The essential journalist news source
Back
26.
January
2018.
Cyngor teithio Cymru v Yr Alban 3 Chwefror

Bydd Cymru'n herio'r Alban yn y 6 Gwlad yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 3 Chwefror.

Bydd y gic gyntaf am 2.15pm a bydd ffyrdd ar gau o amgylch y ddinas o 10.45am i 5.15pm.

Bydd trefniadau diogelwch llym ar waith yn Stadiwm Principality felly dylai pawb sy'n dod i Gaerdydd i wylio'r gêm ganiatáu digon o amser i gyrraedd y ddinas a mynd i mewn i'r stadiwm.

Dylai cefnogwyr rygbi adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau sydd wedi'u gwahardd a restrir yn principalitystadium.wales cyn iddynt deithio i'r ddinas.

Mae manylion gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn i'r wasg.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).

  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).

  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.

  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).

  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.

  • Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

O 3.45pm, bydd Rhodfa'r Orsaf ar gau. Bydd modd i gerbydau adael maes parcio Canolfan Siopa Capitol drwy Stryd Ogleddol Edward/Rhodfa'r Orsaf tua'r gogledd, tuag at Heol Casnewydd/Dumphries Place.

Noder: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Trenau

ByddGreat Western Railwayyn rhedeg y gwasanaethau ychwanegol canlynol ar 3 Chwefror

        Dau drên ychwanegol o ac i Bristol Temple Meads

        Un ychwanegol o ac i Lundain Paddington

        Un ychwanegol o Abertawe a thri i Abertawe

        Un ychwanegol o Barcffordd Port Talbot.

Mae Trenau Arriva Cymru wedi rhoi gwybod i gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd.  Bydd capasiti ychwanegol ar gael, ond os ydych yn teithio i'r Ddinas ar drên ar gyfer y gêm, ceisiwch ddod ar y gwasanaeth cynharaf posibl.

Ar ôl y gêm, bydd cwsmeriaid ar gyfer gwasanaethau lleol Caerdydd a'r Cymoedd yn defnyddio Gorsaf Heol-y-Frenhines - felly trenau ar gyfer Penarth; y Barri; Aberdâr, Treherbert, Merthyr, Rhymni, Coryton a gorsafoedd Llinell y Ddinas. Bydd y system giwio arferol ar waith yng Ngorsaf Caerdydd Canolog ar gyfer pob lleoliad arall. 

Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir mynd yno o gyffordd 33 yr M4 ac yna dilyn yr arwyddion i Leckwith Road.

I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i -https://www.parkjockey.com/principality-stadium

Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig). Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, bydd angen i chi argraffu eich cadarnhad a'i roi i aelod o staff.

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am a bydd yn agor am 9.00am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 6.30pm a bydd y maes parcio'n cau am 7.00pm.

Traffyrdd a phriffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio rhag blaen a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a phriffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4

Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 5.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau a adawir yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £12 ymlaen llaw ar-lein neu £15 yn y maes parcio (arian parod yn unig).

Os byddwch yn archebu lle parcio ymlaen llaw bydd angen i chi argraffu'r cadarnhad a'i roi i aelod o staff wrth bario'ch cerbyd.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am. Rhaid symud cerbydau neu roi tocyn talu ac arddangos arnynt o 8am ddydd Sul 4 Chwefror.

I gadw lle parcio ymlaen llaw, cliciwch ar: https://www.parkjockey.com/principality-stadium (mae hyn ar gael i geir yn unig).

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.

Parcio i'r Anabl

Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn

meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Parcio Siopa

Cynghorir siopwyr i ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol a neilltuwyd ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir.

Neu mae'r meysydd parcio yng nghanol y dref hefyd ar gael; Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP - Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion

Tacsis

Bydd y rhes dacsis ar Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau rhwng 10.45am a 5.15pm.
 
Bysus

Bysus lleol: 
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd a fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Tudor Street tua'r gorllewin. 
 
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
 
National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.