The essential journalist news source
Back
17.
January
2018.
Y Tywysog Harry a Ms Meghan Markle yn ymweld â Chastell Caerdydd -

Ar Ddydd Iau bydd y Tywysog Harri a Ms Meghan Markle yn ymweld yn swyddogol â Phrifddinas Cymru am y tro cyntaf.

Gan ddechrau yng nghastell eiconig y ddinas, byddant yn cwrdd ag aelodau o'r cyhoedd cyn mwynhau blas ar ddiwylliant, chwaraeon a threftadaeth Cymru. Byddant hefyd yn dysgu am rai o'r sefydliadau sy'n gweithio gyda chymunedau ar draws y ddinas.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Hoffem estyn croeso cynnes Cymreig i Dywysog Harry a Ms Markle ac rydym yn falch y byddant yn ymuno â ni yng Nghastell Caerdydd yn ystod eu hymweliad swyddogol cyntaf â Chymru.

"Nod eu hymweliad fydd profi rhywfaint o'r dreftadaeth a'r diwylliant cyfoethog yr ydym yn falch iawn ohonynt yma yng Nghaerdydd yn ogystal â rhoi cyfle iddynt gwrdd ag unigolion a sefydliadau sy'n gweithio i hyrwyddo'r Gymraeg.

"Yna byddant yn ymweld â Hyb Star yn Sblot i gwrdd â rhai o'r unigolion a'r sefydliadau y mae eu gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau. Croeso i Gaerdydd."

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Bob Derbyshire: "Mae Caerdydd yn falch iawn o groesawu'r Tywysog Harry a Ms Markle i'r ddinas. Rwy'n siŵr y byddant yn mwynhau eu hymweliad a gobeithiwn mai dyma'r ymweliad cyntaf o lawer i'r cwpl â Phrifddinas Cymru. "

Gwybodaeth Ddefnyddiol:

  • Bydd gatiau'r Castell ar agor am 9am. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael yn y castell a bydd mynediad am ddim, ond cyntaf i'r felin fydd hi.

  • Bydd yr ymweliad brenhinol yn dechrau tua 13.30

  • Mae croeso i gefnogwyr ddod i weld y Tywysog a Ms Markle ar diroedd y Castell, ond fe'u hanogir i deithio i ganol y ddinas gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

  • Nid yw'r ymweliad â Hyb Star yn agored i'r cyhoedd.

  • Ni fwriedir cau unrhyw ffyrdd ar gyfer y naill ymweliad na'r llall.