The essential journalist news source
Back
1.
December
2017.
Pawb yn dathlu wrth i arolygwyr ganmol gwelliant dramatig mewn ysgol

Mae Ysgol Arbennig Riverbank yn y Caerau yn dathlu wedi iddi gael ei thynnu oddi ar y rhestr fonitro gan Estyn, arolygiaeth addysg Cymru. 

[image]

Daw penderfyniad Estyn yn dilyn ymdrech fawr i wneud gwelliannau sylweddol yno dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Ers i'r arolygaeth wneud y penderfyniad i fonitro Riverbank ym mis Tachwedd 2015, mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio gyda'r ysgol i gryfhau ei llywodraethiant ac i hwyluso gweithio mewn partneriaeth gyda'r ysgolion arbennig ger llaw sef Woodlands a Thŷ Gwyn. 

Wrth groesawu penderfyniad Estyn, dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry: "Rwyf am longyfarch pawb yn Ysgol Arbennig Riverbank ar y newyddion ardderchog yma. Rwyf wrth fy modd fod Estyn wedi cydnabod y llwyth gwaith anhygoel a gyflawnwyd gan yr ysgol, gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol, i godi safonau. 

"Mae'n hynod o braf gweld fod yr arolygaeth wedi cydnabod effaith gadarnhaol y cydweithio a gyflwynwyd rhwng y tair ysgol, ac rwy'n hyderus y bydd y cysylltiadau hyn yn parhau i gyflawni safon ardderchog o addysg i'r holl blant, nid dim ond yn Riverbank, ond hefyd yn Woodlands a Thŷ Gwyn. 

Arweiniodd llwyddiant y cydweithio i'r ysgolion greu cynlluniau yn gynharach eleni i greu cysylltiadau ffurfiol. Mae hyn wedi arwain at y penderfyniad i'r tair ysgol ffederaleiddio ar ffurf Campws Dysgu'r Gorllewin o'r 8fed o Ionawr 2018. 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Ysgol Arbennig Riverbank, Mrs Deborah Herald: "Rwy'n falch fod gwaith caled ac ymroddiad staff Riverbank wedi cael ei gydnabod yn y modd hwn. Mae'r ysgol wedi bod ar daith aruthrol ers yr arolygiad gwreiddiol yn 2015, ac rydym wedi ei gyflawni gyda'n gilydd fel ysgol gyfan. 

"Mae'r nod cyffredin sydd gennym sef i weld pob un plentyn yn cyflawni eu potensial wedi ein huno ni fel tîm ac wedi ein gyrru i fod yn well. Rydym wedi derbyn cyngor, wedi gweithio gydag eraill, ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a ddangoswyd gan yr unigolion hynny, yn ogystal â chan yr awdurdod lleol, a Chonsortiwm Canolbarth y De. 

"Gallwn yn awr ddal ein pennau yn uchel a symud yn ein blaenau at bennod nesaf ein datblygiad wrth i ni ymuno â ffederasiwn Campws Dysgu'r Gorllewin. Fel ysgol, byddwn yn parhau i dyfu ac esblygu i ateb anghenion newidiol pob un copa gwalltog o'n disgyblion." 

Yn ogystal â chydnabod bod y cydweithio wedi gwella hyder staff i wneud dyfarniadau asesu cywir, canfu Estyn hefyd fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud parthed yr argymhellion eraill a wnaed ganddo. 

Adroddodd arolygwyr fod disgyblion drwy'r ysgol yn defnyddio TGCh a hynny gyda hyder cynyddol, a'u bod yn cyflwyno gwaith yn falch mewn portffolios ac mewn arddangosfeydd o gylch yr ysgol. 

O safbwynt cryfhau diogelu, nododd Estyn fod newidiadau pwysig wedi eu gwneud, gan gynnwys defnyddio cynllun archwilio diogelu Cyngor Caerdydd. Nododd yr arolygaeth hefyd fod Mrs Herald erbyn hyn hefyd yn cynrychioli ysgolion arbennig ar y grŵp diogelu lleol. 

Mae swyddogaeth y corff llywodraethu fel cyfaill beirniadol yn datblygu'n dda, yn dilyn newidiadau sylweddol i'r aelodaeth, gan gynnwys penodiad diweddar Bianca Rees fel y cadeirydd newydd. 

Canfu Estyn hefyd fod cynnydd da wedi ei wneud tuag at sicrhau fod polisïau a chanllawiau statudol yn cael eu hadolygu yn rheolaidd a'u cadw'n gyfredol. Mae'r newidiadau hyn yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar arfer, gan gynnwys agwedd yr ysgol at reoli ymddygiad y disgyblion.