The essential journalist news source
Back
28.
July
2017.
Llwyddiant Ysgolion Iach i ysgol gynradd Caerdydd

Mae Ysgol Gynradd Severn yng Nglan-yr-afon yn dathlu llwyddiant mewn cynllun gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ôl cael ei gydnabod â Gwobr Ansawdd Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru. 

[image]

Mae staff, disgyblion a rhieni'r ysgol wedi bod yn gweithio gyda Thîm Ysgolion Iach Cyngor Caerdydd i gyflwyno mentrau sydd wedi'u dylunio i wella iechyd a lles cymuned yr ysgol, yn yr ysgol a'r tu allan iddi. 

Ysgol Gynradd Severn oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ddatblygu cynllun ‘parcio a cherdded'. Yn rhan ohono, mae rhieni yn parcio oddi ar safle'r ysgol ac mae staff yn tywys plant o'r man hwnnw i'r ysgol ar droed. 

Gwnaeth hefyd gyflwyno rhaglenni ‘ysgol goedwig' a ‘sand between our toes' er mwyn rhoi profiad i ddisgyblion o'r amgylchedd naturiol. 

Mae nifer o gyfleoedd ymgysylltu i'r teulu wedi eu creu, gan gynnwys gweithdy pecyn cinio iachus. 

Gan ddisgrifio'r buddion i Ysgol Gynradd Severn o'r gwaith tuag at gyflawni statws ysgolion iach, dywedodd y Pennaeth, Mrs Julie Morris: "Mae gweithio tuag at achrediad cenedlaethol wedi ein galluogi i rannu neges iechyd gyson gyda'r plant, staff a rhieni. Bellach, mae gan ein plant ddealltwriaeth well o faterion iechyd a gallan nhw wneud dewisiadau iach o'u liwt eu hunain. 

"Roedd y ffocws cadarnhaol ar les yn bwysig i gymuned gyfan yr ysgol ac roedd y plant yn mwynhau'n arbennig cwrdd â phob math o bobl a fu'n ymweld â'r ysgol i rannu eu gwybodaeth gyda nhw.

"Hoffwn ddiolch i'r Tîm Ysgolion Iach, gan gynnwys Joan Roberts, Carol Maher a Karen Trigg am eu holl gymorth." 

Ysgol Gynradd Severn yw'r bumed ysgol yng Nghaerdydd i gael ei chydnabod â Gwobr Ansawdd Genedlaethol, yn dilyn llwyddiant Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn Nhrelái yn 2011, Ysgol Gynradd Moorland ac Ysgol Pwll Coch yn 2015, ac Ysgol Gynradd Adamsdown y llynedd. 

Bu Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry hefyd yn llongyfarch: "Mae hyn yn gyflawniad gwych a dylai'r staff, disgyblion a rhieni yn Ysgol Gynradd Severn fod yn falch iawn bod eu gwaith caled wedi cael ei gydnabod â Gwobr Ansawdd Genedlaethol. 

"Mae iechyd a lles yn rhan bwysig o'r profiad dysgu at ei gilydd, ac mae gwaith Ysgol Gynradd Severn yn enghraifft wych o sut y mae ein hysgolion yn parhau i ddarparu addysg o safon ragorol yn y ddinas." 

Dan reolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, maeCynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymruar waith ers 1999, ac mae'n ystyried mentrau bwyd a ffitrwydd, iechyd a lles meddyliol ac emosiynol, datblygiad personol a pherthnasoedd, defnydd a chamddefnydd o sylweddau, yr amgylchedd, diogelwch a hylendid. 

Dywedodd Mary Charles, Prif Ymarferydd yn Rhaglen Ysgolion Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydyn ni'n falch dros ben bod Ysgol Gynradd Severn wedi cael ein gwobr iechyd fwyaf. Mae'n haeddu'r gydnabyddiaeth bwysig hon am ymrwymo i ymgorffori iechyd a lles yn niwylliant a deunydd yr ysgol. 

"Mae'r cyflawniad hwn yn dangos sut y mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio mewn partneriaeth gydradd ag ysgolion i wella dyfodol iechyd a lles ein plant. Drwy gyfuno ein hymdrechion a'n hasedau yn fwriadus, mae modd i ni greu Cymru fwy iach, mwy hapus a mwy teg."

_______

Yn rhan o Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru (CYIRhC) y mae meithrinfeydd, ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD). Mae 99.9% o ysgolion yng Nghymru yn rhan o'r cynllun.

Mae'r cynllun yn gweithio i annog ysgolion i roi dull ysgol gyfan ar waith o wella iechyd, sef un sy'n rhoi ystyriaeth i bolisïau sy'n cael eu mabwysiadu, amgylchedd yr ysgol, y cwricwlwm, a chyfraniad cymuned gyfan yr ysgol a'r gymuned ehangach yn yr ysgol. 

Caiff ysgolion eu hasesu yn erbyn meini prawf canlynol y Wobr Ansawdd Genedlaethol:

  1. Bwyd a ffitrwydd (maeth a gweithgarwch corfforol)

  2. Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol, gan gynnwys lles staff

  3. Datblygiad personol a pherthnasoedd, gan gynnwys Addysg Rhyw a Pherthnasoedd

  4. Defnydd a chamddefnydd sylweddau, gan gynnwys alcohol, ysmygu, a chyffuriau (cyfreithlon, anghyfreithlon a phresgripsiwn)

  5. Yr amgylchedd, gan gynnwys eco-fentrau a gwella'r ysgol a'r amgylchedd ehangach

  6. Diogelwch, gan gynnwys amrywiaeth o bynciau fel amddiffyn plant, diogelwch yn yr haul, diogelwch ar y rhyngrwyd, a chymorth cyntaf

  7. Hylendid gan gynnwys yn yr ysgol a'r tu allan iddi