The essential journalist news source
Back
17.
August
2017.
Graddau Lefel A gwych i Gaerdydd!

Mae canlyniadau Lefel A a gyhoeddwyd heddiw wedi dangos cynnydd yn nifer y graddau A* i A yng Nghaerdydd a chyfradd llwyddiant gyffredinol yr un fath â'r llynedd.

 

Yn seiliedig ar ganlyniadau sydd eto i'w cadarnhau, mae nifer y graddau A* i A wedi bwrw 30.2%. Mae hyn yn gynnydd o bron ddau bwynt canran ar ganlyniadau 2016, ac yn sylweddol uwch na chyfartaledd cenedlaethol 2017 o 25%.

 

Dyma'r tro cyntaf ers 2015 y gwelwyd graddau A* i A yn uwch na 30%, a'r ffigwr eleni yw'r ail uchaf yn ystod y chwe blynedd olaf.

 

Y gyfradd llwyddiant gyffredinol yn 2017 - sef nifer y graddau A* - E a sicrhawyd - yw 98.1%, sydd yn dal yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, sydd eleni yn 97.7%.

 

Y graddau A* i C a sicrhawyd yn 2017 yw 78.7%, ychydig yn is na'r ffigwr o 80.3% y llynedd, ond dal yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 75.3%.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogadwyedd a Sgiliau: "Hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr a gafodd eu canlyniadau heddiw.

 

"Rwy'n gwybod i'r dim faint o waith caled ac ymroddiad a oedd ei angen yn ystod y ddwy flynedd olaf i sicrhau llwyddiant, ac mae pawb yn haeddu cael eu llongyfarch, gan gynnwys y staff yn yr ysgolion.

 

"Mae'n dda gweld cynnydd yn nifer y graddau A* i A yng Nghaerdydd eto eleni, a bod y raddfa llwyddiant gyffredinol yn parhau yn uchel. Mae perfformiad y ddinas yn yr arholiadau Lefel A wastad wedi bod yn gryf, ac mae'r canlyniadau hyn yn dangos na fydd eleni yn wahanol.

 

"Fel y dywedais yn Uchelgais Prifddinas y cyngor, rydym yn gwybod y bydd addysg dda yn helpu pawb yng Nghaerdydd i wireddu eu potensial. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein hysgolion, a'u gwella, a sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posib.

 

"Hoffwn ddymuno pob hwyl i'r dyfodol i'r holl fyfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen i hyfforddiant, cyflogaeth a phrifysgol."

 

Ar adeg ysgrifennu'r datganiad hwn, mae'r holl ganlyniadau eto i'w cadarnhau ac yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd gan yr holl fyrddau arholi.