The essential journalist news source
Back
12.
January
2018.
Wfft i ymder Ionawr yn llyfrgelloedd ac hybiau Caerdydd

WFFT I LYMDER IONAWR YN LLYFRGELLOEDD AC HYBIAU CAERDYDD

 

Mae gan lyfrgelloedd a hybiau'r ddinas yr ateb perffaith i chi anghofio llymder mis Ionawr yr wythnos nesaf gyda diwrnod yn llawn gweithgareddau a gwybodaeth.

 

Bydd Hyb y Llyfrgell Ganolog yn cynnal digwyddiad Dydd Llun Llwm ddydd Llun 15 Ionawr (11am - 3pm) gyda nifer o sesiynau blasu a gweithdai i annog pobl i roi tro ar rywbeth gwahanol yn y Flwyddyn Newydd.

 

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys crefftio ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar, ioga, tai chi, ysgrifennu creadigol, addurno cacennau a dysgu Ffrangeg a bydd staff Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays yn cynnig sesiynau ar y wybodaeth ac adnoddau sydd ar gael yn y llyfrgell ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb ymchwilio ei goeden deulu neu ddysgu rhagor am hanes lleol.

 

Bydd nifer o sefydliadau hefyd yn mynd i'r digwyddiad, yn cynnwys y Samariaid, Time to Change a Recovery Cymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Honnir mai Dydd Llun Llwm yw'r diwrnod pan deimla pobl yn fwyaf isel eu hysbryd yn y flwyddyn ond gyda'r holl weithgareddau a'r wybodaeth y byddwn ni'n eu cynnig ddydd Llun nesaf, bydd ein llyfrgelloedd a hybiau'n cynnig digon o sbri ac ysbryd cadarnhaol i'n cwsmeriaid.

 

"Rydym am annog pobl i roi tro ar rywbeth newydd, i ddod draw a chwrdd â phobl newydd. Gall llawer deimlo'r felan yr adeg hon yn y flwyddyn a gall bod yn unig a theimlo'n ynysig effeithio ar iechyd rhywun trwy gydol y flwyddyn.

 

"Gall cychwyn hobi newydd neu gyfarfod pobl newydd yn rheolaidd gael effaith gadarnhaol iawn ar les person a helpu i weithio yn erbyn unigedd a theimlo'n ynysig. Bydd rhywbeth i bawb yn Hyb y Llyfrgell Ganolog dydd Llun, yn cynnwys gwybodaeth a chyngor gan ein hasiantaethau partner ar gyfer y rhai sy'n chwilio am gymorth.

 

"Yn ogystal â'r digwyddiad arbennig hwn, gall ein llyfrgelloedd a hybiau chwarae rhan bwysig yn

iechyd a llesiant ein cwsmeriaid. Maen nhw'n bwyntiau ffocws yn eu cymunedau ac yn cynnal gweithgareddau a grwpiau bob wythnos lle gall pobl gyfarfod, ymuno a derbyn gwybodaeth am y gwasanaethau yn yr ardal."

 

Mae'r holl lyfrgelloedd a hybiau trwy'r ddinas yn cynnig gweithgareddau Llun Llwm, yn cynnwys Llyfrgell Radur yn croesawu telynores a fydd yn canu alawon i dawelu straen cwsmeriaid (10:30am) a Llyfrgell Treganna yn cynnig caffi Llun Llwm (10:30am - 12:30pm) gydagOrigami, Scrabble, lliwio a digonedd o wybodaeth am weithgareddau parhaus yn cynnwys Darllen Ar Goedd, y Clwb Llyfrau a grwpiau canu'r Goldies.

 

Bydd Hyb STAR yn croesawu cwsmeriaid i fore coffi a sesiwn cyfeillion demensia (1010am - 12pm) ac mae HybTreláiaChaerau yn annog cwsmeriaid o'r ardal leol i ddod draw am sgwrs i gyfarfod pobl eraill yn y gymuned yn eu Grŵp FAN Cyfeillion a Chymdogion (9:30-10:30am).

 

Bydd Llyfrgell Rhiwbeina yn cynnal Caffi Cymunedol Miss Tilly (12:30 - 1:30pm) cyn sesiwn ioga ofalgar mewn cadeiriau (12.30 - 1.30pm) yn ogystal â stondinau gwybodaeth (3 - 5.30pm) ynghylch gwasanaethau a gweithgareddau yn yr ardal.

 

Ewch i'ch llyfrgell leol neu hyb cymunedol neu gysylltu â nhw am ragor o fanylion y digwyddiadau yn eich ardal.