The essential journalist news source
Back
13.
December
2017.
Un o weithwyr Cyngor Caerdydd yn oriel enwog yr arlwywyr

Enwyd Judith Gregory o Gyngor Caerdydd yn 20 uchaf y bobl fwyaf dylanwadol yn y sector arlwyo cyhoeddus. 

[image]

Wedi'i threfnu gan Cost Sector Catering, mae oriel enwogion yr arlwywyr yn dathlu'r bobl fwyaf dylanwadol sy'n llywio barn yn y sector. 

Cyhoeddwyd yr 20 uchaf i 2017 yn swyddogol mewn digwyddiad amser cinio yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe, dydd Mawrth 12 Rhagfyr. Fe'i cynhaliwyd gan Mark Hill, Prif Weithredwr Tŷ'r Cyffredin, ar ran Cost Sector Catering. 

Gan ymateb i'r newyddion, dywedodd Judith Gregory: "Mae'n gryn syndod, ond yn fraint hefyd cael fy enwi ymhlith un o'r 20 person mwyaf dylanwadol mewn arlwyo yn y sector cyhoeddus. 

"Mae nifer o bobl yn gweithio mewn arlwyo yn y sector cyhoeddus sydd â blynyddoedd lawer o brofiad, gwybodaeth ac arbenigedd, felly mae'r gydnabyddiaeth yn fraint enawr. 

"Dros y tair blynedd diwethaf, mae Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau'r Ysgol Caerdydd, sydd wedi ennill nifer o wobrau, wedi ennyn cydnabyddiaeth genedlaethol wrth arwain y ffordd ym maes darpariaeth bwyta dros y gwyliau. Mae'r gydnabyddiaeth hon gan y beirniaid yn dyst i waith caled ac ymrwymiad y tîm partneriaeth." 

Caiff Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau'r Ysgol - neu Bwyd a Hwyl - ei chydlynu gan Bwyd Caerdydd ac mae'n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a thîm Iechyd Y Cyhoedd Lleol Bwrdd Iechyd Y Brifysgol Caerdydd a'r Fro. 

Mae'r project arloesol am gynnig addysg, gweithgareddau chwaraeon - gan Chwaraeon Caerdydd - ynghyd â phrydau iach o safon, mewn amgylchedd diogel, hwyl a meithringar, fel nad yw teuluoedd yn llwgu nac yn cael eu hallgáu dros wyliau'r haf. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry: "Mae'n hyfryd gweld Judith yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith dylanwadol ar ran arlwyo ysgolion yng Nghaerdydd. 

"O'm hymweliadau lu â sesiynau Bwyd a Hwyl dros y blynyddoedd, gwn faint mae Judith wedi'i wneud i helpu i ddatblygu Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau'r Ysgol, o gynllun peilot bach ag ychydig ysgolion i wasanaeth sydd bellach yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac fe'i cydnabyddir ag amryw wobrau. 

"Dwi am ychwanegu fy llongyfarchiadau ar gyflawniad gwych Judith, a hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd am weithio mor galed i'n gwasanaeth arlwyo ysgolion i gyflawni dro ar ôl tro."