The essential journalist news source
Back
29.
December
2017.
Buddsoddiad Caerdydd gwerth £284m mewn ysgolion: Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion arbennig

Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau manwl ar gyfer y buddsoddiad unigol mwyaf yn ysgolion Caerdydd. 

Ariennir y buddsoddiad gwerth £284 miliwn ar y cyd gan y cyngor a Llywodraeth Cymru, yn rhan o gam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer Caerdydd a fydd yn dechrau yn 2019. 

Mae cynlluniau’n cynnwys ysgolion uwchradd newydd, ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg newydd, ac ysgolion arbennig newydd.                                        

Yn yr olaf mewn cyfres, dyma ddadansoddiad manwl o’r hyn y mae’r cynlluniau yn ei olygu ar gyfer ysgolion arbennig y brifddinas. 

Ysgol gynradd arbennig: anableddau dysgu cymhleth a chyflyrau’r sbectrwm awtistiaeth

Bydd ysgol gynradd arbennig â lle i 140 o ddisgyblion ag anableddau dysgu cymhleth a difrifol, a phlant â chyflyrau’r sbectrwm awtistiaeth, yn cael ei hadeiladu. 

Bydd y project hwn yn mynd i'r afael â'r adeilad presennol anaddas y mae Ysgol Riverbank yn ei defnyddio. 

Ysgol uwchradd arbennig: anableddau dysgu cymhleth a chyflyrau sbectrwm awtistiaeth

Bydd ysgol uwchradd arbennig â lle i 240 o ddisgyblion ag anableddau dysgu cymhleth a difrifol, a phlant â chyflyrau’r’ sbectrwm awtistiaeth, yn cael ei hadeiladu. 

Bydd hyn yn galluogi'r cyngor i fynd i'r afael â’r adeilad anaddas a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Ysgol Woodlands. 

Ysgolion cynradd arbennig: anghenion iechyd a lles emosiynol

Ysgol gynradd newydd ar gyfer plant ag anghenion iechyd a lles emosiynol. 

Bydd y project hwn yn mynd i'r afael â'r adeilad anaddas a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Ysgol y Court. 

Ysgolion uwchradd arbennig: anghenion iechyd a lles emosiynol

Bydd ysgol uwchradd arbennig, ar gyfer plant ag anghenion iechyd a lles emosiynol, yn cael ei hadeiladu. 

Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r adeilad anaddas a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Ysgol Greenhill. 

Mae’r cynlluniau a ddewiswyd ar gyfer cam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi’u nodi yn dilyn canlyniadau astudiaeth annibynnol a oedd yn ystyried cyflwr, addasrwydd a lleoedd ar gael mewn ysgolion yng Nghaerdydd. 

Mae’r buddsoddiad hwn yn ychwanegol at y gost barhaus o gynnal a chadw ysgolion y ddinas.