The essential journalist news source
Back
31.
January
2018.
Mae gweithio clyfar yn y Tŷ Clyfar yn helpu pobl i gadw annibyniaeth am gyfnod hwy

Mae gweithio clyfar yn y Tŷ Clyfar yn helpu pobl i gadw annibyniaeth am gyfnod hwy

 

Mae gwasanaeth partner llwyddiannus rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cefnogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth a pharhau i fyw yn eu tai eu hunain.

 

Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei ddarparu o'r Ganolfan Byw'n Annibynnol, neu'r ‘Tŷ Clyfar' yn Llanisien yn cael ei ddefnyddio gan dimoedd o'r gwasanaeth iechyd, tai a gofal cymdeithasol i helpu pobl i aros yn eu cartrefi yn hwy, yn ogystal ag atal derbyniadau i ysbytai neu oedi mewn rhyddhau cleifion o'r ysbyty.

 

Datblygwyd y Tŷ Clyfar gan wasanaeth offer ar y cyd Caerdydd a'r Fro, a ariannwyd gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. Mae'r cyfleuster yn arddangos yr offer, y cymhorthion a'r addasiadau diweddaraf sydd ar gael i bobl sydd angen cymorth ychwanegol i fyw'n annibynnol.

 

Mae tua 50 o bobl y mis, y rhan fwyaf ohonynt yn bobl hŷn neu'n bobl anabl, yn ymweld â'r ganolfan i gael golwg ar addasiadau ac offer.  Mae hefyd yn darparu amgylchedd asesu pwysig i Therapyddion Galwedigaethol brofi offer newydd a all wella gallu unigolion i gyflawni tasgau sylfaenol.

 

Ymwelodd Huw Irranca Davies, Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, â'r Tŷ Clyfar heddiw (31 Ionawr) i gael mwy o wybodaeth am y gwaith partneriaeth ac am effaith y Gronfa Gofal Integredig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant: "Ers iddi agor yn 2015, mae'r Ganolfan Byw'n Annibynnol wedi bod yn llwyddiannus dros ben wrth roi cyfleoedd i weithwyr proffesiynol iechyd, tai a gofal cymdeithasol gydweithio a chyfuno eu harbenigedd er mwyn sicrhau deilliannau cadarnhaol ar gyfer dinasyddion, boed hynny'n rhyddhau cleifion yn ddiogel ac yn annibynnol o'r ysbyty, neu'n hwyluso'r gwaith o addasu cartrefi unigolion er mwyn gwella eu hannibyniaeth.

 

"Mae'r gwasanaeth hwn yn enghraifft arbennig o dda o weithio integredig yn y sectorau iechyd, tai a gofal cymdeithasol, ac roedden ni'n falch iawn o groesawu'r Gweinidog i ddangos iddo sut y mae'r gwasanaeth arloesol hwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl."