The essential journalist news source
Back
29.
June
2017.
Ymwan yn dychwelyd i Gastell Caerdydd mewn antur ganoloesol gyffrous

Ymwan yn dychwelyd i Gastell Caerdydd mewn antur ganoloesol gyffrous

 

 

Un o ffefrynnau'r dorf a diwrnod allan gwych i'r teulu, mae'r ‘Knights of Royal England' yn dychwelyd am eu 10fed pen blwydd yng Nghastell Caerdydd gyda ‘Joust!' - sioe ddisglair ac arddangosfa arwrol o ymwan a marchogaeth ar dydd Sadwrn 1 a dydd Sul 2 Gorffennaf.

Di-hid a dewr, medrus a chystadleuol, bydd y marchogion yn siŵr o roi sioe arbennig mewn ymosodiad ar wib ar gefn eu meirch ffyddlon. Bydd gwaywffyn yn torri'n deilchion wrth i'r marchogion frwydro o'r cyfrwy gyda champau trawiadol ar gefn ceffyl.    

Mae marchogion a dreigiau Storïau llafar, cerddorion ar grwydr, campau ymladd a gwersyllfan i'w darganfod mewn diwrnod allan hudol yn yr oesoedd canol. Gwyliwch wers ar wneud maelwisg a saethau, rhowch gynnig ar wisgo arfwisg a dysgwch fanylion erchyll meddygaeth ganoloesol gan y llawfeddyg o farbwr.

Gydag esgus perffaith i wisgo fel marchog neu dywysoges, gall plant ymuno yng ngorymdaith y dreigiau, parêd y plant a rhoi cynnig ar jyglo a sgiliau syrcas. Newydd eleni mae ceffyl pren trawiadol sy'n rholio a gall plant ei reidio ac ymarfer eu sgiliau ymryson. Cadwch olwg am ddwy ddraig gyfeillgar iawn a fydd yn ymddangos sawl gwaith yn ystod y dydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Diwylliant a Hamdden, y Cyng Peter Bradbury, mae ‘Joust!' wedi adlonni miloedd o ymwelwyr dros y 10 mlynedd diwethaf ac mae'n parhau yr un mor boblogaidd ag erioed, yn ffefryn anferth gyda'r dorf. Mae'n wirioneddol gyffrous ac yn ddigwyddiad ardderchog llawn mynd i'r teulu ac mae'n ffordd wych o deithio yn ô mewn amser."