Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: adeiladu ar lwyddiannau'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer dyfodol Caerdydd; ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau Caerdydd i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth deallus; Cyngor Caerdydd yn bwriadu ailwampio'r ddarpariaeth rhandiroedd; cyfanswm brechu Caerdydd a Fro; a nifer achosion a phrofion.
Adeiladu ar lwyddiannau'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer dyfodol Caerdydd
Mae adroddiad sy'n tynnu sylw at waith ymgysylltu â'r gymuned, mentrau allweddol a chamau nesaf y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, 20 mis ar ôl ei sefydlu i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol yng Nghaerdydd, wedi'i gyhoeddi.
Cynigiwyd y tasglu ym mis Gorffennaf 2020 gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn ymateb i farwolaeth drasig George Floyd yn UDA a'r ymgyrch gan fudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn y DU yn galw am fwy o gydraddoldeb a chyfiawnder i Gymunedau Pobl Dduon.
Nododd y tasglu flaenoriaethau Caerdydd drwy ymgynghori â thrigolion a datblygodd raglen o newid i sbarduno cydraddoldeb mewn cyflogaeth, llais y dinesydd, gwasanaethau i bobl ifanc, iechyd a chyfiawnder troseddol.
Dywedodd Cadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol a Chynghorydd Butetown, y Cynghorydd Saeed Ebrahim: "Mae Caerdydd bob amser wedi bod yn ddinas amrywiol a balch ac mae ynddi un o'r cymunedau ethnig lleiafrifol hynaf yn y DU gyda phobl o bob rhan o'r byd yn ei gwneud yn gartref iddynt.
"Mae'r gwaith a arweiniwyd gan Dasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd ers ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2020 wedi mynd y tu hwnt i wneud argymhellion yn unig, rydym wedi gwneud pethau. Drwy ymgynghori ag unigolion craff mewn ystod o ddiwydiannau a sefydliadau a gyda'r Gymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i gasglu barn ar flaenoriaethau'r tasglu, rydym wedi sicrhau newid gwirioneddol.
"Yn ogystal, mae ymdrechion helaeth y Tasglu wedi arwain at bolisïau, mentrau a chamau gweithredu newydd a fydd yn cael eu gwreiddio o fewn yr ardaloedd perthnasol ledled y ddinas.
"Rwy'n falch o'r atebion a'r cynigion y mae'r tasglu hwn yn eu rhoi ar waith i adeiladu dinas gadarnhaol a chynhwysol a helpu i sicrhau y caiff cenedlaethau'r dyfodol yr un cyfleoedd mewn bywyd; a bydd addysg a gwaith yn ddau faes allweddol lle gallwn barhau i helpu i wneud gwahaniaeth i bobl."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae'r bobl, y grwpiau, y diwydiannau a'r sefydliadau sy'n rhan o'r tasglu hwn wedi ymrwymo'n wirioneddol i droi syniadau'n weithredoedd, gan ganolbwyntio ar faterion tactegol lle gall y Cyngor, a phartneriaid eraill, weithredu'n gyflym, a symbylu newid mewn eraill, gan ymateb i wir anghenion ein cymunedau. Mae'n adroddiad cadarn a chynhwysfawr, ac rwyf yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o'i lunio.
"Fy ymrwymiad, yn gyfnewid am hynny, yw gwneud popeth o fewn fy ngallu i weithredu'r argymhellion sydd wedi'u cyflwyno. Mae pobl o liw yn y ddinas hon - ac ar draws y byd - yn dal i wynebu hiliaeth fel rhan o'u bywydau bob dydd hyd yn oed heddiw, ac yn parhau i wynebu rhwystrau a heriau o ganlyniad i liw eu croen. Mae hynny'n annerbyniol, ac rwy'n credu ac yn gobeithio y bydd argymhellion y Tasglu yn cynnig map pendant i newid pethau er gorau yng Nghaerdydd."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28631.html
Ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau Caerdydd i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth deallus
Bydd Cyngor Caerdydd yn ymgysylltu â'r cyhoedd ar sut y gall y ddinas wella'r rhwydwaith trafnidiaeth gan ddefnyddio data a thechnoleg i leihau tagfeydd, gwella teithio ar fysiau ac annog beicio a cherdded.
Gan ddefnyddio gwybodaeth amser real gallai 'system drafnidiaeth ddeallus' ddefnyddio ystod o fesurau i helpu pobl i wneud penderfyniadau am y ffordd orau o symud o amgylch y ddinas ar ddiwrnod neu amser penodol, gan gynnwys:
- Cael app defnyddwyr trafnidiaeth i'r cyhoedd
- Sicrhau bod y gyfnewidfa fysiau newydd yn cael ei hintegreiddio i rwydwaith priffyrdd Caerdydd
- Datblygu tocynnau integredig rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth
- Gweithredu coridorau CLYFAR i wella amseroedd teithio ar fysiau a rheoli teithio trawsffiniol o awdurdodau cyfagos
- Creu ystafell reoli integredig gyda'n partneriaid trafnidiaeth a sector cyhoeddus, ac
- Uwchraddio systemau a seilwaith telemateg.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rydym am ofyn i'r cyhoedd am eu barn ar ein strategaeth ddrafft i adeiladu System Drafnidiaeth Ddeallus yng Nghaerdydd. Mae gennym systemau ar waith eisoes, ond nid ydynt wedi'u hintegreiddio, ac mae llawer yn dod i ddiwedd eu hoes, gan eu bod wedi'u disodli gan dechnoleg fwy newydd.
"Rydym am leihau allyriadau niweidiol, gwella ansawdd aer a gwneud Caerdydd yn ddinas iachach i fyw a gweithio ynddi. Un o'r ffyrdd gorau o wneud hynny yw newid y ffordd rydym yn symud o amgylch y ddinas gan annog trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded fel y ffyrdd gorau o deithio.
"Erbyn 2030, hoffem weld 76% o'r holl deithiau'n cael eu gwneud gan fathau cynaliadwy o drafnidiaeth. I wneud hynny bydd angen i ni ddyblu nifer y bobl sy'n teithio ar feic neu ar fws. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen gwell seilwaith sy'n cael ei reoli gan system drafnidiaeth integredig a deallus. Byddai'n gweithredu fel canolfan nerfol i sicrhau bod coridorau bysiau, llwybrau beicio a chroesfannau a phalmentydd gwell i gerddwyr yn cael eu cydnabod fel rhan allweddol o'r rhwydwaith, ac yn helpu i deithio ar ffyrdd Caerdydd mewn ffordd mor effeithlon â phosibl.
"Drwy ddatblygu'r app defnyddwyr trafnidiaeth, tocynnau integredig a thechnoleg GLYFAR, bydd preswylwyr a chymudwyr yn cael gwell gwybodaeth, fel y gallan nhw eu hunain wneud penderfyniadau gwybodus ar y ffordd orau o deithio ar unrhyw ddiwrnod penodol ar unrhyw adeg benodol.
"Mae ein strategaeth ddrafft yn edrych ar ddefnyddio data a thechnoleg i leihau tagfeydd, cymell teithio llesol i wneud ein rhwydwaith priffyrdd yn fwy effeithlon, a bydd yn helpu i ddelio â digwyddiadau ar y briffordd yn fwy effeithiol.
"Bydd agor yr orsaf fysiau yn 2023 yn sbardun i weithredu gwasanaethau a thechnoleg newydd - felly mae'n bwysig ein bod yn gwneud y gwaith hwn nawr."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28628.html
Cyngor Caerdydd yn bwriadu ailwampio'r ddarpariaeth rhandiroedd
Mae tyfu ein bwyd ein hunain ar randiroedd wedi bod yn un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd o gadw'n heini yn ystod y pandemig ac mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i sicrhau y gall cynifer ohonom â phosibl ddychwelyd i'r tir.
Ar hyn o bryd mae 28 o safleoedd rhandiroedd ar draws y ddinas, sy'n cynnwys mwy na 3,400 o leiniau y gofelir amdanynt gan tua 2,400 o ddeiliaid, ond yn ystod y pandemig mae'r rhestr aros o bobl sy'n awyddus i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain wedi tyfu o 793 yn 2020 i 1,292.
Nawr, mae'r Cyngor yn cynnig ailwampio ei wasanaethau rhandiroedd er mwyn ystyried y cynnydd hwn yn y galw a pharhau â rhaglen o welliannau a ohiriwyd oherwydd cyfyngiadau'r cyfnodau clo.
Mae Strategaeth Rhandiroedd Caerdydd, a fydd yn mynd gerbron y Cabinet ddydd Iau nesaf (10 Mawrth), yn amlinellu cyfres o fesurau a gynlluniwyd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Lleihau rhestrau aros
- Gwella safonau tyfu
- Cynyddu bioamrywiaeth
- Gweithio gydag elusennau a chyrff eraill i wella mynediad i randiroedd ar gyfer grwpiau difreintiedig, a
- Nodi safleoedd rhandiroedd newydd
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, fod rhandiroedd yn ffordd wych o ddod â chymunedau at ei gilydd ac o roi hobi iach a boddhaus i bawb, ni waeth beth y bo'u hoedran neu eu galluoedd. "Mae llawer o'r rhandiroedd ledled Caerdydd yn cael eu rhedeg gan eu haelodau, gyda chefnogaeth Swyddog Rhandiroedd y Cyngor, ac maent yn ffynnu ond mae'n amlwg, wedi ymgynghori â deiliaid yr hydref diwethaf, y gallwn wneud llawer i wella cyfleusterau a helpu i wneud rhandiroedd yn fwy hygyrch."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28628.html
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 01 Mawrth 2022
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:1,084,098(Dos 1: 402,727 Dos 2: 377,332 DOS 3: 8,251 Dosau atgyfnertha: 295,687)
Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 24 Chwefror 2022
- 80 a throsodd: 22,124 / 95% (Dos 1) 21,968 / 94.3% (Dos 2 a 3*) 20,871 / 95% (Dosau atgyfnertha)
- 75-79: 16,760 / 96.5% (Dos 1) 16,647 / 95.9% (Dos 2 a 3*) 15,875 / 95.4% (Dosau atgyfnertha)
- 70-74: 21,139 / 95.9% (Dos 1) 21,011 / 95.3% (Dos 2 a 3*) 20,333 / 95.3% (Dosau atgyfnertha)
- 65-69: 22,730 / 94.2% (Dos 1) 22,496 / 93.2% (Dos 2 a 3*) 21,177 / 94.1% (Dosau atgyfnertha)
- 60-64: 27,019 / 92.2% (Dos 1) 26,660 / 91% (Dos 2 a 3*) 24,751 / 92.8% (Dosau atgyfnertha)
- 55-59: 29,709 / 90.3% (Dos 1) 29,245 / 88.9% (Dos 2 a 3*) 26,800 / 91.6% (Dosau atgyfnertha)
- 50-54: 29,055 / 88% (Dos 1) 28,451 / 86.1% (Dos 2 a 3*) 25,391 / 89.2% (Dosau atgyfnertha)
- 40-49: 56,605 / 81.9% (Dos 1) 54,848 / 79.4% (Dos 2 a 3*) 45,863 / 83.6% (Dosau atgyfnertha)
- 30-39: 63,391 / 77.2% (Dos 1) 59,850 / 72.9% (Dos 2 a 3*) 43,740 / 73.1% (Dosau atgyfnertha)
- 18-29: 83,820 / 79.5% (Dos 1) 75,676 / 71.7% (Dos 2 a 3*) 47,605 / 62.9% (Dosau atgyfnertha)
- 16-17: 4,047 / 71.3% (Dos 1) 3,046 / 53.7% (Dos 2 a 3*) 72 / 2.4% (Dosau atgyfnertha)
- 13-15: 14,098 / 57.9% (Dos 1) 8,684 / 35.7% (Dos 2 a 3*)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 1,999 / 98.6% (Dos 1) 1,982 / 97.7% (Dos 2 a 3*) 1,830 / 92.3% (Dosau atgyfnertha)
- Gweithwyr cartrefi gofal: 3,703 / 99.1% (Dos 1) 3,651 / 97.7% (Dos 2 a 3*) 2,930 / 80.3% (Dosau atgyfnertha)
- Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,157 / 98.2% (Dos 1) 26,894 / 97.3% (Dos 2 a 3*) 24,245 / 90.2% (Dosau atgyfnertha)
- Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 8,207 / 82.7% (Dosau atgyfnertha)
- Yn glinigol agored i niwed: 10,775 / 94.7% (Dos 1) 10,617 / 93.3% (Dos 2 a 3*) 8,190 / 77.1% (Dosau atgyfnertha)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,342 / 90.8% (Dos 1) 45,040 / 88.3% (Dos 2 a 3*) 38,305 / 85% (Dosau atgyfnertha)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15): 676 / 64.9% (Dos 1) 490 / 47% (Dos 2 a 3*) 59 / 12% (Dosau atgyfnertha)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(5-11): 506 / 37.2% (Dos 1)
*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.
**Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (25 Chwefror - 03 Mawrth 2022)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
07 Mawrth 2022
Achosion: 724
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 197.3 (Cymru: 178.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 2,728
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 743.5
Cyfran bositif: 26.5 (Cymru: 23.0% cyfran bositif)