The essential journalist news source
Back
9.
October
2017.
Arweinwyr a meiri Dinasoedd Craidd y DU yn ymgasglu yng Nghaerdydd i lansio Strategaeth Aer Glân
Daeth Arweinwyr a Meiri'r Dinasoedd Craidd ynghyd yng Nghaerdydd i alw ar y Llywodraeth i weithredu’n fwy ar lygredd aer, sy’n gyfrifol am 15,000 o farwolaethau ar draws y 10 dinas bob blwyddyn.

Mae datganiad, a lofnodwyd o flaen Neuadd y Ddinas Caerdydd gan yr holl Ddinasoedd Craidd, yn honni nad yw Cynllun Aer Glân y Llywodraeth, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn ddigonol i fynd i’r afael â heriau iechyd, nad yw’n addo digon o adnoddau i gynghorau lleol i wneud gwahaniaeth, a’i fod yn cynnig yr un dull i bobman, na fydd yn gweithio ar lawr gwlad.

Mae’n galw ar y Llywodraeth i annog pobl i ddefnyddio faniau a cheir trydan a rhai allyriadau isel, gan ychwanegu bod angen cefnogi busnesau a phobl a allai ei chael hi'n anodd prynu cerbyd newydd.Mae hefyd yn galw am Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n nodi sut y gall llywodraeth leol a chenedlaethol weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael.

Mae chwarter o ffyrdd mwyaf llygredig y DU yn y dinasoedd craidd a’r cyffiniau.

Yn siarad yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, lle llofnodwyd y siarter, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:“Mae ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu’n broblem fawr yn ninasoedd Prydain, ac mae hyn yn cynnwys Caerdydd.Mae’n hawdd meddwl mai dim ond mewn dinasoedd mawr fel Llundain, Mumbai a Beijing mae llygredd aer yn broblem,ac nad oes angen i ni boeni mewn prifddinasoedd bach fel Caerdydd.Mae hynny’n gwbl gamarweiniol.

“Mae llygredd aer yn llofrudd cudd yng Nghaerdydd.Mae Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Caerdydd yn amcangyfrif ei fod yn gyfrifol am 5% o’r marwolaethau yn y ddinas.Mae hynny’n tua 143 o farwolaethau’r flwyddyn, ac mae llawer o’r ardaloedd yr effeithir arnynt waethaf yn y ddinas fewnol ac mewn cymunedau mwy difreintiedig.Waethaf oll, ein plant sydd yn y perygl mwyaf.

“Rydyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael â hyn.Mae fy ngweinyddiaeth yn ymrwymedig i gyflwyno Papur Gwyrdd Trafnidiaeth Gynaliadwy yn ddiweddarach eleni a fydd yn cynnwys cyfres o gynigion uchelgeisiol ar sut y gallwn ailddylunio system drafnidiaeth Caerdydd i’w gwneud yn fwy diogel ac iach i bawb."

Dywedodd y Cynghorydd Judith Blake, cadeirydd Dinasoedd Craidd y DU ac arweinydd Cyngor Dinas Leeds:“Mae llygredd aer yn arwain at nifer syfrdanol o farwolaethau ar draws ein dinasoedd bob blwyddyn, ac mae angen i ni weithredu’n lleol ac ar frys.Yn ogystal â’r marwolaethau diangen, mae ansawdd aer gwael hefyd yn arwain at salwch hirdymor, gan wneud bywydau pobl yn anghynhyrchiol a thruenus.

“Mae cynllun y Llywodraeth yn ddechrau da, ond nid yw’n ddatrysiad cynaliadwy.Mae angen i Whitehall a San Steffan weithio gyda ni fel y gallwn wneud gwahaniaeth.

“Rydyn ni eisiau gweld cytundeb gyda’r Llywodraeth a fydd yn nodi sut y gall arweinwyr lleol a chenedlaethol gydweithio, gan roi’r adnoddau sydd eu hangen ar ddinasoedd i gyflawni newidiadau lleol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nick Forbes o Gyngor Dinas Newcastle ac aelod cabinet Dinasoedd Craidd y DU dros y portffolio Ansawdd Aer:“Dyma faes y mae angen i ni, fel dinasoedd, arwain yn adeiladol arno.Does dim pwynt cyflwyno datrysiadau o’r brig a gadael i lefydd gystadlu am yr arian.Mae angen gweithio mewn partneriaeth a chydnabyddiaeth gan y Llywodraeth mai datrysiadau lleol fydd y rhai mwyaf effeithiol.”