The essential journalist news source
Back
1.
June
2017.
Gwobrwyo myfyrwyr am fod yn Hyrwyddwyr Amgylcheddol!

[image]

 

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo yn y Plasty wythnos diwethaf i gydnabod y gwaith a wnaed gan rai o wirfoddolwyr Caerdydd, yn fyfyrwyr ac yn bobl leol.

 

Eleni, mae'r grŵp o Hyrwyddwyr Amgylcheddol wedi cwblhau 363 awr o wirfoddoli ar brojectau amgylcheddol a chynaliadwyedd yn amrywio o archwilio effeithlonrwydd ynni, gwaith cadwraeth, casglu dillad i'r YMCA yn Hanner Marathon Caerdydd ac addysgu myfyrwyr eraill ar eu cyfrifoldebau gwastraff ac ailgylchu.

 

Cyflwynwyd y tystysgrifau i'r holl wirfoddolwyr gan Wir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Bob Derbyshire a rhoddwyd gwobrau gan Canolfan Gelfyddydau The Gate, tafarn y Woodville, Treetop Adventure Golf, Sinemâu Premier a NewLink Wales yn y categorïau canlynol:

 

Newydd-ddyfodiad Gorau - Raja Shuran

Myfyriwr-Wirfoddolwr y Flwyddyn - Rachel Bright

Gwirfoddolwr Cymunedol y Flwyddyn - Chris Ellis

Rhagoriaeth a Chysondeb Parhaus - Sam Chung

Gwobr Cyflawniad a Chyfraniad Eithriadol - Gwen Thomas

 

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire: Mae'r amgylchedd yn bwysig iawn i mi, felly mae'n braf cael y cyfle, yn ystod fy nigwyddiad cyntaf fel yr Arglwydd Faer, i gwrdd a diolch i'r bobl ifanc arbennig hyn sy'n rhoi eu hamser rhydd er budd y gymuned."

 

Dywedodd y Swyddog Cyswllt Myfyrwyr, Emma Robson: "Cawsom 36 o wirfoddolwyr yn gweithio gyda ni eleni gyda phob un yn haeddu diolch enfawr. Maen nhw wrthi'n cnocio drysau fel rhan o ymgyrch Gwaredu'r Gwastraff sy'n annog myfyrwyr i waredu eu gwastraff ac ailgylchu'n gyfrifol ar ddiwedd y tymor, gan ddosbarthu dros fil o fagiau ailgylchu, bagiau gwastraff bwyd a chadis bwyd a chasglwyd 116 o fagiau o sbwriel mewn digwyddiadau pigo sbwriel yn y gymuned."

 

Dywedodd Gwirfoddolwr Cymunedol y Flwyddyn, Chris Ellis: "Rwyf wrth fy modd yn gwirfoddoli. Rydych yn dysgu cynifer o sgiliau gwahanol y gallwch eu defnyddio yn eich swydd, eich sgiliau cyfathrebu wrth siarad â phobl newydd, rydych yn magu hyder, ac yn dysgu llawer am Gaerdydd ei hun, ac yn gweld y tu ôl i'r llen o ran sut mae pethau'n digwydd, a deall yn well yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned leol. Rwyf bob amser wedi gweld pobl yn gwirfoddoli yn fy nghymuned leol gartref, ac roeddwn am wneud cyfraniad."

 

I gael rhagor o wybodaeth am Hyrwyddwyr Amgylcheddol ewch i:www.lletycaerdydd.co.uk