The essential journalist news source
Back
7.
February
2018.
Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol

 

Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol

 

Bydd Cyngor Caerdydd yn nodi Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol eleni drwy oleuo Neuadd y Ddinas â golau pinc.

 

Bydd Neuadd y Ddinas i'w weld yn binc ar ddydd Mercher 14 Chwefror tra bydd baneri enfys Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn cyhwfan uwch Neuadd y Sir a Neuadd y Ddinas yr wythnos hon ac eto'n ddiweddarach yn y mis.

 

 Caiff mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol ei nodi bob mis Chwefror a'i nod yw cynyddu gwelededd Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, eu hanes, eu bywydau a'u profiadau yn ein cymunedau.

 

Y thema eleni yw Daearyddiaeth: Bydd Mapio'r Byd, pan fo gwledydd ym mhob cwr yn cefnogi achos Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol i ennill cydraddoldeb, yn cael ei gydnabod a'i ddathlu.

 

Mae digwyddiadau i nodi'r mis yn cael eu cynnal ledled Caerdydd gan gynnwys arddangosfa OUTing the Past yn y Senedd ar 10 Chwefror, Marchnad Ffermwyr cyfeillgar i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol ar gampws Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn Llandaf ar 20 Chwefror a Chynhadledd Gweithle Stonewall Cymru ar 21 Chwefror.

 

Mae cyfres o ffilmiau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu dangos yng nghanolfan y cyfryngau yn Sgwâr Loudoun drwy gydol y mis tra bydd Clwb Llyfrau Dynion Hoyw'r Chapter yn cwrdd am 5.30pm ar 26 Chwefror yn y Chapter.

 

Dywedodd y Cyng. Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:"Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol dros ben.Cofleidiwn a dathlwn yr amrywiaeth yna ac rydym yn ymrwymedig i adeiladu cymdeithas deg lle gall ein holl ddinasyddion gyrchu'r gwasanaethau sy'n ateb eu hanghenion, waeth beth yw eu cyfeiriadaeth rywiol, rhyw, hil neu allu.

 

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gydraddoldeb Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol ac yn falch o allu cefnogi mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol mewn modd mor weledol, drwy oleuo Neuadd y Ddinas yn binc a chodi baner yr enfys yno ac ar Neuadd y Sir hefyd."