The essential journalist news source
Back
19.
December
2017.
Bydd cynllun rhannu beiciau ar waith erbyn Mai 2018

Bydd nextbike, sy'n ddarparwr rhannu beiciau byd enwog, yn rheoli 250 o feiciau ar draws 25 gorsaf docio yn y ddinas a bydd cam cyntaf y cynllun ar waith erbyn mis Mai 2018.

Croesawodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Cynaliadwy a Thrafnidiaeth y cyhoeddiad, gan ddweud:

"Rydym wrth ein bodd i groesawu nextbike i Gaerdydd. Me cynllun llogi beiciau yn rhan hanfodol o ddinas beicio go iawn ac rwyf wrth fy mod bod nextbike wedi cydnabod y potensial mawr am feicio yng Nghaerdydd. Rydym wedi gweld yn Llundain sut mae ei chynllun beiciau wir wedi cynyddu hygyrchedd a gwelededd beiciau ac rydyn ni'n credu y bydd nextbike yn gwneud yr un peth i Gaerdydd. "Mae Caerdydd yn ddinas fach a gwastad, felly mae beicio'n opsiwn da ar gyfer teithiau byrrach . Mae'r cynllun hwn yn rhan yn unig o gynlluniau'r Cabinet i wella'r seilwaith beicio er mwyn annog pobl sy'n byw yn y ddinas neu'n agos ati i adael eu ceir gartref ac ystyried opsiynau amgen.

"Rydym yn gwybod y bydd galw enfawr am y beiciau hyn a diddordeb yn lleoliad y gorsafoedd docio. Byddem yn annog adborth gan y cyhoedd, a gofynnwn i bobl lenwi holiadur ar-lein byr gyda'u syniadau

-
 https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=151249356874

Mae'r beiciau'n defnyddio technoleg a nodweddion diogelwch modern, gan gynnwys cloeon blaen integredig a thracio GPS.

Yn 2019, bydd nifer y beiciau a gorsafoedd yn dyblu, gyda 500 o feiciau a 50 o orsafoedd o gwmpas y ddinas.

Dywedodd Julian Scriven, Rheolwr Gyfarwyddwr Nextbike UK, y bydd y manteision i Gaerdydd yn anferth. Dywedodd Mr Scriven: "O leihau tagfeydd a chreu swyddi newydd i wella iechyd a symudedd, mae rhannu beiciau yn cael effaith wirioneddol ym mhobman.

"Mae ein hymchwil yn dangos bod pobl sy'n rhannu beics yn gwario mwy mewn siopau lleol, bod prisiau eiddo ger gorsafoedd docio yn cynyddu a bod y galw am lefydd parcio yn lleihau, ac felly hefyd dagfeydd a llygredd."

Mae Mr Scriven wedi nodi ei fod yn awyddus i integreiddio'r beiciau gyda gweithredwyr trafnidiaeth eraill, nawr ac yn y dyfodol. Mae cynlluniau yn yr Unol Daleithiau a Slofacia yn defnyddio dull un-cerdyn sy'n galluogi'r cwsmeriaid i newid rhwng beiciau, bysus, trenau neu dramiau heb ddefnyddio dulliau talu gwahanol.

Mae'r cwmni'n darparu mwy na 120 o gynlluniau ar draws 4 cyfandir. Lansiwyd y cynllun cyntaf yn y DU yng Nghaerfaddon yn 2014 ac maent bellach yn gweithredu yn Milton Keynes, Caerwysg, Belfast, Caeredin a Phrifysgol Warwig.