The essential journalist news source
Back
28.
December
2017.
Buddsoddiad gwerth £284m yn ysgolion Caerdydd: Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion uwchradd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau manwl ar gyfer y buddsoddiad unigol mwyaf yn ysgolion Caerdydd

Cydariennir y buddsoddiad o £284m gan y cyngor a Llywodraeth Cymru, yn rhan o gam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer Caerdydd a fydd yn dechrau yn 2019. 

Mae cynlluniau’n cynnwys ysgolion uwchradd newydd, ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg newydd, ac ysgolion arbennig newydd.                                        

Y gyntaf mewn cyfres, dyma ddadansoddiad manwl o’r hyn y mae’r cynlluniau yn ei olygu ar gyfer ysgolion uwchradd yn y brifddinas. 

Ysgol Uwchradd Cantonian

Bydd Ysgol Uwchradd Cantonian yn cael ei hailadeiladu a’i hehangu. Bydd lle ar gyfer 1,200 o ddisgyblion rhwng 11 a 16 oed – cynnydd o’r capasiti presennol ar gyfer 900 o ddisgyblion.Bydd lle i fwy yn y chweched dosbarth, o 95 o leoedd i 150 o leoedd. 

Ysgol Uwchradd Fitzalan

Bydd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn cael ei hailadeiladu, gan greu ysgol newydd sbon ar gyfer 1,500 o ddisgyblion Blwyddyn 7 i Flwyddyn 11, gan gynnwys chweched dosbarth. 

Ysgol Uwchradd Willows

Bydd Ysgol Uwchradd Willows yn cael ei hailadeiladu a’i hehangu i gynnig 300 yn fwy o leoedd.

Bydd hyn yn arwain at le i 1,200 o ddisgyblion Blwyddyn 7 i Flwyddyn 11. 

Ysgol Uwchradd Cathays

Bydd Ysgol Uwchradd Cathays yn cael ei hailadeiladu a’i hehangu i wneud lle ar gyfer 1,200 o ddisgyblion Blwyddyn 7 i Flwyddyn 11, sy’n gynnydd o’r 900 o leoedd presennol, gan gynnwys chweched dosbarth. 

Ysgol Uwchradd Caerdydd

Bydd Ysgol Uwchradd Caerdydd yn cael ei hehangu i gynnwys 300 yn fwy o leoedd. Golyga hyn y bydd ganddi gapasiti o 1,500 o ddisgyblion Blwyddyn 7 i Flwyddyn 11, gan gynnwys chweched dosbarth. 

Mae’r cynlluniau a ddewiswyd ar gyfer cam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi’u nodi yn dilyn canlyniadau astudiaeth annibynnol a oedd yn ystyried cyflwr, addasrwydd a chapasiti ysgolion yng Nghaerdydd. 

Mae’r buddsoddiad hwn yn ychwanegol at y gost barhaus o gynnal a chadw ysgolion y ddinas.