The essential journalist news source
Back
17.
November
2017.
Gwobrau blynyddol yn canmol ymgyrch ysbrydoledig yn erbyn bwlio

Mae pobl sy'n sefyll yn erbyn bwlio wedi'u cydnabod yng Ngwobrau Ysbrydoli Cyngor Caerdydd 2017, a gynhaliwyd i gyd-fynd â'r Wythnos Gwrth-fwlio. 

Ymgasglodd tua 90 o blant a phobl ifanc, athrawon a staff ysgol eraill, rhieni a gwirfoddolwyr cymunedol yn Lefel 3, Neuadd Dewi Sant ar gyfer seremoni, a gyflwynwyd gan Polly James o Capital FM Breakfast, i wobrwyo'r enillwyr, a chydnabod yr enwebeion ar restr fer o saith categori. 

[image]

Enillodd Cole Falkingham-Smith, o Ysgol Gynradd y Tyllgoed, y wobr person ifanc ar gyfer ysgolion cynradd 

[image][image]

Mathew Jones o Ysgol Glan Taf a Kira Major o Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog y wobr person ifanc ar gyfer ysgolion uwchradd, ar ôl i'r beirniaid ei chael yn amhosibl eu rhannu. 

[image]

Yn y categori staff ysgolion cynradd, enwyd Paul Catris o Ysgol Gynradd Sant Padrig fel yr enillydd ac enwyd Annette Hagg o Ysgol Uwchradd Teilo Sant yn enillydd yn y categori staff ysgolion uwchradd. 

[image][image]

Enillwyd y gwobrau ysgol gyfan ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd gan Sant Paul a Theilo Sant yn y drefn honno. 

[image]

Enwyd Jim Price, o'r Project Gofalwyr Ifanc, yn enillydd yn y categori darpariaeth amgen. 

[image]

Duncan Evans o Ysgol Arbennig The Court dystysgrif cyflawniad arbennig. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry: "Mae pawb sy'n sefyll yn erbyn bwlio yn haeddu cydnabyddiaeth ac mae'n wych gweld cymaint o bobl yn cael eu henwebu am Wobr Ysbrydoli eleni. 

"Maen nhw i gyd yn ysbrydoliaeth; mae eu gweithredoedd yn anfon neges glir bod yn rhaid atal bwlio a bod gan y bobl hynny sy'n cael eu bwlio glust i wrando, help ac arweiniad. 

"Mae'n hollbwysig ein bod ni i gyd yn gweithio ynghyd i sicrhau nad yw bwlio'n trechu a bod y bobl hynny yr effeithir arnynt yn gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain." 

Pan aeth Ysgol Gynradd y Tyllgoed ar drip yn ddiweddar, helpodd Cole bawb a oedd gydag ef i gwblhau cwrs gweithgareddau, drwy fod yn ystyrlon a phenderfynol. 

Creodd argraff fawr ar ei athro pontio a meddyliodd hi, yn ogystal â'r panel dyfarnu, ei fod yn haeddu gwobr. 

Dywedodd Cole: "Ar ôl ennill y wobr ro'n i'n teimlo'n gyffrous iawn, yn hyderus iawn, yn siriol iawn ac yn hapus iawn." 

Dewisodd y beirniaid Mathew Jones gan ei fod yn dangos beth yw bod yn gynhwysol drwy gefnogi un o'i gyd-ddisgyblion yn gyson. Enwon nhw Kira yn enillydd hefyd am fod wrth law trwy'r amser i roi cefnogaeth a chynnig cyngor. 

Dywedodd Mathew: "Gwelais i fachgen yno ar ei ben ei hun, a phenderfynais sicrhau ei fod yn mynd i gael amser da yn yr ysgol uwchradd, ac rwy'n meddwl ei fod wedi. Pe bai'r meddylfryd hwnnw gan bawb, rwy'n meddwl byddai'n beth da - mae'n ddechrau ac mae'n gam ymlaen." 

"I unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan fwlio, byddwn i'n dweud, ‘cadwch eich pen i fyny, parhewch i weithio a sicrhewch eich bod yn siarad ag athro neu rywun rydych yn ymddiried ynddo.' Does dim ots beth rydych yn mynd trwyddo, mae pobl yno i'ch cefnogi, ac mae pobl yno sy'n gallu eich helpu trwy'r amseroedd anodd", meddai Kira. 

Creodd Jim Price argraff ar y beirniaid gan ei fod wedi gwirfoddoli ers 40 o flynyddoedd i helpu'r bobl ifanc hynny sydd fwyaf agored niwed ac wedi'u hynysu'n gymdeithasol yng Nghaerdydd. 

Gan ymateb i'w wobr, dywedodd Jim: "Mae'n ardderchog cael fy nghydnabod am wneud gwaith i bobl ifanc - bydden i'n gwneud y gwaith ta beth. Ond mae'r wobr ar gyfer y bobl ifanc. Byddaf yn dangos fy ngwobr i'r bobl ifanc, gan mai eu gwobr nhw yw hi, nid fy un i." 

Roedd y beirniaid hefyd am gydnabod agwedd Ysgol Gynradd St Paul at wella a newid a'i pharodrwydd i ymgymryd â mentrau newydd i wella iechyd a llesiant disgyblion. 

Dywedodd y Pennaeth, Mr Chris Gascoigne: "Rydym yn gweithio i greu diwylliant o garedigrwydd yn yr ysgol. Dydyn ni ddim yn cael popeth yn iawn ond rydym yn ceisio dysgu. Mae'r wobr yn deyrnged i waith caled ein staff a hefyd y disgyblion eu hunain." 

Mae penderfyniad y panel i ddewis Ysgol Uwchradd Teilo Sant yn seiliedig ar ei hwythnos o ddigwyddiadau:nid yn fy ysgol i. 

Dywedodd Ian Loynd, y Dirprwy Bennaeth, "Rydym yn falch o ennill y Wobr Ysbrydoli mewn cydnabyddiaeth o'n gwaith i fynd i'r afael â chasineb a gwahaniaethu. Mae ein disgyblion yn awyddus i fynd i'r afael â rhai o'r anawsterau y mae cymdeithas yn eu hwynebu, ac mae'n wych i ni fod ein gwaith - er ein bod ni ar daith hir yn hyn o beth - wedi'i gydnabod yma heddiw." 

Trefnir y Gwobrau Ysbrydoli, a sefydlwyd yn 2009 i gydnabod plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n gwella bywydau pobl eraill trwy weithredoedd o garedigrwydd a chefnogaeth, gan Caerdydd yn Erbyn Bwlio, tîm gwrth-fwlio'r Cyngor a ariennir gan raglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. 

Eleni noddwyd y gwobrau gan Neuadd Dewi Sant, Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Canolfan Gweithgareddau a Beicio Cwad Dyffryn Taf, Gleision Caerdydd, Mercure Holland House Hotel, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Cardiff Devils. 

[image]

Diddanwyd gwesteion gan Gôr Hŷn Ysgol Uwchradd Caerdydd yn canuGo the Distanceo drac sainHerculesaBui Doio'r sioe gerdd benigampMiss Saigon. 

Mwynhaon nhw hefyd gyflwyniadau gan blant o Ysgol Gynradd Gatholig Crist y Brenin ac Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-Graig. Siaradodd y plant yn angerddol am y pethau y maent wedi'u gwneud i greu amgylchedd cyfeillgar, cefnogol a charedig.