Agorodd Campws Cymunedol y Dwyrain, cartref newydd i Ysgol Uwchradd Y Dwyrain a Choleg Caerdydd a'r Fro heddiw.
Mae gan y campws le i hyd at 1,200 o fyfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Y Dwyrain a 320 yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n cynnwys gofodau dysgu hyblyg y gellir eu ffurfio at bethau amrywiol, a'r cyfleusterau gwyddonol a TG diweddaraf.
Yn benllanw project tair blynedd, £25m, mae Campws Cymunedol y Dwyrain wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry: "Mae Cyngor Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro, ynghyd â Llywodraeth Cymru, wedi creu campws gwirioneddol arloesol, yn cynnig amgylchedd dysgu sy'n addas i'r 21ain Ganrif, gyda chyfleusterau cyfoes sydd hefyd ar gael at ddefnydd y gymuned leol.
"Bydd y campws a rennir yn dod â chyfleoedd sylweddol i fyfyrwyr fynd yn eu blaen at addysg bellach a hyfforddiant.
"Mae hon yn foment arbennig o bwysig i blant a phobl ifanc dwyrain Caerdydd, ac i'r ddinas gyfan."
Symudodd Ysgol Uwchradd Y Dwyrain o'i hen safle dros y Nadolig.Dywedodd y Pennaeth, Mr Armando Di-Finizio: "Mae cwblhau'r ysgol newydd yn anhygoel. Rwyf wedi ymweld â'r safle dros gyfnod y gwaith adeiladu, ac mae bod yma'n awr, â'r myfyrwyr a'r staff yn yr adeilad newydd, yn anghredadwy.
"Gweithiodd pawb yn galed iawn i sicrhau ein bod yn barod at ddechrau'r tymor. Mae symud ysgol o fewn ychydig wythnosau dros wyliau'r Nadolig yn gryn gamp. Roedd pethau'n dynn, a gall pawb a gyfrannodd at y gwaith ymfalchïo'n fawr yn yr hyn y maen nhw wedi llwyddo i'w wneud mewn cyfnod mor fyr.
"Rydyn ni ar dân dros fwrw ati nawr. Dim ond ychydig wythnosau'n ôl cawsom y newyddion gwych gan Estyn, yn ein rhyddhau o fesurau arbennig. Bellach gallwn ddechrau defnyddio ein cartref newydd sbon, gan wybod bod Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn mynd o nerth i nerth!"
Mae Cyngor Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro wedi gweithio mewn partneriaeth dros nifer o flynyddoedd ond dyma'r tro cyntaf iddynt gydweithio i greu campws a rennir.
Dywedodd Mike James, prif Weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro: "Mae'n gyffrous iawn gallu croesawu'r disgyblion a'r myfyrwyr cyntaf i'r project nodedig hwn, sy'n cynnig dewis llawer ehangach o hyfforddiant ac addysg i bobl ifanc yn Nwyrain Caerdydd.
"Mae Campws Cymunedol y Dwyrain yn gyfleuster ysbrydoledig i bobl ifanc a'r gymuned leol. Mae gan Goleg Caerdydd a'r Fro hanes hir o weithio gyda phobl Dwyrain Caerdydd ac mae'n bleser gweld y campws a rennir newydd hwn yn agor, ac yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial."
Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Mae'n wefreiddiol gweld y campws newydd hwn yn agor ac yn barod i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ddysgu, cyflawni a symud ymlaen. Mae'n ffordd wych o frolio dysgu galwedigaethol ac ôl-16 ehangach.
"Nid yn unig ein bod yn dod ag opsiynau ôl-16 yn ôl i Ddwyrain Caerdydd, rydym hefyd yn dod â chyfleoedd newydd a llwybrau gyrfaol newydd i ysgogi ac annog hyd yn oed fwy o bobl."