The essential journalist news source
Back
30.
January
2018.
Gwaith yn dechrau ar gynlluniau peilot seilwaith beicio
Mae gwaith wedi dechrau ar ddau gynllun peilot seilwaith feicio yn rhan o gynlluniau Cyngor Caerdydd i roi teithio llesol wrth galon polisi trafnidiaeth y ddinas.

Caiff cynllun gwahanu ysgafn, lle bo beicwyr yn cael eu gwahanu o'r traffig gan gyfres o amddiffynwyr lôn, ei dreialu ar hyd llwybr 300 metr ym Maes-y-Coed Road.  Mae’r amddiffynwyr lôn yn gweithredu fel rhwystr ffisegol sy’n atal cerbydau rhag mynd i mewn i’r lôn feiciau ac sy’n creu llwybr mwy diogel arall i feicwyr deithio yn Caerphilly Road. 

Yn Heol y Gadeirlan, mae’r goleuadau traffig wrth gyffordd Talbot Street a Sophia Close yn cael eu huwchraddio, ac mae’r gwaith hwn yn cynnwys cyflwyno arwyddion lefel isel i feicwyr a threialu cynllun sy’n galluogi beicwyr i ddechrau teithio am 4 eiliad cyn i gerbydau ddechrau teithio.Y bwriad yw helpu beicwyr sy’n teithio’n syth yn eu blaenau trwy’r gyffordd i osgoi gwrthdaro gyda cherbydau sy’n troi i’r dde.Caiff croesfannau i gerddwyr hefyd eu creu a fydd yn galluogi cerddwyr i groesi Talbot Street a Sophia Close.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth:  “Nid yw cynlluniau o’r natur hon erioed wedi’u gwneud yng Nghaerdydd o’r blaen, felly byddwn yn gwrando’n astud ar yr adborth rydym yn ei dderbyn, gyda golwg ar gyflwyno'r math hwn o seilwaith mewn ardaloedd eraill o'r ddinas."

“Mae beicio eisoes yn gwaredu tagfeydd o 33 milltir ar ein ffyrdd bob dydd ac rydym yn gwybod yr hoffai 57% o bobl yng Nghaerdydd ddechrau reidio beic yn fwy – mae pobl yn fwy tebygol o adael eu ceir adref os ydym yn gwneud beicio’n haws ac yn ddiogelach.

“Yn amlwg mae llawer mwy o waith i’w wneud i wireddu ein gweledigaeth o wneud Caerdydd yn ddinas feicio o safon fyd-eang, ond mae’r cynlluniau peilot hyn, ynghyd â’r gwaith sy’n dod o gyflwyno cynllun llogi beiciau ledled y ddinas, y cynlluniau ar gyfer hyb beiciau yng nghanol y ddinas a rhwydwaith o draffyrdd beicio, yn dangos bod beicio'n wir wrth galon ein cynlluniau trafnidiaeth ar gyfer Caerdydd."

Yn ogystal â’r cynlluniau peilot hyn, bydd y Cyngor hefyd yn uwchraddio'r seilwaith feicio trwy faes parcio Heol y Gogledd, gan gynnwys ail-leoli’r llwybr beicio yng nghefn y maes parcio a'i ehangu i greu llwybr beicio gwbl ar wahân.Caiff croesfan twcan1 ei gosod hefyd wrth gyffordd Heol Corbett, gan ei gwneud yn haws ac yn ddiogelach i gerddwyr a beicwyr groesi Heol y Gogledd.

Disgwylir i’r gwaith ar Heol y Gogledd gychwyn ar ddechrau'r Gwanwyn yn dilyn proses dendro gystadleuol, a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ystod yr haf.

Disgwylir i waith ym Maes-y-Coed Road gael ei gwblhau ym mis Mawrth gyda’r gwaith gwella yn Heol y Gadeirlan yn cael ei gwblhau yn ystod mis Ebrill.

 

¹ Mae croesfan twcan yn galluogi cerddwyr a beicwyr i groesi gyda’i gilydd.