21.2.22
Meddyliwch am ddinasoedd beicio gwych ac mae'n debyg y byddech yn fwy tebygol o ddewis Amsterdam na Chaerdydd. Ond fesul milltir, mae hynny'n newid.
I ddechrau, mae bellach yn bosibl beicio'r holl ffordd o Heol y Pedair Llwyfen yn Adamsdown i Heol Lecwydd yn Nhreganna ar lwybr beicio cyfan gwbl ar wahan
Mae'n gylch 15 munud eithaf hamddenol.
Ac mae'n rhan o rwydwaith ehangach o bum llwybr beicio sy'n cael eu datblygu ar draws y ddinas i helpu i wneud beicio'n fwy diogel ac yn gyflymach.
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd:
Beicffordd 1
Mae'r cam cyntaf ar hyd Heol Senghennydd ar agor ac mae contractwyr yn gweithio i'w gysylltu â rhan newydd o'r llwybr sy'n cael ei adeiladu ar Deras Cathays rhwng tafarn y Woodville a chyffordd Heol y Crwys/Heol y Dderwen Deg/Heol yr Eglwys Newydd.
Unwaith y bydd rhan Teras Cathays wedi'i gwblhau (gyda choed newydd a gerddi glaw i reoli dŵr glaw yn gynaliadwy), y cam nesaf fydd adeiladu'r rhan o'r llwybr ar hyd Heol yr Eglwys Newydd, rhwng y cyffyrdd â Heol y Crwys a Heol Allensbank.
Ar ôl ei gwblhau, bydd yn cysylltu ardaloedd preswyl â chyrchfannau allweddol fel Ysbyty Athrofaol Cymru, ysgolion cynradd, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Theatr y Sherman a chanol y ddinas (lle bydd yn cysylltu â'r ddolen arfaethedig yng nghanol y ddinas).
Beicffordd 2
Mae'r beicffordd dros dro ar Heol Casnewydd bellach ar agor - ar hyn o bryd mae'n rhedeg o Heol y Pedair Llwyfen drwy ganol y ddinas lle mae'n cysylltu â Beicffordd 5.
Mae opsiynau ar gyfer llwybr ar wahân parhaol sy'n ymestyn i'r dwyrain ar hyd Heol Casnewydd i gysylltu â datblygiad arfaethedig yr orsaf reilffordd newydd (ac yn y pen draw i Gasnewydd) yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio ymgynghori ar gynigion cychwynnol yn ddiweddarach eleni.
Beicffordd 3
Mae disgwyl i'r llwybr dros dro ar Stryd Tyndall agor yn ffurfiol y mis hwn, acmae estyniadau gwell i Fae Caerdydd a Stryd James yn cael eu hystyried fel rhan o gynlluniau ar gyfer yr arena dan do newydd, a datblygiadau eraill yn yr ardal.
Beicffordd 4
Mae cam cyntaf Beicffordd 4, drwy Erddi Sophia ac ar hyd isffordd Caeau Pontcanna eisoes wedi'i gwblhau - y cyfan sydd ar ôl i'w wneud yw cyflwyno'r goleuadau amgylcheddol sensitif sy'n cael eu cynllunio ar hyn o bryd.
Y llynedd, gwnaethom ymgynghori ar gam nesaf y llwybr - o Gaeau Pontcanna hyd at Landaf. Bydd mwy o ymgynghori cyhoeddus ar hynny'n ddiweddarach eleni unwaith y bydd y cynlluniau cysyniadol ar gyfer opsiynau llwybrau yn barod.
Beicffordd 5
Dyma ran orllewinol y llwybr traws-ddinas. Mae'r rhan gyntaf ar hyd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen a Stryd Wellington ar agor ar ffurf ‘dros dro' ar hyd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen a Stryd Wellington, ac rydym yn gweithio ar opsiynau dylunio ar gyfer llwybr parhaol, ar wahân.
Byddwn yn gofyn eich barn ar yr opsiynau hynny yn ddiweddarach eleni.
Bydd y llwybr ar hyd Heol Lecwydd yn cysylltu â'r darn o lwybr a gynlluniwyd ar hyd Rhodfa Lawrenny (ac yn y pen draw ymlaen i Gaerau a Threlái).
Y nod yw dechrau adeiladu cynllun Rhodfa Lawrenny y gwanwyn hwn i gyd-fynd ag agoriad yr Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd, fel y gallwn wneud dewis teithio llesol i'r ysgol yn daith mor dda â phosibl i blant.
Coridor Parc y Rhath.
Rydym yn edrych ar opsiynau dylunio ar gyfer llwybr beicio ar wahân sy'n ymestyn i'r gogledd-ddwyrain o ganol y ddinas a bydd ymgysylltu â'r cyhoedd ar gynigion cychwynnol o amgylch Parc y Rhath yn cael ei wneud yn fuan.
Felly mae newid ar droed! Ac nid cyn pryd.
Mae trafnidiaeth yn cynhyrchu 41% o gyfanswm CO₂Caerdydd, felly mae cael pobl allan o'u ceir (os ydynt yn gallu) ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar feic, neu'r dull traddodiadol ar ddwy droed yn rhan allweddol o'n hymateb #CaerdyddUnBlaned i'r argyfwng hinsawdd.
Yn ogystal â bod yn ecogyfeillgar, mae beicio hefyd yn dda i deuluoedd, yn dda i blant, ac mae ymarfer corff cymedrol a rheolaidd hefyd yn dda i'r corff a'r meddwl.
Ond nid yw beicio'n mynd i fod yn addas i bawb, dyna pam rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid er mwyn helpu i wella trafnidiaeth gyhoeddus. Gwnaethom ymgynghori'n ddiweddar ar ein strategaeth 9 pwynt gyda'r nod o ddyblu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau.
Mae'r strategaeth yn cynnwys cyflwyno prisiau rhatach; gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu system docynnau integredig sy'n gweithio gyda'r Metro; cael mwy o fysiau allyriadau isel ar y ffordd, seilwaith adeiladu a fydd yn gwneud teithio ar fysiau yn haws ac yn gyflymach; a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid.
Teg yw dweud nad ydym eto fel Amsterdam. Ond un diwrnod, fe allem fod.
Wedi'r cyfan, mae gennym fwy yn gyffredin nag y mae rhai pobl yn ei dybio.
Y tywydd yn un peth. A oeddech chi'n gwybod mai dim ond tri diwrnod o law y flwyddyn yn fwy sydd yma ar gyfartaledd nag yn Amsterdam?1
Bydd camlesi gennym cyn hir hefyd...
Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28407.html
Ac ok, efallai ar hyn o bryd nad yw'r un diwylliant beicio yma ac sydd yn Amsterdam...
Ond gall y pethau hyn newid.
Ar un adeg, doedd y diwylliant hwn ddim gan Amsterdam ychwaith.
1(Ffynhonnell:www.weather2travel.com)