The essential journalist news source
Back
24.
August
2017.
Arddangosfa’n dathlu pen-blwydd Cymdeithas y Naturiaethwyr yn 150 oed

[image] 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bydd arddangosfa i nodi pen-blwydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn 150 oed yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Stori Caerdydd fis nesaf.

Mae arddangosfa ‘Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd: Y 150 Mlynedd Gyntaf!' yn ddathliad o'r gwaith cadwraeth pwysig sydd wedi'i wneud gan aelodau o'r gymdeithas, yng Nghaerdydd ac yn ardal ehangach de Cymru.

Bydd cyflwyniad clyweledol yn archwilio hanes cyfoethog un o gymdeithasau hynaf Caerdydd a hefyd yn tynnu sylw at rai o'r canfyddiadau prin ac anarferol mewn safleoedd bywyd gwyllt lleol.

Dywedodd Rheolwr Amgueddfa Stori Caerdydd, Victoria Rogers: "Rydym ni'n falch o gael gweithio mor agos â Chymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 150 oed. Yma yng Nghaerdydd, rydym ni'n ffodus iawn i fyw mewn dinas sydd ag amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt ac amgylchedd naturiol perffaith iddynt fyw ynddo. Pa un a ydych chi'n cerdded ar hyd glannau Afon Taf, crwydro drwy un o barciau prydferth y ddinas neu'n ymweld â Gwarchodfa Natur, ni fyddwch byth yn rhy bell o fywyd gwyllt anhygoel yng Nghaerdydd. Rydym ni'n gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau'r arddangosaf hon, yn dysgu rhywbeth ohoni ac yn cael eu hysbrydoli o fod yn naturiaethwyr."

Cynhelir yr arddangosfa hon o ddydd Llun 4 Medi tan ddydd Sul 26 Medi. Mae mynediad am ddim.