The essential journalist news source
Back
2.
February
2018.
Pennod newydd i adeilad Llyfrgell Y Rhath

PENNOD NEWYDD I ADEILAD LLYFRGELL Y RHATH

 

Bydd sefydliad lleol sydd â'r bwriad o ymestyn ei waith yn y gymuned, yn adleoli i adeilad Llyfrgell y Rhath.

 

Mae Rubicon Dance, sef yr elusen a leolir yn Adamsdown ac sy'n gweithio gyda chymunedau ledled y ddinas, wedi cyflwyno cais llwyddiannus i Gyngor Caerdydd i ymgymryd â'r gwaith o redeg yr adeilad ar Heol Casnewydd drwy gytundeb Trosglwyddo Ased Cymunedol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, sy'n gyfrifol am lyfrgelloedd: "Mae'n wych cael gwybod y bydd Rubicon Dance yn adleoli i adeilad Llyfrgell y Rhath gynt. Bu'r Cyngor yn chwilio am sefydliad neu grŵp addas i ddefnyddio'r eiddo er budd y trigolion lleol a derbyniodd ddiddordeb sylweddol gan nifer o bartïon.

 

"Amlinellodd Rubicon Dance weledigaeth glir iawn a wnaeth argraff yn rhan o'u cynigion ar gyfer yr adeilad, wrth iddynt geisio ymestyn eu gweithgareddau yn y ddinas. Mae eu cynlluniau'n cynnig ateb da ar gyfer yr adeilad a'r gymuned leol."

 

Caeodd Llyfrgell y Rhath ym mis Tachwedd 2014 oherwydd materion cynnal a chadw ac atgyweirio hir sefydlog.

 

Bu'r Cyngor yn darparu gwasanaethau llyfrgell dros dro yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd a bellach mae'n gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i greu darpariaeth barhaol yng nghyn-gapel YBC.

 

Mae cynlluniau Rubicon Dance yn cynnwys creu canolfan ddawns gydag o leiaf 3 stiwdio ddawns, a fyddai hefyd yn cynnig man perfformio anffurfiol. Bwriada'r cwmni gynnal gweithgareddau dysgu achrededig yn yr adeilad yn ogystal â rhaglen agored newydd ar gyfer y gymuned gan gynnwys darpariaeth ar gyfer y rhai hynny gydag anableddau, yr henoed, plant a phobl ifanc.

 

Mae'r sefydliad hefyd yn awyddus i ddarparu man cyfarfod anffurfiol i bobl leol a sector dawns annibynnol Caerdydd, gyda wifi am ddim a desgiau poeth y gellir eu harchebu er mwyn annog pobl i ddefnyddio eu cyfleusterau.

 

Disgwylir buddsoddi tua £2m yn yr adeilad, a'r bwriad yw agor y cyfleuster newydd ym mis Medi 2019.

 

Dywedodd Kathryn Williams, Cyfarwyddwr Rubicon Dance: "Rydyn ni wrth ein bodd gyda llwyddiant ein cynnig ar gyfer dod â bywyd newydd i Lyfrgell y Rhath. Mae tîm cyfan Rubicon yn ddiolchgar iawn i Gyngor Caerdydd am y buddsoddiad sylweddol hwn yng nghymuned Adamsdown a'r gymuned ddawns yn gyffredinol ledled y ddinas."