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd ar 27 Mawrth; grŵp rhandiroedd Caerdydd yn elwa o arian annisgwyl elusennol; a'r coronafeirws nifer wrth nifer.
Ffyrdd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd ar 27 Mawrth
Bydd Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth. Disgwylir i 15,000 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad, felly disgwylir i Gaerdydd fod yn brysur iawn.
Bydd ffyrdd ar gau yn y Ganolfan Ddinesig o 23 Mawrth er mwyn gosod a chlirio pentref y digwyddiad.
O 5am ddydd Mercher 23 Mawrth tan hanner dydd ar 29 Mawrth bydd
Heol y Coleg ar gau o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Rhodfa'r Brenin Edward VII (gellir cael mynediad tan 6am ddydd Sadwrn 26 Mawrth)
O 5am ddydd Iau 24 Mawrth tan ganol dydd ar 29 Mawrth bydd
Rhodfa'r Brenin Edward VII ar gau i'r gyffordd â Boulevard de Nantes ac i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas. Caniateir mynediad i fusnesau a gwasanaethau brys o ddydd Mercher 23 Mawrth tan ddydd Gwener 25 Mawrth ac ar ddydd Llun 28 Mawrth ond ni chaniateir mynediad ddydd Sadwrn 26 Mawrth a Dydd Sul 27 Mawrth
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 5am ddydd Gwener 25 Mawrth tan ganol nos ar 27 Mawrth:
- Rhodfa'r Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas, ac o'r gyffordd â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)
- Rhodfa'r Amgueddfa o'r pen caeedig â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Gerddi'r Orsedd
- Heol Gerddi'r Orsedd
- Heol Neuadd y Ddinas o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Heol y Gogledd.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4am a hanner dydd ddydd Sul 27 Mawrth:
- Heol y Gogledd i'r de o'r gyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â'r A416
- Yr A4161 o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Ffordd y Brenin,
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd â'r A4161 i'r gyffordd â Heol y Dug
- Heol y Dug a Stryd y Castell
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 6am a 10.45am ddydd Sul 27 Mawrth:
- Heol y Gogledd o'r gyffordd â Heol Colum i'r gyffordd â Boulevard de Nantes (mynediad i'r Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett, tua'r gogledd i fyny Heol y Gogledd).
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 10am a 3.10pm:
- Heol Colum
- Plas y Parc o'r gyffordd â Plas Sant Andreas i'r gyffordd â Heol Colum.
Bydd y trefniadau mynediad canlynol ar waith ddydd Sadwrn 26 Mawrth a dydd Sul 27 Mawrth:
- Ceir mynediad i Beatty Avenue o'r gyffordd â Lake Road North yn unig (gan gynnwys Jellicoe Gardens, Keyes Avenue a Tyrwhitt Crescent)
- Bydd mynediad i ac o Sgwâr y Frenhines Anne yn cael ei reoli drwy Heol y Gogledd / Heol Corbett.
- Lady Mary Road o'r gyffordd â Maryport Road at y gyffordd â Lake Road East.
Bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn eu tro o 8.30am tan 3.10pm i hwyluso'r llwybr:
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Neville Street
- Stryd Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange
- Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa'r Harbwr a Roald Dahl Plas
- Plas Bute, Rhodfa Lloyd George a Stryd Herbert
- Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Windsor Road
- Stryd Adam, Fitzalan Place yn mynd ar draws Heol Casnewydd
- Llwyn y Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany
- Heol Marlborough, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian
- Heol y Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn - bydd mynediad i fynwent Cathays yn cael ei hwyluso drwy Heol Allensbank hyd nes y bydd Heol y Dderwen Deg yn agor, pan geir mynediad eto drwy'r brif fynedfa.
- Teras Cathays, Heol Corbett a Rhodfa'r Amgueddfa
Os caiff y llwybr ei gwblhau'n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.
Bydd y giât fysus ar Heol y Porth yn cael ei hatal am gyfnod y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm ar 27 Mawrth.
Grŵp rhandiroedd Caerdydd yn elwa o arian annisgwyl elusennol
Mae un o gymdeithasau rhandiroedd mwyaf amrywiol ddiwylliannol Caerdydd yn bwriadu gwneud garddio'n hygyrch i'r anabl a dechreuwyr ar ôl sicrhau swm sylweddol o arian annisgwyl elusennol.
Mae Rhandiroedd Pafiliwn Pengam, oddi ar Ffordd Rover ym Mhengam, wedi bod yn safle i arddwyr brwd ers 1927 ac ar hyn o bryd mae tua 70 o aelodau yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch, gan gynnwys ffrwythau, llysiau a blodau.
Maent wedi treulio blynyddoedd yn trin y tir eu hunain, gyda chefnogaeth tîm gwasanaethau rhandiroedd Cyngor Caerdydd, ac yn gwneud defnydd da o'u cronfeydd cyfyngedig drwy ailgylchu deunyddiau i wneud siediau a thwneli.
Erbyn hyn, fodd bynnag, maent wedi derbyn rhodd fawr gan y cwmni cyflenwadau adeiladu Travis Perkins ar ffurf cynalydion rheilffordd a deunyddiau eraill i helpu i ddatblygu cornel wedi'i hadfer o'u safle a chreu lleiniau newydd sy'n addas ar gyfer garddwyr newydd ac anabl.
Dywedodd llywydd cymdeithas rhandiroedd Pengam, Dennis Ramsey, fod y rhodd - gan Gronfa Etifeddiaeth Travis Perkins - wedi dod ar ôl iddo ef a'i aelodau weithio'n galed i glirio ardal hanner erw a oedd wedi'i gordyfu â mieri a choed.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28784.html
Coronafeirws Nifer wrth Nifer
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (11 Mawrth - 17 Mawrth 2022)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Mae'r data'n gywir ar:
21 Mawrth 2022
Achosion: 1,544
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 420.8 (Cymru: 403.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,942
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,074.4
Cyfran bositif: 39.2 (Cymru: 37.1% cyfran bositif)