Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol drwy gydol mis Hydref; Adolygu Ffiniau Etholiadol Awdurdodau Lleol; lansio rheolau newydd i orfodi perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.
Bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol drwy gydol mis Hydref
Bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol drwy gydol mis Hydref. Rydym yn cynghori trigolion i edrych ar wefan y cyngor -www.caerdydd.gov.uk/gwastraffgardd- neu app Cardiff Gov, i gael gwybod pryd y bydd eu gwastraff gardd yn cael ei gasglu ym mhob ardal y ddinas.
Yn ogystal â'r casgliadau gwastraff gardd misol wrth ymyl y ffordd, gellir parhau i ddod â gwastraff gardd i'n canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer, drwy gadw slot drwy wefan y cyngor -www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu.
Bydd y ddarpariaeth ychwanegol i drigolion ddod â'u gwastraff gardd i'r canolfannau ailgylchu hefyd yn parhau nes y clywir yn wahanol, ac mae'n cynnwys:
- Cynyddu'r lwfans blynyddol ar gyfer ymweliadau i 30 fesul aelwyd yn hytrach na 26
- Cynyddu'r slotiau sydd ar gael fesul diwrnod o 400 i 570 (i fyny 42.5%);
- Caniatáu i aelwydydd gadw slot, ac ymweld ar yr un diwrnod lle mae slotiau ar gael
- Caniatáu i aelwydydd ymweld hyd at 3 gwaith y dydd (mae hyn wedi'i gyfyngu i 1 ar hyn o bryd) a:
- Cynyddu ein hamseroedd agor, gyda'r slotiau olaf sydd ar gael ar gyfer gollwng am 5.30pm.
Mae'r trefniadau hyn ar waith ar gyfer pawb sy'n ymweld â'r canolfannau ailgylchu mewn car a chynghorir trigolion bod angen iddynt ddod â'u cadarnhad cadw slot, ynghyd â phrawf eu bod yn preswylio yn Nghaerdydd, megis trwydded yrru, a'i gyflwyno i staff wrth gyrraedd y safle.
O ystyried bod achosion Covid yng Nghymru yn cynyddu unwaith eto, byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am unrhyw newidiadau i amserlenni casglu maes o law.
Adolygu Ffiniau Etholiadol Awdurdodau Lleol
Bydd nifer o newidiadau i drefniadau ffiniau etholiadol yng Nghaerdydd yn digwydd dros y misoedd nesaf, yn dilyn penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
Mae'r newidiadau'n ceisio sicrhau bod cymhareb nifer etholwyr llywodraeth leol i'r nifer o gynghorwyr mewn ward, cyn belled ag y bo modd, yr un fath ym mhob ward yn y ddinas.
Yn dilyn argymhellion yn gynharach eleni gan Gomisiwn Ffiniau Democratiaeth Leol i Gymru i wneud diwygiadau i'r trefniadau presennol yn y ddinas, mae'r Gweinidog Rebecca Evans AS wedi penderfynu gweithredu'r argymhellion gydag addasiadau.
Bydd y newidiadau'n gweld nifer yr aelodau etholedig yn y ddinas yn cynyddu o'r ffigur presennol o 75 i 79, tra bydd nifer y wardiau etholiadol yn gostwng o 29 i 28. Bydd ward bresennol Creigiau / Sain Ffagan yn cael ei chynnwys mewn ward newydd - Pentyrch a Sain Ffagan tra bydd ardal y Ddraenen, a oedd gynt wedi'i chynnwys yn ward Llanisien, bellach yn dod yn rhan o ward newydd Llys-faen a'r Ddraenen.
Bydd rhai wardiau yn y ddinas yn gweld cynnydd yn nifer yr aelodau sy'n gwasanaethu'r ward, tra bod eraill yn gweld gostyngiad. Mewn 19 ward ni fydd unrhyw newidiadau.
Ni chytunwyd ar yr argymhelliad i gyfuno cymunedau Llanrhymni a Phentref Laneirwg i ffurfio ward newydd a gynrychiolid gan dri chynghorydd.
Caiff y newidiadau hyn eu hadlewyrchu yng nghyhoeddiad diwygiedig y gofrestr etholwyr ar 1 Rhagfyr 2021 a byddant mewn grym ar gyfer yr Etholiadau Llywodraeth Leol a drefnwyd ar gyfer 5 Mai 2022.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog yma:https://gov.wales/written-statement-local-authority-electoral-boundary-review-update-9
Lansio rheolau newydd i orfodi perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol
Daw Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) newydd, a gynlluniwyd i helpu i wella mannau cyhoeddus a gwyrdd, i rym ar draws y ddinas o ddydd Llun, 4 Hydref.
Bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn caniatáu i gyngor Caerdydd gymryd camau yn erbyn perchnogion cŵn sy'n caniatáu i'w hanifeiliaid anwes faeddu mewn ardal o dir cyhoeddus heb lanhau ar eu hôl.
Mae'r Gorchymyn, a lansiwyd yn dilyn ymgynghoriad llawn, hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i:
- unrhyw berson sy'n gyfrifol am gi gario bagiau gwastraff baw cŵn a'u dangos os yw Swyddog y Cyngor neu'r Heddlu'n gofyn iddynt wneud hynny;
- cadw cŵn ar dennyn ym mhob mynwent sy'n eiddo i ac/neu a gynhelir gan Gyngor Caerdydd;
- Cadw cŵn dan reolaeth briodol mewn mannau cyhoeddus; a
- Gwaherddir cŵn o fannau cyhoeddus penodol gan gynnwys mannau chwarae i blant ac ardaloedd gemau.
Os na chydymffurfir â gofynion y gorchymyn, gallai swyddog awdurdodedig gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig hyd at £100 a allai godi i £1,000 os na chaiff ei dalu.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, "Gwnaed yr ymrwymiadau hyn yn dilyn ymgynghoriad helaeth dros dair blynedd ynghylch y rheolaethau cŵn.
"Cawsom dros 6,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad ac ymgysylltom yn uniongyrchol â grwpiau cŵn a grwpiau defnyddwyr agored i niwed i esbonio'r rheolaethau, a roddodd y gallu i ni ddeall y ffordd orau o reoli pryderon heb effeithio ar fywydau pobl a lles eu cŵn."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27656.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (20 Medi - 26 Medi)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
30 Medi 2021, 09:00
Achosion: 2,083
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 567.7 (Cymru: 638.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 14,603
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,980.1
Cyfran bositif: 14.3% (Cymru: 15.4% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 30 Medi
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 724,175 (Dos 1: 371,517 Dos 2: 352,658)
- 80 a throsodd: 20,468 / 94.6% (Dos 1) 20,258 / 93.6% (Dos 2)
- 75-79: 15,030 / 96.4% (Dos 1) 14,852 / 95.2% (Dos 2)
- 70-74: 21,417 / 95.7% (Dos 1) 21,284 / 95.1% (Dos 2)
- 65-69: 21,957 / 94.2% (Dos 1) 21,689 / 93.1% (Dos 2)
- 60-64: 26,024 / 92.3% (Dos 1) 25,684 / 91.1% (Dos 2)
- 55-59: 29,378 / 90.3% (Dos 1) 28,853 / 88.7% (Dos 2)
- 50-54: 29,049 / 88% (Dos 1) 28,362 / 85.9% (Dos 2)
- 40-49: 55,427 / 81.7% (Dos 1) 53,341 / 78.7% (Dos 2)
- 30-39: 60,712 / 75.6% (Dos 1) 56,557 / 70.4% (Dos 2)
- 18-29: 80,121 / 76.8% (Dos 1) 71,085 / 68.1% (Dos 2)
- 16-17: 3,978 / 72.8% (Dos 1) 286 / 5.2% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,051 / 98.2% (Dos 1) 2,027 / 96.9% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,244 / 94.2% (Dos 1) 11,029 / 92.4% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,218 / 90.1% (Dos 1) 44,545 / 86.9% (Dos 2)