The essential journalist news source
Back
21.
December
2017.
Ysgol Gynradd Trelái wedi'i chymryd allan o fesurau arbennig Estyn

Bellach, nid yw Ysgol Gynradd Trelái yng Nghaerau, Caerdydd dan fesurau arbennig gan Estyn, yr arolygiaeth addysg yng Nghymru. 

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn cyfnod o newid mawr, gan arwain at y gwelliannau sylweddol a gydnabuwyd gan arolygwyr yn ystod ymweliad diweddar i'r ysgol. 

Penderfynodd Estyn roi Ysgol Gynradd Trelái dan fesurau arbennig yn dilyn arolygiad ym mis Mai 2015. Ers hynny mae arferion gwaith newydd wedi'u cyflwyno, ac mae arweinyddiaeth a llywodraethu wedi gwella yn yr ysgol. 

Daeth Mrs Carolyn Mason yn Bennaeth Ysgol Gynradd Trelái fis Mehefin y llynedd, ar ôl cael ei phenodi gan yr awdurdod lleol i gynorthwyo'r ysgol ym mis Mai 2016, pan oedd yn Bennaeth Ysgol Gynradd y Tyllgoed gerllaw. 

Gan ymateb i benderfyniad Estyn i dynnu Ysgol Gynradd Trelái allan o fesurau arbennig, dywedodd Mrs Mason: "Mae hyn yn gyflawniad rhyfeddol i'r ysgol hon; mae'n adlewyrchu proffesiynoldeb, penderfynoldeb, ymrwymiad a chred cymuned Trelái a'r plant mae'n eu gwasanaethu. 

"Rydym yn cydnabod y cynnydd rydym wedi'i wneud, mae'r gwaith yn parhau - nid dyma'r diwedd. Bu gwelliannau gwirioneddol a bydd yr ysgol yn parhau i adeiladu ar y sylfaen sydd wedi'i gosod. Edrychwn ymlaen at weithio gyda rhieni, llywodraethwyr, disgyblion a staff i sicrhau dyfodol cadarn a chynaliadwy ar gyfer ein plant. 

"Mae'r ysgol yn ddiolchgar am y cymorth a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol a'r consortiwm rhanbarthol i'n cynorthwyo drwy'r cyfnod hwn o newid. 

"Mae Trelái yn elwa ar ymgysylltu'n gyson â rhieni. Mae rhieni wedi chwarae rhan weithredol yn llwyddiant yr ysgol drwy sicrhau bod eu plant yn dod i'r ysgol ar amser ac yn gwisgo iwnifform 'yn barod i ddysgu'. 

"Yn bwysicaf oll, y peth sy'n dod â'r balchder mwyaf i mi yw'r plant sydd wedi ymateb mor gadarnhaol a brwdfrydig yn ystod y cyfnod hwn o newid." 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwy'n falch o weld bod ymdrechion Mrs Mason, ei staff i gyd, y plant, rhieni, llywodraethwyr a phawb sy'n rhan o Ysgol Gynradd Trelái wedi'u cydnabod gan arolygwyr Estyn. 

"Mae newidiadau sylweddol wedi bod yn Ysgol Gynradd Trelái dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae canlyniadau hynny wedi'u cydnabod yn adroddiad diweddaraf Estyn, sy'n nodi'r cynnydd da a wnaed. 

"Yn dilyn y penderfyniad i roi Ysgol Gynradd Trelái dan fesurau arbennig yn 2015, mae'r awdurdod lleol wedi gweithio'n agos â'r ysgol i ysgogi newid cadarnhaol. Mae'n galonogol iawn gweld canlyniadau'r gwaith hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld cymuned yr ysgol yn adeiladu ar y llwyddiant hwn er mwyn sicrhau rhagor o welliannau yn y dyfodol." 

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Jacquie Turnbull: "Mae'r Llywodraethwyr yn ddiolchgar bod Estyn wedi cydnabod y gwaith caled a'r ymdrech yn Ysgol Gynradd Trelái, wrth benderfynu tynnu'r ysgol o'r categori ‘mesurau arbennig'. 

"Mae'r Bwrdd wedi gwerthfawrogi arweinyddiaeth y Pennaeth Carolyn Mason, y mae ei gweledigaeth glir a'i hegni wedi'n hysbrydoli ni gyd i godi safonau cyflawniad ein plant. Mae uwch aelodau staff wedi mynd i'r afael â'r heriau sylweddol o ran arweinyddiaeth, ac mae'r staff drwyddi draw yn datblygu eu proffesiynoldeb a'u hymrwymiad i barhau â'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud eisoes. 

"O ystyried y ffactorau, a chyda chefnogaeth gref gan y llywodraethwyr, rwy'n hyderus y bydd y dyfodol yn un cadarnhaol i'n plant a'r gymuned yn Nhrelái."