Paratoi ar gyfer hyb cymunedol newydd
Bydd Llyfrgell Llanisien yn cau wythnos nesaf cyn i'r gwasanaeth llyfrgell gael ei drosglwyddo i hyb newydd sbon yn y gymuned.
Bydd y llyfrgell ar Kimberley Terrace yn cau o 1pm ddydd Mercher 22 Tachwedd cyn i'r hyb newydd agor dafliad carreg i ffwrdd ar Station Road.
Bydd Hyb newydd cyffrous Llanisien yn agor ddydd Llun 27 Tachwedd am 9am gyda mwy o wasanaethau a chyfleusterau gwell.
Mae'r hyb yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru a bydd ar lawr gwaelod adeilad gorsaf heddlu Llanisien.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Diben ein hybiau yw dod â mwy o wasanaethau a gwasanaethau gwell i'n cymunedau a gwneud y gwasanaethau hynny'n fwy hygyrch a chyfleus i bobl, a'r cyfan o dan un to.
"Bydd yr hyb newydd yma yn y gymuned yn ddefnyddiol iawn i bobl Llanisien a'r ardal leol."
Tra bod y llyfrgell ar gau cyn i'r gwasanaeth drosglwyddo i'r hyb, y llyfrgelloedd agosaf yw Llyfrgell Rhydypennau a Llyfrgell Rhiwbeina. Mae bagiau ailgylchu a bagiau bwyd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Llanisien.