Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau manwl ar gyfer y buddsoddiad unigol mwyaf yn ysgolion Caerdydd.
Ariennir y buddsoddiad o £284m ar y cyd gan y cyngor a Llywodraeth Cymru, yn rhan o gam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer Caerdydd a fydd yn dechrau yn 2019.
Mae cynlluniau’n cynnwys ysgolion uwchradd newydd, ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg newydd, ac ysgolion arbennig newydd.
Yn yr ail mewn cyfres, dyma ddadansoddiad manwl o’r hyn y mae’r cynlluniau yn ei olygu i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg y brifddinas.
Ysgol Gynradd Mair Ddihalog
Bydd ysgol newydd yn dod yn lle Ysgol Gynradd Mair Ddihalog a bydd yn dyblu mewn maint, o 30 lle y flwyddyn fel y mae ar hyn o bryd, i 60 lle y flwyddyn. Bydd lleoedd ar gyfer 420 o ddisgyblion, a meithrinfa.
Bydd hyn yn mynd i’r afael ag amcanestyniadau o gynnydd yn y galw am leoedd cyfrwng Saesneg yn ardal Grangetown a Butetown, a'r galw newydd fydd yn cael ei greu gan ddatblygiadau tai sydd wedi eu cymeradwyo.
Ysgol Gynradd y Tyllgoed
Bydd Ysgol Gynradd y Tyllgoed yn cael ei hehangu i ddarparu ar gyfer 420 o leoedd, yn lle 210 ar hyn o bryd, a meithrinfa.
Bydd hyn yn bodloni’r galw am leoedd cyfrwng Saesneg yn y ei dalgylch, ac yn mynd i'r afael hefyd â'r cynnydd mewn galw ddaw yn sgil datblygiadau tai yn yr ardal.
Ysgol Pen y Pil
Bydd Ysgol pen y Pil yn dyblu mewn maint, a bydd lle felly i 420 o ddisgyblion, a meithrinfa.
Bydd hyn yn mynd i’r afael â’r prinder lleoedd cyfrwng Cymraeg a ragwelir yn nwyrain Caerdydd.
Ysgol Gymraeg Nant Caerau
Bydd Ysgol Gymraeg Nant Caerau hefyd yn dyblu mewn maint, a bydd lle i 420 o ddisgyblion, a meithrinfa.
Bydd hyn yn mynd i’r afael â’r prinder lleoedd cyfrwng Cymraeg a ragwelir yn ne orllewin Caerdydd.
Mae’r cynlluniau a ddewiswyd ar gyfer cam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi’u nodi yn dilyn canlyniadau astudiaeth annibynnol a oedd yn ystyried cyflwr, addasrwydd a lleoedd ar gael mewn ysgolion yng Nghaerdydd.
Mae’r buddsoddiad
hwn yn ychwanegol at y gost barhaus o gynnal a chadw ysgolion y ddinas.