The essential journalist news source
Back
14.
December
2017.
Ffordd newydd o ddangos CAERedigrwydd i’r digartref yng Nghaerdydd

Ffordd newydd o ddangos CAERedigrwydd i'r digartref yng Nghaerdydd

Mae sefydliadau sy'n mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i gynnig ffordd wahanol i bobl hael Caerdydd fedru rhoi arian a helpu unigolion i symud oddi wrth ddigartrefedd. Yn briodol, fe'i gelwir yn CAERedigrwydd.

Trwy rif ‘tecstio i roi', mae CAERedigrwydd, sy'n cael ei ariannu gan ardal gwella busnes y brifddinas, FOR Cardiff, yn darparu ffordd arall o roi i'r rhai sy'n gofyn cardod, yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Bydd rhoddion yn mynd i gronfa a reolir gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, yna gall unigolion gael gafael at grantiau bach a fydd yn arwain at newid positif ar adeg tyngedfennol yn eu bywydau. O ddillad neu gludiant ar gyfer cyfweliad am swydd i eitemau'r cartref ar gyfer tenantiaeth newydd, bydd pob ceiniog yn helpu pobl yn uniongyrchol er mwyn symud oddi wrth ddigartrefedd.

Cefnogir y fenter gan wasanaethau sydd ar flaen y gad yng Nghaerdydd, gan gynnwys The Big Issue Cymru, Cyngor Caerdydd, Huggard, Byddin yr Iachwdwriaeth, Heddlu De Cymru a'r Wallich.

Meddai Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol, FOR Cardiff: "Wedi siarad â busnesau a thrigolion Caerdydd, mae'n amlwg fod pryder cynyddol am y sefyllfa ddigartrefedd yn y ddinas ac awydd cryf i helpu. Trwy gydweithio â'r sefydliadau sy'n gwneud pethau gwych i leddfu digartrefedd, rydym wedi creu CAERedigrwydd i sicrhau fod pobl sy'n byw ar y stryd yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt, a hynny pan maent ei angen fwyaf."

Dywedodd Aelod Cabinet ar gyfer Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne o Gyngor Caerdydd: "Mae Caerdydd yn ddinas hael iawn a gwyddom fod y cyhoedd yn pryderu am les y rhai maent yn gweld ar y strydoedd. Mae gofyn cardod ar y stryd yn cynyddu ac mae cysgu ar y stryd wedi mwy na dyblu yn y tair blynedd diwethaf. Nid ydym am i bobl roi'r gorau i roi, ond mae'n bryd i ni feddwl mewn ffordd wahanol am sut i sicrhau bod rhoddion yn darparu'r gefnogaeth gywir i leihau'r risg o ailadrodd digartrefedd."

Meddai Mari-Wyn Elias-Jones o Sefydliad Cymunedol yng Nghymru: "Bydd pob rodd yn mynd yn uniongyrchol i wella bywyd person digartref. Bydd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn sicrhau bod y grantiau bach hyn yn mynd i'r unigolion, gan helpu pobl i symud oddi wrth ddigartrefedd ac atal y llwybr sy'n arwain ato - o gefnogaeth i brynu nwyddau'r cartref i'w helpu i sicrhau gwaith. Mae hon yn gronfa wirioneddol unigryw a grëwyd gan sefydliadau sy'n meddwl yn yr un ffordd, gan gynnig dull gwahanol i bobl Caerdydd fedru rhoi a gweithio ar y cyd i leihau digartrefedd a gofyn cardod yn ein dinas."

I ddangos CAERedigrwydd, tecstiwch DIFF20 yna'r swm yr ydych am ei roi i 70070. Am ragor o wybodaeth, ewch iwww.givedifferently.wales