The essential journalist news source
Back
22.
January
2018.
Y Cyngor yn ymgynghori ar ddewisiadau i newid trefniadau derbyn i ysgolion

Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio sylwadau dinasyddion ynghylch y dewisiadau o ran newid sut y mae'r broses ymgeisio i ysgolion yn gweithredu yn y ddinas, gan gynnwys y dewis i greu ysgolion bwydo cynradd. 

[image]

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn adroddiad annibynnol gan Brifysgol Caerdydda gomisiynodd y Cyngor er mwyn ymchwilio i sut y mae ceisiadau i ysgolion yn cael eu rheoli mewn awdurdodau lleol eraill. 

Ym mis Tachwedd, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor argymhelliad i geisio barn gyhoeddus ar ddewisiadau o ran trefniadau ymgeisio i ysgolion. 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Rydym o hyd yn edrych am ffyrdd o sicrhau ein bod yn defnyddio'r llefydd ysgol sydd ar gael mewn modd sydd yn ateb orau anghenion y cymunedau lleol y mae ein hysgolion yn eu gwasanaethu. 

"Fel y dywed yr adroddiad ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mae manteision ac anfanteision i'r dewisiadau sydd dan sylw. Drwy ymgynghori'n gyhoeddus ar y cynigion hyn, gallwn fesur barn ystod o randdeiliaid, y gallwn eu defnyddio i lunio trefniadau derbyn i ysgolion yn y ddinas. 

"Mae'n rhaid i'r Cyngor adolygu ei drefniadau derbyn i ysgolion bob blwyddyn. Gan fod y rhain wedi aros yr un fath yng Nghaerdydd ers 2001, mae'n bryd archwilio manteision y dewisiadau newydd, gan sicrhau ein bod yn cynnal trefn ymgeisio teg, tryloyw ac eglur. 

Mae'r dewisiadau sydd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar sut y mae'r Cyngor yn dyrannu llefydd mewn ysgolion sydd wedi cael gormod o geisiadau. 

Mae gan aelodau'r cyhoedd tan 30 Ionawr 2018 i gyflwyno eu sylwadau. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i aelodau'r Cabinet yn y gwanwyn, pan ddisgwylir iddynt wneud penderfyniad terfynol o ran newid y drefn neu beidio, a fydd yn dod i rym ym mis Medi 2019 os caiff y newidiadau eu cymeradwyo. 

Gellir gweld yr ymgynghoriad ar-lein drwy fynd i www.caerdydd.gov.uk/trefniadauderbyn