The essential journalist news source
Back
19.
December
2017.
Ymweliad â Hyb Technoleg Ddigidol Tramshed


Bydd y Cyng. Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddiad a Datblygiad Cyngor Caerdydd a Rebecca Evans AC, Gweinidog Tai ac Adfywio Llywodraeth Cymru yn ymweld â Tramshed yn Grangetown heddiw (19 Rhagfyr) i fynd ar daith yn y lleoliad a chwrdd â chynrychiolwyr detholiad o gwmnïau technoleg ddigidol sydd wedi gwneud y lleoliad yn gartref iddynt.

Wedi ei adeiladu yn wreiddiol fel cartref i dramiau yng Nghaerdydd ac yna i drwsio a rhoi tystysgrifau MOT i gerbydau'r cyngor, mae'r hen depo wedi ei drawsnewid yn lleoliad digwyddiadau, canolfan gelfyddydol, sinema, tŷ bwyta, bar a hyb technoleg.

Mae'r Tramshed wedi ei leoli ar gyffordd Clare Road a Pendyris Street yn Grangetown ac mae'n adeilad gradd II wedi ei gofrestru a fu gynt yn eiddo i'r Cyngor. Caewyd yr adnodd segur yn 2014 a'i farchnata i'w werthu, wrth i'r Cyngor gwblhau adolygiad o asedau er mwyn sicrhau gwerth am arian ar gyfer ystâd y Cyngor.

Daeth yr adeilad i ddwylo'r datblygwr lleol Simon Baston ac fe gefnogwyd yr adfywio gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Benthyciadau Canol Tref yn ogystal â chan Gyngor Caerdydd.

Bydd y Cynghorydd Russell Goodway a Rebecca Evans AC yn cwrdd â chynrychiolwyr y Cwmnïau Technoleg Ddigidol i drafod eu profiadau a'r modd y mae'r lleoliad, a Caerdydd fel cyrchfan yn eu helpu i ddatblygu eu busnes.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda'r sector preifat a'r trydydd sector er mwyn parhau i ddenu buddsoddiad a swyddi i Brifddinas Cymru. Mae'r Tramshed yn stori lwyddiant - trawsnewid adeilad a fu gynt yn dadfeilio yn fusnes llewyrchus yn creu swyddi yn ogystal ag yn ased i'r gymuned leol.

Bydd Simon Baston yn rhoi cyflwyniad ar hanes y Tramshed a sut y bu iddo ddatblygu i'r adnodd ydyw heddiw.

Yna cynhelir trafodaeth grŵp gyda'r holl fusnesau sydd wedi eu lleoli yn y gofod technegol gan gynnwys y Big Learning Company; Tramshed Tech; Wildflame; Amplify; Blue Stag a Blurrt.