The essential journalist news source
Back
5.
July
2017.
Lansio cynllun Byw Cymunedol newydd

 

Lansio cynllun Byw Cymunedol newydd

 

Mae cynllun newydd wedi cael ei lansio i roi cartrefi cynaliadwy i bobl hŷn, er mwyn eu galluogi i fyw'n annibynnol yn y gymuned yn hirach.

 

Mae trigolion Sandown Court yng Nghaerau wedi rhoi sêl bendith i Gynllun Byw Cymunedol gan Gyngor Caerdydd, sef cynllun tai gwarchod sydd wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar er mwyn cynnig llety hyblyg ac addas at y diben ar gyfer preswylwyr hŷn.

 

Ymunodd tenantiaid â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda thorne, yn y lansiad ar ddiwedd y prosiect adnewyddu.

 

Mae Sandown Court yn gartref i breswylwyr sy'n 60 oed neu'n hŷn. Yn rhan o'r gwaith uwchraddio diweddar, bu gwaith i fodloni safonau ‘aur' RNIB, a chafodd ystyriaeth ei roi i bobl â nam ar y golwg a dioddefwyr demensia. Mae pob fflat ar y llawr gwaelod yn gwbl hygyrch gan gynnwys cynteddau lletach, ystafelloedd gwlyb, lolfeydd/ystafelloedd bwyta cynllun agored, digonedd o le i storio pethau a cheginau y gellir addasu eu huchder.

 

Roedd yr ystafelloedd cymunedol yn ddiflas ac yn ddigroeso cyn hynny, ond ar ôl cael eu hadnewyddu mae ynddyn nhw amrywiaeth o fannau hyblyg er mwyn cynnig pob math o wasanaethau a gweithgareddau i bobl hŷn sy'n rhan o'r cynllun ac sy'n byw yn y gymuned ehangach.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Rwy'n hapus dros ben gyda'r gwahaniaeth i Sandown Court - mae'r lle yn edrych yn ardderchog yn dilyn y gwaith adnewyddu. Mae preswylwyr wedi bod yn dweud wrthyf mor hapus ydyn nhw gyda'u cartrefi 'newydd' hefyd.

 

"Yn ogystal â darparu llety cyfforddus sy'n addas at y diben ac sy'n apelio at bobl hŷn, mae'r cynllun Byw Cymunedol yn ceisio mynd i'r afael ag achosion o allgau cymdeithasol yn y gymuned ehangach a rhoi cymorth go iawn lle y mae ei angen.

 

"Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn byw'n hŷn y dyddiau hyn ac mae hynny'n beth da, ond mae heriau ynghlwm wrth hynny. Mae Byw Cymunedol yn darparu llety cynaliadwy a fydd yn diwallu anghenion pobl nawr ac yn y dyfodol, gan eu galluogi i gynnal eu hannibyniaeth cyhyd â phosibl.

 

Yn ogystal â gwelliannau mewnol, mae ardaloedd y tu allan i Sandown Court hefyd wedi cael eu trawsnewid er mwyn sicrhau bod modd i breswylwyr eu defnyddio'n hawdd, a chael cyfle i'w mwynhau.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Sandown Court yw'r cyntaf o blith ein llety gwarchod i elwa ar waith gwella. Rydyn ni'n bwriadu cyflwyno'r dull Byw Cymunedol mewn lleoliadau gwarchod eraill i sicrhau bod ein llety ar gyfer pobl hŷn yn gynaliadwy ac yn addas at y diben."