Mae Tony's Kitchen Gallery ar Heol yr Eglwys Newydd, Gabalfa, wedi derbyn dirwy o £3,200 am gyfres o droseddau hylendid bwyd yn cynnwys baw llygod y daethpwyd o hyd iddo yn y gegin.
Daeth yr achos ger bron y Barnwr Rhanbarthol Bodfan Jenkins yn Llys yr Ynadon, Caerdydd Ddydd Iau diwethaf (11 Ionawr ), a ddwedodd wrth grynhoi'r achos fod y busnes yn "dŷ bwyta dychrynllyd o frwnt".
Aeth swyddogion Cyngor o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir rhwng Caerdydd, Bro Morgannwg a Chyngor Pen-y-bont ar ymweliad gyntaf â Tony's Kitchen Gallery ym mis Tachwedd 2016 ac unwaith eto ym mis Mai 2017 a chanfod nad oedd gan y tŷ bwyta system rheoli diogelwch bwyd ar waith a bod mesurau rheoli plâu yn aneffeithiol.
Ar y ddau achlysur cytunodd y cwmni i gau'r tŷ bwyta tan i'r glanhau hanfodol gael ei gwblhau a mesurau rheoli plâu eu gweithredu.
Er gwaetha'r cyngor a roddwyd, parhaodd y busnes i fethu ac fe gyfaddefodd y perchennog yn y llys ‘nad oedd yr arian ganddo i atgyweirio'r adeilad nac i atal plâu'.
Ymddiheurodd cyfarwyddwr y cwmni - Mrs Sinha o Heol yr Eglwys Newydd, Gabalfa - i'r llys a chyfaddef fod y busnes wedi "dirywio ers 2014 ac na chafwyd cynnydd mewn busnes" ac yn sgil nifer o resymau personol roedd "cyflwr cyffredinol y safle wedi dirywio".
Wedi adolygu cyfrifon y cwmni daeth yn amlwg nad oedd asedau gan y cwmni a bod cyfarwyddwr y cwmni yn byw ar gredydau treth.
Derbyniodd y cwmni gyfanswm dirwy o £3,200, ei orchymyn i dalu costau o £1,660 ac ardoll dioddefwr o £40. Yn sgil cyflwr ariannol gwael y cwmni, gosodwyd cyfradd dalu o £20 yr wythnos felly fe fydd angen pum mlynedd ar gyfarwyddwr y cwmni i ad-dalu'r swm dyledus yn llawn.
Diolchodd y Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd, yr holl staff a fu ynghlwm wrth yr achos.
Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Mae dyletswydd ar bob busnes i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth. Mae'n siomedig er gwaetha'r help a'r cymorth a gynigiwyd, bod y cwmni wedi dewis parhau i weithredu mewn modd is na'r safon ddisgwyliedig. Yn yr amgylchiadau hyn gweithredir yn erbyn unrhyw fusnes gaiff ei gael yn euog o syrthio'n is na'r safon angenrheidiol ac mae ein record yn mynd â'r achosion hyn i'r llys yn rhagorol."