The essential journalist news source
Back
2.
March
2022.
Cyllideb 2022/23

2.3.22

Cafodd cynigion y gyllideb sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, amddiffyn y bobl dlotaf, darparu tai cyngor newydd a gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc, eu cymeradwyo gan y Cabinet yr wythnos diwethaf.

A picture containing calendarDescription automatically generated

Bydd y cynigion yn cael eu penderfynu drwy bleidlais mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 3 Mawrth.

Os bydd y Cyngor yn pleidleisio i basio'r cynigion, bydd y buddsoddiadau canlynol yn cael eu cyflawni dros y 5 mlynedd nesaf:

Buddsoddiad o £419m mewn tai cymdeithasol a thai cyngor newydd - fel y cartrefi modiwlar ynni-effeithlon hyn ar Crofts Street, Plasnewydd a adeiladwyd yn ddiweddar fel rhan o'n partneriaeth Cartrefi Caerdydd arobryn, neu'r 250 o gartrefi carbon isel newydd a gynlluniwyd ar gyfer y gymuned bresennol yn Nhrem y Môr. Mae'n ddatblygiad gwerth £65 miliwn

A group of people posing for a photo in front of a red buildingDescription automatically generated with medium confidence

Mae £205m hefyd wedi'i gynnig ar gyfer adeiladu ysgolion newydd (a £50m ar gyfer gwella'r seilwaith ysgolion presennol).

Pam gwario cymaint ar ysgolion? Oherwydd gall addysg dda, mewn adeiladau sy'n edrych fel hyn, drawsnewid bywydau.

A picture containing text, indoor, floorDescription automatically generated

Nododd arolygiad diweddar gan Estyn welliant parhaus yn ansawdd ac effeithiolrwydd gwasanaethau addysg yng Nghaerdydd ers ein harolygiad diwethaf ddeng mlynedd yn ôl.

Ond nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau, ac nid yw'r gwelliant hwnnw i gyd oherwydd yr ysgolion newydd rydym wedi eu hadeiladu, felly cynigir £9.3m yn ychwanegol ar gyfer cyllideb ysgolion gyffredinol eleni hefyd.

Mwy am yr adroddiad hwnnw gan Estyn yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28470.html

Er mwyn helpu i ddiogelu trigolion mwyaf agored i niwed y ddinas, byddai cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol hefyd yn cynyddu gan £23.9m y flwyddyn nesaf o dan y cynigion - gyda'r Gwasanaethau Oedolion yn derbyn £15.5m a £8.4m i'r Gwasanaethau Plant.

Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys £28m ar gyfer addasiadau i'r anabl i helpu pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain; £3.3m i'w fuddsoddi mewn darpariaeth seibiant i blant a llety ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal; a £2.2m ar gyfer gwasanaethau ieuenctid a chanolfannau lles.

A picture containing text, roadDescription automatically generated

A siarad am Wasanaethau Ieuenctid - cynigir rhoi cynnydd o £750 mil iddynt yn y gyllideb - dyna'r drydedd flwyddyn yn olynol i'w cyllideb dyfu, ac mae buddsoddiad ychwanegol hefyd ar gyfer Addewid Caerdydd, sy'n cysylltu pobl ifanc â busnesau a diwydiant lleol.

A bydd y gwaith hwnnw i wneud Caerdydd yn #CDYDDsynDdaiBlant yn parhau, gyda buddsoddiad arfaethedig o £13m ar gyfer parciau ac ardaloedd chwarae, fel yr un hwn a adnewyddwyd yn ddiweddar yng Nghaeau Llandaf.

A picture containing tree, ground, outdoor, parkDescription automatically generated

Mae £77m hefyd ar gyfer gwelliannau i seilwaith trafnidiaeth, ansawdd aer a llwybrau teithio llesol - buddsoddiad a fydd yn helpu i gyflawni Cyfnewidfa Drafnidiaeth newydd y Gorllewin ac yn parhau i adeiladu'r rhwydwaith cynyddol o lwybrau beicio y gallwch eu gweld yn y map hwn...

MapDescription automatically generated

...fel y gallwn leihau'r 41% o COe yng Nghaerdydd sy'n dod o drafnidiaeth wrth i ni weithio i gyflawni ein gweledigaeth #CaerdyddUnBlaned i ddod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030.

Diddordeb yn ein strategaeth Un Blaned? Cymerwch olwg ar y wefan: www.caerdyddunblaned.co.uk 

Gan aros gyda newid yn yr hinsawdd, mae £13m ar gyfer prosiectau ynni gwyrdd a chynaliadwyedd, gan barhau â'r gwaith sydd eisoes wedi'i ddechrau gyda chynlluniau fel y fferm solar 9MW a agorodd y llynedd. Cynigir £29.6m hefyd i helpu i ddelio â llifogydd ac erydu arfordirol.

Bydd £12 miliwn yn mynd tuag at gefnogi mentrau ailgylchu wrth i ni geisio cynyddu cyfraddau ailgylchu - ac os nad ydych eisoes wedi cael dweud eich dweud ar ein strategaeth wastraff ddrafft eto, gallwch wneud hynny yma:

https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=163117610866

Mae'r strategaeth wedi'i chynllunio i'n helpu i fynd o ble'r ydym yn awr, gyda thua 58% o wastraff y ddinas yn cael ei ailgylchu neu ei gompostio, i gyrraedd y targed o 70% a bennwyd gan Lywodraeth Cymru erbyn 2025 - ac oherwydd yn ogystal ag ailgylchu gwastraff, rydym am i strydoedd Caerdydd fod mor lân a di-sbwriel â phosibl, mae £1.2 miliwn ychwanegol y flwyddyn yn cael ei gynnig ar gyfer gorfodi a glanhau strydoedd.

A picture containing outdoor, ground, road, truckDescription automatically generated

Mae £35 miliwn hefyd ar gyfer mentrau adfywio economaidd, gan gynnwys y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, adfywio Dwyrain Caerdydd, Marchnad Caerdydd, a datblygiad ehangach Glanfa'r Iwerydd (yn ogystal â'r Arena Dan Do newydd a ariennir gan ddatblygwyr yn bennaf).

Ac mae llawer o ganolfannau hamdden Caerdydd wedi elwa'n ddiweddar ar gyfleusterau campfa a stiwdio newydd, derbynfeydd wedi'u huwchraddio a gwell ystafelloedd newid ond maent wedi'u clustnodi ar gyfer buddsoddiad pellach o £3.8 miliwn.

Ac yn olaf, mae £10 miliwn yn cael ei gynnig ar gyfer gwella cymdogaethau - y math o waith sydd wedi sicrhau gwelliannau allanol i eiddo masnachol ar Stryd Tudor yng Nglan yr Afon.

A picture containing text, building, outdoor, roadDescription automatically generated

Ac o ble y daw'r holl arian hwn?

Wel, ariennir buddsoddiadau o gyfuniad o grantiau, benthyca a derbyniadau cyfalaf.

Ond daw 73% o'n cyllideb refeniw gan Lywodraeth Cymru - eleni maen nhw wedi rhoi £52.6m yn ychwanegol i ni. Mae'n dipyn o arian, ond daw â chyfarwyddiadau bod yn rhaid ei ddefnyddio i ariannu'r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y sector gofal, ac ymdrin ag effaith yr ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.

Ar ben hynny, mae angen iddo hefyd cyfrif tuag at gau cronfa galedi a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i dalu am gostau enfawr Covid-19 i gyrff y sector cyhoeddus - yn ein hachos ni £120m dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys £51m o incwm a gollwyd.

A picture containing text, indoor, severalDescription automatically generated

Mewn gwirionedd, mae hynny'n golygu bod llawer o'r arian ychwanegol hwnnw eisoes wedi cael ei 'wario'. Ac wrth gwrs, mae angen i ni wneud arbedion o hyd - £7.7 miliwn ohonynt y flwyddyn nesaf, ar ben y chwarter biliwn o bunnoedd a arbedwyd gennym dros y 12 mlynedd diwethaf.

Mae hynny'n ein gadael gyda'r Dreth Gyngor.

Mae 27% o'n cyllid yn dod ohoni - ac mae cynnydd o 1.9% o dan chwyddiant (48c yr wythnos ar eiddo Band D) wedi'i gynnwys yn y cynigion, sydd wedi'i ddiwygio o gyfrifiadau cychwynnol y gallai fod angen cynnydd o 4%.

Mae 66% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol a bydd y cynnydd "llawer is na chwyddiant" yn helpu i "gynllunio ar gyfer dyfodol mwy disglair ar ôl y pan demig", yn ôl yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng. Chris Weaver.

Graphical user interface, diagram, textDescription automatically generated

Os hoffech gael mwy o fanylion am gynigion y gyllideb, fe welwch y cyfan yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=6662&Ver=4&LLL=1

Ac er nad yw'n gallu cystadlu â Netflix, gyda buddsoddiad o £900m ym mhopeth o ysgolion i wasanaethau cymdeithasol, a newid yn yr hinsawdd i lanhau strydoedd i'w trafod yn y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth, bydd y ffrwd fyw yn sicr yn ddiddorol.

Gwyliwch yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home

Gallwch ddarllen mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28547.html