The essential journalist news source
Back
30.
August
2017.
Ffair Swyddi Caerdydd 2017

 

Ffair Swyddi Caerdydd 2017

 

Mae pob math o swyddi cyffrous ar gael i bobl sy'n chwilio am waith mewn Ffair Swyddi fawr yng nghanol Caerdydd wythnos nesaf.

Bydd Gwasanaethau I Mewn I Waith Cyngor Caerdydd a'r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnal y digwyddiad yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Mercher, 6 Medi (10am - 2pm).

Daeth dros 30 o gyflogwyr o amrywiaeth o sectorau gan gynnwys Legal & General, Stadiwm Principality, Lidl a Marks & Spencer yn y digwyddiad i drafod ystod eang o swyddi a chyfleoedd posibl sydd ganddynt i bobl sydd am newid swydd neu fynd yn ôl i fyd gwaith.

Bydd llawer o help a chyngor hefyd ar gael, gan gynnwys cymorth gan y Gwasanaethau i Mewn i Waith ar wella CVs, rhai technegau cyfweld da, sut i chwilio am swydd yn effeithiol a sut i gwblhau ffurflenni cais a llythyrau cwmpasu i gynnal cyfweliad..

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae ein ffeiriau swyddi wedi bod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd diwethaf gyda channoedd o bobl yn dod drwy'r drysau i ddysgu am gyfleoedd yn y ddinas.

"Mae'n dda gallu gweithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith i gyflawni'r digwyddiad hwn. Gall ein gwasanaethau I Mewn I Waith gefnogi pobl yn ôl i'r gwaith mewn amryw ffyrdd o gynorthwyo â chyrsiau hyfforddiant achrededig yn y gwaith a chynnig help a chymorth ymarferol o 20 o leoliadau ledled y ddinas yn ein clybiau swyddi gadael heibio.