The essential journalist news source
Back
24.
January
2018.
Atgoffa landlordiaid i gael eu trwyddedu neu wynebu dirwyon

 

Atgoffa landlordiaid i gael eu trwyddedu neu wynebu dirwyon

 

Mae landlordiaid yng Nghymru sy'n rheoli eu heiddo eu hunain yn cael eu hatgoffa bod yn rhaid iddynt gyflwyno eu cais am drwydded i Rhentu Doeth Cymru i osgoi cael eu herlyn.

 

Mae'r neges hon yn dod gan fod nifer o landlordiaid sydd wedi methu â chael eu trwyddedu wedi'u herlyn yn llwyddiannus yn Llys Ynadon Caerdydd.

 

Cafodd Kowser Chowdhury o Princes Avenue, y Rhath, Caerdydd, ddirwy o £3,600 dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 am gyflawni gweithgareddau gosod a rheoli ar gyfer nifer o eiddo heb drwydded.

 

Cwblhaodd Mr Chowdhury ei gofrestriad gyda Rhentu Doeth Cymru ond methodd â chyflwyno cais am drwydded. Cafodd ei ganfod yn euog yn ei absenoldeb a gorchmynnwyd iddo dalu cost o £692 a thâl dioddefwr o £66.

 

Meddai'r Cyng Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd, yr Awdurdod Trwyddedu Sengl ar gyfer Rhentu Doeth Cymru: "Rhaid i landlordiaid yng Nghymru sy'n hunan-reoli sylweddoli nad yw cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru yn ddigon i gydymffurfio gyda'r gyfraith. Mae hefyd angen iddynt basio hyfforddiant a chyflwyno cais am drwydded.

 

"Mae angen trwydded ar unrhyw un sy'n cyflawni dyletswyddau gosod neu reoli eiddo. Mae pwerau gorfodi wedi bod ar waith ers cryn amser erbyn hyn ac rydym yn chwilio am unigolion sydd heb eu trwyddedu a'u herlyn.

 

"Gall hyfforddiant helpu pobl i ddod yn landlordiaid gwell ac wrth gwrs trwy gael eu trwyddedu, bydd landlordiaid yn cydymffurfio â'r gyfraith a byddant yn osgoi cael eu herlyn. Felly mae'n bwysig bod landlordiaid yn cwblhau'r broses gofrestru a thrwyddedu cyn gynted â phosibl."

 

Cafodd dau landlord arall ddirwy yn Llys Ynadon Caerdydd am fethu â chydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.

 

Plediodd Anthony Thomas, landlord o Fro Morgannwg, yn euog am reoli ei 10 eiddo rhent heb drwydded a gorchmynnwyd iddo dalu £665. Plediodd Lee Jones, o Albion Road, Port Talbot, yn euog am fethu â chofrestru ac mae rhaid iddo talu £430.

 

Dywedodd,Y Cyng. Thorne: "Mae erlyniad yn creu canlyniadau difrifol ar gyfer landlordiaid sy'n hunan-reoli gan mai amod cael trwydded yw bod rhywun yn addas a phriodol i gyflawni gweithgareddau gosod a rheoli. Mae'r holl bobl hynny sy'n parhau i weithredu heb drwydded yn peryglu dyfodol eu busnesau."