The essential journalist news source
Back
18.
July
2017.
Cyhoeddi mannau gwyrdd penigamp y Brifddinas

 

Cyhoeddi mannau gwyrdd penigamp y Brifddinas

 

Mae parciau a mannau gwyrdd hyfryd Caerdydd unwaith eto wedi ennill Gwobr fawreddog y Faner Werdd.

 

Mae 11 o barciau a mannau agored y ddinas, a gynhelir gan Gyngor Caerdydd, wedi ennill nod ansawdd rhyngwladol Cadwch Gymru'n Daclus, gan gynnwys Gwlyptiroedd Bae Caerdydd sydd wedi cael ei gydnabod am y tro cyntaf.

 

Mae Parc Bute, Morglawdd Bae Caerdydd, Mynwent Cathays, Ynys Echni, Gerddi'r Faenor, Parc Cefn Onn, Parc y Rhath, Gerddi Bryn Rhymni, Mynwent Draenen Pen-y-graig a Pharc Fictoria wedi cyrraedd safonau'r Faner Werdd unwaith eto.

 

Daw'r cyhoeddiad yn ystod yr 11eg Wythnos Caru Parciau flynyddol (14-23 Gorffennaf), sy'n cael ei threfnu tan Cadwch Brydain yn Daclus, lle mae pobl o bob rhan o wledydd Prydain yn dod ynghyd i ddathlu parciau a dangos i'r byd fod parciau'n bwysig iddynt.

Mae'r Gwlyptiroedd yn ardal o tua wyth hectar ar ochr ogleddol y bae, ac mae'n cefnogi amrywiaeth gyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid di-asgwrn-cefn, pysgod a bywyd gwyllt arall. Mae yna olygfan yn estyn mas dros y dŵr, sy'n lleoliad perffaith ar gyfer gwylio adar.

Roedd y Faner Werdd yn hedfan yn y Gwlyptiroedd bore 'ma i gydnabod ei statws newydd. Ymunodd staff o'r Adran Parciau, y Gwasanaethau Profedigaeth ac Awdurdod Harbwr Caerdydd â'r Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, i ddathlu llwyddiant y ddinas.

Meddai'r Cynghorydd Bradbury: "Mae 11 Baner Werdd Caerdydd yn dyst i'r cyfleusterau rhagorol sydd gennym yn ein parciau, ac i ymrwymiad y Cyngor i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd.

 

"Rydw i wrth fy modd o ychwanegu at y baneri gwyrdd hyn eleni, gyda Gwlyptiroedd Bae Caerdydd yn cael ei gydnabod am y tro cyntaf, ac mae'r ddinas wedi parhau i ennill mwy o Faneri Gwyrdd nag unrhyw le arall yng Nghymru.

 

"Llongyfarchiadau i bawb sy'n rhan o'r cyflawniad hwn. Dylent fod yn arbennig o falch o'n parciau a'n mannau agored, fel yr ydw i, ac rwy'n annog pobl Caerdydd i fynd mas a'u mwynhau dros yr haf."

I gyd, mae 183 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghaerdydd wedi cyflawni Gwobr y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd. Mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno gan Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n cael ei ddyfarnu gan grŵp o arbenigwyr ar fannau gwyrdd, sy'n gwirfoddoli eu hamser i ymweld â safleoedd sydd wedi gwneud cais gan eu hasesu yn erbyn wyth o feini prawf llym, gan gynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae Gwobr y Faner Werdd yn ymwneud â chysylltu pobl â'r parciau a'r mannau gwyrdd gorau oll. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn falch o redeg y cynllun yng Nghymru oherwydd rydyn ni'n gwybod y gall amgylchedd o safon gael effaith fawr awr ein cymunedau, iechyd a lles a'r economi.

"Hoffwn longyfarch Cyngor Caerdydd a diolch i bawb sy'n gweithio'n ddiflino i gynnal y safonau y mae Gwobr y Faner Werdd yn gofyn amdanynt. Rwy'n annog pawb i fynd mas a mwynhau'r amrywiaeth o gyfleusterau gwych sydd ar gael ar garreg ein drws."

Mae rhestr lawn o enillwyr ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus https://www.keepwalestidy.cymru/Pages/Site/cy/Category/banerwerdd