The essential journalist news source
Back
16.
March
2022.
Cyfrif Refeniw Tai

Dim ond 50% o awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi cadw eu stoc tai cyngor ac wedi chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith o ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da fel landlord tai cymdeithasol.

Rydyn ni'n un ohonyn nhw. 

Mae ein holl swyddogaethau landlordiaid yn cael eu rheoli o fewn Cyfrif Refeniw Tai a glustnodwyd ac (ymhlith pethau eraill), mae'n golygu bod yn rhaid i ni gyflwyno Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai "derbyniol" i Llywodraeth Cymru bob blwyddyn - ac mae newydd gael ei gyhoeddi.

Ry'n ni'n gwybod. Dydy e ddim yn swnio'n ddiddorol hyd yma, ond bydd y manylion yn dal eich sylw.

Gallwch eu darllen dros eich hun yma os nad ydych yn ein credu:

https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s56523/Cabinet%2010%20March%202022%20HRA%20App.pdf?LLL=0

Ond i ddechrau, mae'n cynnwys ein hymrwymiad allweddol i greu mwy na 4,000 o gartrefi newydd, gan gynnwys 2,800 o gartrefi cyngor newydd fforddiadwy... fel y rhai yn y llun hwn.

A large building with a lawn in front of itDescription automatically generated with low confidence

Bydd pob un o'r 2,800 o gartrefi hynny ar gael i'w rhentu'n uniongyrchol gennym ni neu byddant ar gael drwy ein Cynllun Perchentyaeth â Chymorth. Bydd y 1,200 sy'n weddill yn cael eu gwerthu am y gwerth marchnadol - gan roi'r flaenoriaeth i brynwyr lleol.

Pam gwerthu am y gwerth marchnadol? Gan ein bod am ddangos i ddatblygwyr y gallant adeiladu cartrefi cynaliadwy o ansawdd uwch a dal i wneud elw rhesymol, a hefyd oherwydd y gellir ailfuddsoddi unrhyw elw a wnawn mewn adeiladu mwy o dai cyngor newydd fforddiadwy.

Dyma'r rhaglen adeiladu tai cyngor fwyaf yng Nghymru - buddsoddiad a fydd yn y pen draw yn dod i gyfanswm o dros £800m ac mae eisoes yn darparu cartrefi newydd, fel y rhain yn Crofts Street ym Mhlasnewydd.

A picture containing text, sky, outdoor, stationDescription automatically generated

Erbyn mis Ionawr eleni roedd 802 o gartrefi newydd eisoes wedi'u hadeiladu, gan gynnwys 609 o gartrefi cyngor newydd a 193 o gartrefi ar werth. Mae 410 arall wrthi'n cael eu hadeiladu, mae 133 arall allan i dendr am gontractwyr ac mae gan 423 ganiatâd cynllunio.

Un o'r rhai sydd â chaniatâd cynllunio yw cynllun adfywio ystâd Trem y Môr gwerth £85m. Mae'r gwaith ar gam cyntaf y prosiect gweddnewid hwn yn dechrau'r gwanwyn hwn a bydd yn darparu 350 o gartrefi cynaliadwy, carbon isel i'r gymuned leol.

https://youtu.be/Q1Ps65W7JTs

Pam adeiladu cymaint o gartrefi newydd? Wel, nododd Asesiad Diweddar o'r Farchnad Dai Leol fod angen mwy na 2,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn, dim ond i ateb y galw presennol.

Ond nid buddsoddi mewn cartrefi newydd yw ein hunig amcan - rydym hefyd yn buddsoddi mewn cartrefi cyngor presennol.

Mae 96% o'n cartrefi eisoes yn uwch na safonau Llywodraeth Cymru, ond yn ystod 2022/23 bydd mwy na £19m yn cael ei fuddsoddi mewn gwelliannau gan gynnwys pethau fel ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, systemau chwistrellu, to a ffenestri newydd, ac mae gwaith wedi dechrau'n ddiweddar i osod cladin newydd ar 3 bloc fflatiau uchel ar ôl tynnu'r cladin yn sgil trychineb Grenfell.

A picture containing sky, grass, outdoor, fieldDescription automatically generated

Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28593.html

Mae cynlluniau ar waith hefyd i insiwleiddio waliau allanol a gosod paneli ffotofoltäig ar yr holl flociau o fflatiau sy'n weddill, ac rydym hefyd yn symud tuag at ddatblygu tai carbon sero-net.

Yn wir, fel rhan o'n strategaeth Caerdydd Un Blaned rydym eisoes wedi dechrau defnyddio technolegau adnewyddadwy ar y safle a dulliau cynaliadwy o adeiladu - er enghraifft, dyma'r aráe paneli solar ar ein datblygiad Crofts Street diweddar.

A picture containing solar cell, outdoor, outdoor objectDescription automatically generated

Yna mae'r 42 o gartrefi cyngor Passivhaus rydym yn eu hadeiladu ar hyn o bryd yn Highfields yn y Mynydd Bychan...

...a'r 214 o gartrefi newydd ar hen safle Ysgol Uwchradd Tredelerch, y mae gan bob un ohonynt bympiau gwres o'r ddaear fel yr un a fydd yn mynd i mewn i'r twll turio sy'n cael ei ddrilio yma...

A picture containing sky, outdoor, factory, dockDescription automatically generated

...yn ogystal â PV solar a batris storio, ffabrig adeiladu sy'n perfformio i lefel uchel a mannau gwefru cerbydau trydan. Rhagwelir y byddant 90% yn fwy effeithlon o ran ynni na chartrefi sy'n cael eu hadeiladu i'r rheoliadau presennol - sy'n golygu arbedion mawr ar filiau ynni.

A house with a solar panelDescription automatically generated with low confidence

A gan fod pethau'n mynd o chwith weithiau, fel ym mhob cartref - bydd ein Huned Cynnal a Chadw Ymatebol yn cyflogi mwy o weithwyr cynnal a chadw i gyflawni mân dasgau i denantiaid, gan ryddhau masnachwyr medrus ar gyfer gwaith mwy cymhleth a'n helpu i ymateb i broblemau yn gynt.

Rydym hefyd yn bwriadu sefydlu Academi Cynnal a Chadw newydd sy'n cynnig llwybr i bobl ifanc ddysgu sgiliau crefft drwy brentisiaethau a hyfforddeiaethau.

Mae'r Academi yn adeiladu ar y gwaith rydym eisoes yn ei wneud i gefnogi pobl ifanc drwy ein Hacademi Adeiladu ar y Safle, sy'n rhoi hyfforddiant a phrofiad ar y safle i ddysgwyr o bob cefndir gan greu ymgeiswyr sy'n barod ar gyfer amrywiaeth o rolau ar safleoedd adeiladu.

A group of people posing for a photoDescription automatically generated

Ond rydym hefyd am i Gaerdydd fod yn lle gwych i dyfu'n hŷn, ac mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddeg prosiect Byw yn y Gymuned newydd a fydd yn darparu dros 500 o gartrefi newydd yn benodol ar gyfer pobl hŷn, ochr yn ochr â chyfleusterau cymunedol.

A person walking a dog in a hallwayDescription automatically generated with medium confidence

Addison House yn Nhredelerch fydd y cyntaf, ond mae cynlluniau ychwanegol hefyd ar y gweill ym Maelfa a Llaneirwg, yn ogystal â rhan o ddatblygiad Trem y Môr y soniasom amdano'n gynharach.

A beth am bobl sy'n ddigartref?

Wel, yn y lle cyntaf, rydym yn gweithio'n galed i geisio atal digartrefedd.

Mae ein Porth i Bobl Ifanc, er enghraifft, yn cefnogi pobl ifanc sydd dan fygythiad o ddigartrefedd, neu y mae angen iddynt symud ymlaen o ofal a'u hyfforddi i gynnal tenantiaeth - gyda chyfradd llwyddiant o 99% dros y pum mlynedd diwethaf. 

Ond dyma beth oedd gan yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Linda Thorne, i'w ddweud yn ddiweddar am ddigartrefedd pan fydd yn digwydd:

"Rydym am weld diwedd ar ddigartrefedd yn y ddinas yn gyfan gwbl, ond lle nad yw hynny'n bosibl rydym am sicrhau ei fod yn brin, yn fyr ac yn rhywbeth na fydd yn ailadrodd."

Dyna pam mae'r cynllun yn esbonio sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i dreialu dull ailgartrefu cyflym i helpu pobl i gael llety yn gyflym, a byddwn yn agor yr ail o'n canolfannau digartrefedd ymhlith teuluoedd yn y Gwanwyn, yn ogystal â chwblhau cam cyntaf ein cynllun llety â chymorth yn Adams Court ar gyfer pobl ddigartref sengl.

Ac mae ein dull eisoes yn llwyddo - fel KL, un o'n cleientiaid Tai yn Gyntaf. Treuliodd flynyddoedd lawer yn cysgu ar y stryd, mewn pabell fel arfer yng nghanol y ddinas. Dyma fe yn coginio ei bryd cyntaf yn ei gartref newydd.

A person cooking food on a stoveDescription automatically generated with medium confidence

Rydyn ni'n falch ohono, ac felly hefyd ei Fam, pan wahoddodd hi i'r tŷ am ginio.

Dim ond cipolwg ar rai o'r pethau a drafodir yng Nghynllun Busnes ein Cyfrif Refeniw Tai yw'r rhain - mae mwy, o gystadlaethau garddio Garddio Gwych a boreau coffi fel rhan o'n gwaith i hyrwyddo cymunedau diogel a chynhwysol i ennill Gwobrau Tai Cymru a hybiau lles newydd fel hwn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Llanedern.

A picture containing text, sky, signDescription automatically generated

Ac er nad yw'n deitl bachog, mae'n werth ei ddarllen gan ei fod yn mynd at wraidd rhywbeth y mae arnom i gyd ei angen - cartref a chymuned.

Darllenwch e yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s56523/Cabinet%2010%20March%202022%20HRA%20App.pdf?LLL=0