The essential journalist news source
Back
12.
January
2018.
Cefnogi pobl, cefnogi annibyniaeth

Cefnogi pobl, cefnogi annibyniaeth

 

Mae blaenoriaethau Caerdydd ar gyfer atal digartrefedd a rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y ddinas i fyw'n annibynnol wedi'u datgelu.

 

Mae cynllun gweithredu lleol Rhaglen Cefnogi Pobl y Cyngor ar gyfer 2018/19 yn amlinellu sut y bydd yr awdurdod yn gwario mwy na £16 miliwn o gyllid grant gan Lywodraeth Cymru i roi cymorth tai i bobl yng Nghaerdydd.

 

Mae'r rhaglen yn cyfrannu at ddarpariaeth y Cyngor o wasanaethau megis hosteli digartrefedd, ffoaduriaid trais domestig, llety â chymorth, cymorth yn y cartref, gwasanaethau larymau a wardeiniaid cymunedol.

 

Mae cynllun cynorthwyo pobl Caerdydd yn canolbwyntio ar y sawl sy'n wynebu argyfwng byw gyda phwyslais ar helpu'r unigolion sydd fwyaf agored i niwed. Yn rhan o'r gwariant a gynigir y mae:

 

  • £.47 miliwn ar wasanaethau digartrefedd gan gynnwys hostelau

  • £2.3 miliwn ar gymorth i atal digartrefedd

  • £2.05 miliwn ar bobl ifanc sydd ag anghenion cymorth a'r sawl sydd wedi gadael gofal

  • £1.25 miliwn i Fenywod sydd mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig

  • £1.45 miliwn ar gyfer pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau (cyffuriau ac alcohol)

  • £1.86 miliwn ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymorth

 

Mae'r cynllun darparu lleol yn amlinellu sut y mae projectau atal digartrefedd megis y Project Tai'n Gyntaf sy'n cynnig llety prif ffrwd i'r rheiny sy'n cysgu ar y strydoedd, a'r Project Cwmpas sy'n cynnig cymorth dwys i'r rheiny sydd wedi bod yn cysgu ar y strydoedd am amser hir, yn gwneud cynnydd. Bydd y rhain yn parhau i gael eu hariannu yn 2018/19.

 

Bydd mwy o arian mewn perthynas â chymorth i ferched sydd mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig i adlewyrchu'r angen am fwy o waith ataliol a darpariaeth i ddynion sy'n dioddef o gamdriniaeth ddomestig. Bydd buddsoddiad hefyd mewn gwasanaethau cymorth i deuluoedd ac unigolion agored i niwed i symud i'r sector rhentu preifat.

 

Mae'r cynllun hefyd yn amlygu'r angen i helpu pobl ifanc sy'n cael problemau o ran dod o hyd i swydd neu hyfforddiant a thwf cynyddol y newidiadau diwygio lles ar bobl ifanc. Bydd gwasanaeth mentora pobl ifanc, a fydd yn cyd-fynd â gwasanaeth cyflogaeth newydd y Cyngor a fydd yn dechrau fis Ebrill, yn helpu i dargedu'r bobl fwyaf agored i niwed a helpu pobl ifanc i mewn i waith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae'r Rhaglen Cefnogi Pobl yn chwarae rhan bwysig o ran atal digartrefedd drwy roi'r help sydd ei angen ar bobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Wrth wneud hynny, mae'n helpu i leihau'r gofynion ar wasanaethau eraill megis gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

 

"Rydym yn brifddinas, felly mae pwysau tai ychwanegol arnom ni sydd yn aml yn gwneud gwaith ataliol yn anos gan gynnwys diffygion tai cymdeithasol a'r galw am letyau yn y sector preifat. Ond rydym ni'n mynd i'r afael â hynny drwy brojectau tai arloesol a thrwy adeiladu tai cymdeithasol newydd. Mae gennym darged o adeiladu 1,000 o dai cyngor newydd dros y pum mlynedd nesaf.

 

"Bu gennym ni ddull rhagweithiol o fynd i'r afael â digartrefedd erioed ac mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i atal pobl rhag dod yn ddigartref. Mae ein gwasanaeth Opsiynau Tai'n gweithio'n agos gydag aelwydydd i ymchwilio i ystod o opsiynau a gwasanaethau i'w helpu i osgoi colli eu cartrefi a hyd yn hyn eleni rydym ni wedi atal digartrefedd mewn 440 o achosion.

 

"Mae'r cynllun hefyd yn canolbwyntio ar ein gwaith gyda'r digartref ar y strydoedd. Gyda chynnydd o ran nifer y bobl sy'n cysgu ar strydoedd y ddinas, mae'n holl bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n cysgu ar y strydoedd, sydd ag anghenion cymhleth iawn, ac sydd angen cymorth dwys yn aml.

 

"Yn tanategu'r cynllun hwn y mae ein hymrwymiad i sicrhau'r canlyniadau tai gorau i bobl yng Nghaerdydd, gan sicrhau bod ein gwasanaethau yn diwallu eu hanghenion a'u bod yn gallu ymgysylltu â'r ddarpariaeth sydd ar gael.

 

"Mae ein rhaglen Cefnogi Pobl yn canolbwyntio'n bennaf ar atal a lliniaru digartrefedd. Ar y cyfan, mae'r Cyngor yn gwario mwy na £17 miliwn ar wasanaethau i atal digartrefedd ac i fynd i'r afael ag ef."

 

Bydd y Cabinet yn ystyried y cynllun cyflawni lleol Cefnogi Pobl ar ddydd Iau, 18 Ionawr, ynghyd â threfniadau ail-gomisiynu ar gyfer nifer o wasanaethau cymorth tai.