The essential journalist news source
Back
20.
December
2017.
Bydd y gwaith o adeiladu’r orsaf fysus newydd yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd

 

Bydd gwaith ar orsaf fysus newydd Caerdydd yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd ar ôl i Gabinet y Cyngor gymeradwyo cynllun newydd a dull cyllido newydd ar ddydd Mercher, 20 Rhagfyr.

Bydd y gymeradwyaeth hon yn arwain at sefydlu cyfnewidfa trafnidiaeth fodern sy'n diwallu anghenion Prifddinas Cymru yn y Sgwâr Canolog.

Nod y Cyngor oedd cyflawni cynllun Gradd A* yn seiliedig ar swyddfeydd ond hyd yn hyn mae wedi bod yn amhosibl bwrw ymlaen â'r uchelgais honno heb sicrhau tenant cyn dechrau ar y gwaith adeiladu.

Dros y misoedd diwethaf mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llen gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau'r elfen swyddfeydd o'r datblygiad.  O ganlyniad, bydd menter arloesol ar y cyd rhwng y Cyngor, Llywodraeth Cymru a phartner datblygu'r Cyngor, Rightacres, yn galluogi swyddfeydd i barhau i fod yn rhan o'r cynllun.

Cyfarfu Cabinet y Cyngor ym mis Gorffennaf gan gytuno i gyflawni adolygiad llawn o'r cynllun a'r trefniadau cyllid. Mae'r cynllun a luniwyd yn cynnig dyluniad llawer gwell ac yn cynnwys elfen swyddfa sylweddol, mwy o unedau preswyl a dyluniad newydd ar gyfer y maes parcio. Ni fydd yr orsaf fysus ar y llawr gwaelod a'r unedau preswyl yn newid.

Bydd angen cyflwyno cais cynllunio newydd er mwyn cymeradwyo'r newidiadau, ond disgwylir y bydd y caniatâd cynllunio presennol yn golygu y gellir bwrw ati i weithio ar y safle yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Mae'r gyd-fenter y mae'r Cyngor wedi'i negodi wedi galluogi cadw'r elfen swyddfa yn y datblygiad a dechrau gwaith ar y safle o fewn yr amserlenni a gyhoeddwyd ym mis Mehefin.  Heb y fenter hon, byddai wedi bod yn angenrheidiol i ddibynnu ar gynllun aml-ddefnydd yn cynnwys llety i fyfyrwyr a gwesty o bosibl.  Nid dyma'r achos bellach.

Maes o law, ac o ganlyniad i drafodaethau'r Cyngor gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd yr un fenter - sydd wedi'i hehangu i gynnwys Llywodraeth y DU, yn cyflawni'r project Cyfnewidfa Caerdydd Canolog ehangach, gan gynnwys moderneiddio Gorsaf Caerdydd Canolog. 

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i lunio cyd-fenter ffurfiol gyda Chyngor Caerdydd a'r datblygwr Rightacres i fwrw ymlaen a'r project hwn. 

Dywedodd y Cyng. Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygiad: "Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llenni, nid yn unig i fwrw ymlaen â chynllun fydd yn cyflenwi gorsaf fysus newydd Caerdydd, ond i greu cynllun fydd yn trawsnewid ac yn moderneiddio ardal y Gyfnewidfa Ganolog yn ei chyfanrwydd.

"Does dim dwywaith bod oedi wedi bod mewn cysylltiad â'r project hwn ond mae'r bartneriaeth newydd hon yn galluogi'r Cyngor i fwrw ymlaen â datblygu'r orsaf fysus yn ddi-oed a bydd yn ein galluogi i sicrhau elfennau swyddfa sylweddol i ddiwallu anghenion darpar-fuddsoddwyr. Dywedais o'r dechrau fod angen i ni fod yn hyblyg i gwblhau'r project, gan ddefnyddio dull a arweinir gan y farchnad i gynhyrchu'r arian y mae ei angen arnom. Dyma'n union yr ydyn ni'n ei wneud."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Does dim amheuaeth mai dyma'r amser i ehangu'r orsaf fel y gall fodloni'r galw cynyddol am deithio ar drenau, ymdopi â chalendr digwyddiadau mawr cynyddol ac wrth gwrs gosod y cynsail ar gyfer Metro De Cymru.

"Mae gennym ni, ynghyd â'r Cyngor, weledigaeth ar gyfer y safle o amgylch Caerdydd Canolog i ddod yn hyb trafnidiaeth integredig, yn sicrhau integreiddiad rhwydd rhwng trenau, bysus a'r Metro, gan alluogi mynediad rhwydd i gerddwyr a chyfleusterau storio i feicwyr.

"Gall y gyd-fenter hon gyflawni'r holl uchelgeisiau ar gyfer y gyfnewidfa, gan ddechrau gydag ailddatblygu'r orsaf fysus, a chan fod y datblygiad hwn bellach yn cynnwys gofod o safon sy'n gallu denu'r math o fewnfuddsoddwyr a fydd yn ein helpu ni i fwrw ymlaen ag uchelgeisiau ein Cynllun Gweithredu Economaidd newydd sbon."

Yn rhan o'r cytundeb, bydd Trafnidiaeth Cymru'n gweithredu'r orsaf fysus newydd. Bydd hyn yn helpu i alinio gweithrediad yr orsaf fysus newydd gyda gweithrediad Caerdydd Canolog a'r cyfleusterau newydd eraill sy'n cael eu creu yn yr ardal yn rhan o'r project Cyfnewidfa ehangach.

Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo'r argymhellion canlynol:

  • Cytuno mewn egwyddor ar y model cyllid newydd a'r bartneriaeth

  • Cadarnhau manylion terfynol gyda'r datblygwr o ran cwblhau'r orsaf fysus newydd

  • Dechrau ar y broses o sicrhau arian Bargen Ddinesig tuag at gostau creu'r Gyfnewidfa Ganolog ehangach

Bydd y cynllun newydd arfaethedig yn galluogi i ni ddechrau ar y safle ar ddechrau 2018 a fydd yn cynnwys cymysgedd o ofod swyddfa Gradd A* 110,000tr sg., 400 o unedau sector rhent preifat a 250 o fannau parcio uwchben yr orsaf fysus gydag unedau preswyl ar y llawr gwaelod.

Bydd Dull Dibenion Arbennig (DDA) a elwir y Bartneriaeth Cyflawni'r Metro (PCM) yn cael ei greu gan y partneriaid a nodir uchod i gyflawni'r project.

Dywedodd y Cyng Goodway: "Y bwriad yw y bydd buddsoddiad y Cyngor yn y DDA yn cael ei gyfyngu i'r costau yr ydym wedi'u gwario hyd yma. Byddai hynny'n cynnwys trefnu'r tir, cynllunio a dylunio a chostau cyn datblygu eraill.

"Wrth symud ymlaen, credwn y bydd partneriaid yn gallu adennill eu buddsoddiad unwaith y bydd yr unedau preswyl a'r gofod swyddfa'n llawn. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at yr holl fuddsoddiad cyhoeddus yn cael ei dalu'n ôl.

"Bydd y Bartneriaeth Cyflawni'r Metro, fel y bydd yn cael ei galw, yn cael ei dylunio i fod yn rhywbeth hir dymor gyda dibenion mwy sylweddol na chyflawni'r orsaf fysus yn unig. Unwaith y mae adeilad yr orsaf fysus wedi'i gwblhau a'i werthu, bwriedir y bydd yr arian hwnnw'n cael ei ailgylchu i gyflawni'r ail gam datblygu, gan gynnwys moderneiddio Caerdydd Canolog."

Nid oes llawer o newid i'r llawr gwaelod yn sgil y cynllun newydd, felly ar ôl derbyn cymeradwyaeth ar y model ariannol, gallai'r gwaith ar y llawr gwaelod ddechrau yn y flwyddyn newydd. Disgwylir y bydd y gwaith o adeiladu'r orsaf fysus newydd yn cymryd tua dwy flynedd i'w gwblhau unwaith y bydd gwaith wedi dechrau ar y safle.