The essential journalist news source
Back
29.
August
2017.
Croeso i’r byd digidol!

Croeso i'r byd digidol!

 

Caiff popeth digidol ei ddathlu mewn ‘gŵyl' yn Hyb Y Llyfrgell Ganolog wythnos nesaf.

 

Cynhelir Digifest ar ddydd Sadwrn 9 Medi, ac fe'i trefnir gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Caerdydd a'r Gwasanaeth Dysgu Oedolion Yn Y Gymuned.

 

Bydd yr hwyl digidol o 10am i 5pm gyda stondinau gwybodaeth, seminarau a gweithdai gyda gweithgareddau at amrywiaeth o oedrannau a galluoedd.

 

Bydd y diwrnod hefyd yn gyfle i bobl gofrestru ar ystod eang o gyrsiau Dysgu Oedolion Yn Y Gymuned gan gynnwys cyrsiau i helpu pobl i ennill sgiliau angenrheidiol i fynd yn ôl i'r gwaith, cyrsiau cyffrous o grefftau i gyfrifiaduron yn ogystal â chyfleoedd dysgu hygyrch i oedolion ag anghenion ychwanegol.

 

Mae gweithdai'r ŵyl yn cynnwys ‘Awr ‘Appus' i bobl gael esboniad am bopeth a wna eu ffôn clyfar neu lechen, clwb Minecraft i blant adeiladu a chreu eu byd eu hunain mewn amgylchedd diogel, all-lein, gweithdy achau lleol a hanes teulu gyda Chymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg, seminar cyfryngau cymdeithasol, arddangosiad argraffu 3D, dylunio gardd ddigidol a llawer mwy.

 

Bydd ymwelwyr â'r llyfrgell hefyd yn gallu dysgu am offer ffotograffiaeth cyfoes, dysgu am y dechnoleg rithwir ddiweddaraf i helpu pobl i ddeall sut beth yw dioddef o ddementia, a llawer o wybodaeth am weithgareddau ac adnoddau yn Llyfrgelloedd Caerdydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae Digifest yn fenter wych gan Lyfrgelloedd Caerdydd a Dysgu Oedolion Yn Y Gymuned i helpu pobl i ddysgu am dechnoleg bob dydd, sut i wneud y gorau ohoni a sut i fwynhau ei defnyddio. Mae amserlen lawn o weithgareddau arloesol drwy'r dydd o ddechreuwyr i ddefnyddwyr medrus sydd am ddysgu mwy.

 

"Mae Hyb Y Llyfrgell Ganolog yn gyfleuster o'r radd flaenaf â'i lawr digidol ei hun a bydd Digifest hefyd yn gyfle i arddangos y gwasanaethau a gynigir yn llyfrgelloedd Caerdydd gan gynnwys ein hadnoddau electronig a thechnoleg."