The essential journalist news source
Back
14.
December
2017.
Gallai prisiau tacsis godi yn y Flwyddyn Newydd
 Gallai prisiau cerbydau Hacni yng Nghaerdydd godi os caiff cynnig gan Dragon Taxis ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor.

Bydd y gost ar y mesurydd pan fydd cwsmer yn mynd i mewn i dacsi yn codi o £2.30 i £2.50 gyda chynnydd o 10 ceiniog y filltir - yn codi'r gyfradd o £1.70 y filltir i £1.80.

Ym mis Medi 2009, cymeradwyodd y Cyngor Fynegai Prisiau Cerbydau Hacni sy'n cyfrifo'r costau sy'n gysylltiedig â bod yn yrrwr tacsi gyda'r arian y byddant yn ei dderbyn mewn ffioedd. Digwyddodd y cynnydd diwethaf o ran pris ym mis Rhagfyr 2015.

Ers hynny, mae cyfrifiadau yn dangos bod costau rhedeg cerbyd wedi codi'n sylweddol. Mae costau yswiriant wedi codi gan 22%, mae cydrannau cerbydau wedi codi gan 40%, mae cost disel wedi codi gan 12% ac mae cost petrol wedi codi gan 15%. Yr unig ffi sydd wedi gostwng yw cost y ffioedd trwydded i'r Cyngor sydd wedi gostwng gan 5%.

Yn seiliedig ar daith o ddwy filltir, ar hyn o bryd mae Caerdydd yn y 220fedsafle mewn tabl cynghrair o'r lleoedd drutaf i gael tacsi yn y DU allan o 370 o siroedd, dinasoedd neu feysydd awyr.

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet heddiw, bydd Caerdydd yn symud i fyny'r tabl gan tua 100 lle. Bydd dal tacsi yng Nghaerdydd yn costio'r un peth â chael tacsi mewn 27 ardal arall gan gynnwys Sir Gaerfyrddin, Swydd Aberdeen, Caergaint, Ipswich a Scarborough.

O dan y prisiau newydd arfaethedig, byddai taith o dair milltir yn codi'r ffi gan 6.7% yn ystod y dydd a 6% gyda'r nos. Byddai cost y daith hon yn codi o £7.30 i £7.80 yn ystod y dydd ac o £8.30 i £8.80 gyda'r nos.

Bydd yr amrywiad yn y tariff yn cael ei hysbysebu am 14 diwrnod er mwyn rhoi cyfle i bobl wrthwynebu. Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhagwelir y gallai'r prisiau newydd ddechrau mor gynnar ag 8 Ionawr 2018.