The essential journalist news source
Back
18.
January
2018.
Dirwy o bron i dair mil o bunnoedd am dipio'n anghyfreithlon

Mae David Rees o Heol y Bont, Llandaf, wedi'i gael yn euog o dipio gwastraff yn anghyfreithlon a chafodd ddirwy o bron i £2,640 yn Llys Ynadon Caerdydd ar 16 Ionawr.

Aeth yr achos gerbron y llys heb fod Mr Rees yn bresennol ar ôl iddo bledio'n ddieuog ar 12 Rhagfyr 2017.

Clywodd y llys fod David Rees - oedd yn masnachu dan yr enw Burston's Home & Landscaping - wedi curo ar ddrws Suzanne Williams o Glos Cemmaes yn Gabalfa ar 2 Hydref a gofyn a hoffai iddo gludo gwastraff yng ngwaelod ei gardd ymaith ar ôl i Miss Williams osod celfi newydd yn ei chartref.

Cytunodd Miss Williams i bris o £100 mewn arian parod a llwythodd David Rees ei fan â'r gwastraff o'r gerddi ffrynt a chefn. Ni wnaeth roi derbynneb na gwaith papur am y gwaith.

Ar 7 Hydref, bu swyddog gorfodi gwastraff ar ddyletswydd yn Rhiwbeina a daeth ar draws bentwr sylweddol o wastraff oedd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ym maes parcio Wenault. Yn yr ymchwiliad a ddilynodd, cafodd y gwastraff ei olrhain i Miss Williams, a esboniodd mai David Rees a aeth â'r gwastraff.

Mae'r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu, y Cynghorydd Michael Michael, wedi croesawu'r ddirwy gan y llys.

Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Gwyddom mai elw ariannol sydd wrth wraidd y rhan helaethaf o achosion o dipio'n anghyfreithlon. Caiff y troseddau hyn eu cyflawni gan unigolion diegwyddor sy'n ddifater ynghylch yr amgylchedd sy'n gartref i ni i gyd. Bydd Mr Rees nawr yn talu mwy na thair mil o bunnoedd am ei drosedd amgylcheddol.

"Os cewch wasanaeth i gael gwared ar wastraff o'ch tŷ, chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gwastraff yn cael ei daflu'n gywir mewn cyfleuster trwyddedig.

"Rhaid i'r person sy'n casglu'r gwastraff fod wedi'i gofrestru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gludo gwastraff a meddu ar nodyn trosglwyddo gwastraff sy'n manylu lle mae'r gwastraff yn cael ei gasglu ac i le mae'n mynd.

"Os ydych chi'n meddwl bod y pris yn isel, mae ‘na ryw ddrwg yn y caws fwy na thebyg. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r manylion hyn - os bydd rhywun yn dod o hyd i'ch gwastraff, chi sy'n agored i achos llys."

Cafodd David Rees ddirwy o £2,640, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £425 gyda gordal dioddefwr o £170.