Bydd pob ffordd yng nghanol y ddinas ar gau ar gyfer gornest uno pwysau trwm Anthony Joshua yn erbyn Joseph Parker yn Stadiwm Principality ar 31 Mawrth.
Bydd gwiriadau diogelwch mwy manwl yn digwydd yn Stadiwm y Principality, felly dylai deiliad pob tocyn ddisgwyl cael ei archwilio yn y lleoliad. O ystyried hyn, cynghorir deiliaid tocynnau yn gryf i neilltuo digon o amser i gyrraedd Caerdydd a'r stadiwm.
Gyda thorf o fwy na 65,000 o bobl yn llenwi'r stadiwm, mae'r awdurdodau'n cynghori pob deiliad tocyn i gynllunio eu teithio cyn prynu eu tocyn, oherwydd bydd gwasanaethau trên yr hwyrnos yn gyfyngedig iawn o ganlyniad i waith peirianyddol cynlluniedig ar y rheilffordd a disgwylir i'r rhwydwaith ffyrdd fod yn brysur iawn.
Bydd pecynnau teithio ar gael gan drefnwr y digwyddiad. Bydd y rhain ar werth o hanner dydd, ddydd Mawrth, drwy www.seetickets.com, a gallwch eu casglu/eu gollwng mewn amrywiol leoliadau ledled y DU.
Bydd y gatiau ar agor am 5pm. Disgwylir i'r digwyddiadau bocsio rhagarweiniol gychwyn am 5.10pm ac mae'r brif ornest i fod i gychwyn am 10.30pm (i'w gadarnhau).
Ychydig iawn o wasanaethau trenau fydd yn rhedeg ar ôl y brif ornest, o ganlyniad i waith peirianyddol ar y rheilffordd. Cynghorir teithwyr i gynllunio eu siwrne ymlaen llaw yma: www.nationalrail.co.uk; neu drwy ffonio Llinell Deithio Cymru ar 0800 464 0000.
Disgwylir y bydd llawer iawn o alw am dacsis ar ôl y digwyddiad. Cynghorir pawb sy'n dod i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad i gynllunio ymlaen llaw.
Cynghorir y rheiny sy'n teithio mewn car i gadw lle yn y cyfleuster parcio a theithio, neu drwy ddilyn y ddolen hon cyn cychwyn - https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Bydd pob ffordd o gwmpas y stadiwm yng nghanol y ddinas ar gau o 4pm nes 1am y bore canlynol.
Mae manylion gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn i'r wasg.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas:
Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sydd yn arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Noder:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Anogir cefnogwyr bocsio felly i gynllunio i gyrraedd y stadiwm mewn da bryd, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau sydd wedi eu gwahardd yma principalitystadium.walescyn prynu tocynnau.
Trenau
Ychydig iawn o wasanaethau trên fydd yn rhedeg ar ôl y brif ornest o ganlyniad i'w hamser gorffen disgwyliedig a gwaith adnewyddu rheilffordd cynlluniedig. Cynghorir teithwyr i gynllunio eu siwrne ymlaen llaw yma yn www.nationalrail.co.uk; neu drwy ffonio Llinell Deithio Cymru ar 0800 464 0000.
Mae Network Rail yn cynllunio ei waith peirianyddol dros flwyddyn ymlaen llaw. Yn ystod Gŵyl Banc y Pasg eleni, bydd peirianwyr Network Rail yn cyflawni gwaith moderneiddio ar y brif linell De Cymru a byddant yn gosod system signalau newydd yng ngorsaf Temple Meads Bryste.
Efallai yr effeithir ar deithwyr sy'n teithio i'r ornest neu ohoni gan waith adnewyddu rheilffordd:
Rhwng Caerdydd a Chasnewydd, lle y bydd ychydig o drenau yn unig yn rhedeg ar ôl yr ornest.
Yng Ngorsaf Temple Meads Bryste, lle na fydd unrhyw drenau'n stopio yn yr orsaf drwy'r dydd. Dylai teithwyr ddefnyddio gorsaf Parkway Bryste yn lle hynny.
Parcio a Theithio Digwyddiad
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio Digwyddiad ar gael yn Lecwydd, a gellir mynd yno o gyffordd 33 oddi ar yr M4 ac yna dilyn yr arwyddion i'r safle.
I gadw lle ar y gwasanaeth Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i - https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.
Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.
Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 11.30am, a bydd y bws cyntaf yn gadael y safle am hanner dydd. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 12.30am a bydd y maes parcio'n cau am 1am.
Traffyrdd a phriffyrdd
Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio rhag blaen a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a phriffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.
Parcio ar y Diwrnod
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4
Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos
Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan hanner nos, gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Caiff unrhyw gerbydau a adawir yn y maes parcio ar ôl yr amser cau, ddirwy.
Parcio Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)
Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £12 ymlaen llaw ar-lein neu £15 yn y maes parcio (arian parod yn unig).
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
I archebu man parcio ymlaen llaw, cliciwch: https://www.parkjockey.com/principality-stadium(ceir yn unig).
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud..
Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.
Parcio i'r Anabl
Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae Parcio i'r Anabl ar gael hefyd mewn amryw feysydd parcio preifat. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Tacsis - bydd y rhes dacsis ar Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau rhwng 3pm a 12.30am.
Bysiau
Bysiau lleol:
Caiff bysus eu dargyfeirio allan o arosfannau bws Caerdydd Canolog. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd a fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Tudor Street tua'r gorllewin.
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.