The essential journalist news source
Back
15.
December
2017.
ANNOG LANDLORDIAID AC ASIANTAU I OSGOI CAMAU GWEITHREDU

 

ANNOG LANDLORDIAID AC ASIANTAU I OSGOI CAMAU GWEITHREDU

 

Mae'r awdurdod trwyddedu sengl ar gyfer Rhentu Doeth Cymru, Cyngor Caerdydd yn annog yr holl landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio i wneud eu hunain yn hysbys nawr er mwyn osgoi camau gweithredu.

Mae'r rhybudd yn dod wrth i asiant o Ogledd Cymru fod y diweddaraf i gael ei erlyn yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw am beidio â chael ei drwyddedu.

 

Cafwyd Louise Docwra, yn masnachu fel North Wales Property o 116 Stryd Fawr, Bangor, yn euog o gyflawni gwaith gosod a rheoli eiddo heb drwydded, yn groes i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Rhoddwyd gwybod i Rhentu Doeth Cymru fod North Wales Property yn gweithredu fel asiant heb drwydded ac yn hysbysebu eiddo i'w osod ar ei wefan, gweithgaredd y mae gofyn i asiant gael trwydded ar ei gyfer. Fodd bynnag, nid oes cais am drwydded wedi'i gyflwyno i Rhentu Doeth Cymru ar gyfer y cwmni.

 

Rhoddodd yr Ynadon ddirwy o £1,000 i Ms Docwra am ddwy drosedd a gorchmynnon nhw iddi dalu costau llys o £300 a thâl dioddefwr o £50.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae mwy na 86,000 o landlordiaid bellach wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru ac rydym wedi cyhoeddi bron i 21,000 o drwyddedau i landlordiaid hunanreoli ac asiantau masnachol. Mae'r bobl hynny sy'n parhau i herio'r gyfraith ac osgoi cydymffurfio yn y lleiafrif ond rydym yn benderfynol o gosbi'r lleiafrif hwnnw.

 

"Rydym yn erlyn landlordiaid ac asiantau ledled Cymru ac yn gweithio gyda'r 22 awdurdod lleol i ddod o'r hyd i'r bobl hynny sy'n parhau i beidio â chydymffurfio.

 

"Mae erlyniad yn creu canlyniadau difrifol ar gyfer asiant gan mai amod cael trwydded yw bod rhywun yn addas a phriodol i gyflawni gweithgareddau gosod a rheoli. Mae'r holl bobl hynny sy'n parhau i weithredu heb drwydded yn peryglu dyfodol eu busnesau."