The essential journalist news source
Back
13.
December
2017.
Cyngor Caerdydd yn mynd i gymeradwyo dechrau gwaith ar yr Orsaf Fysus newydd
 Yr wythnos nesaf, bydd Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo dechrau gwaith adeiladu ar orsaf fysus newydd Caerdydd yn unol ag ymrwymiad y Weinyddiaeth newydd ym mis Mehefin eleni. 

Bydd Cabinet y Cyngor yn cwrdd yr wythnos nesaf i gadarnhau'r cynllun newydd a dull ariannu newydd a ddyluniwyd y greu cyfnewidfa drafnidiaeth fodern i fodloni anghenion Prifddinas Cymru.

Mae'r Cyngor wedi bod yn awyddus i gyflenwi cynllun yn seiliedig yn y swyddfa Gradd A* ond cyn nawr mae wedi bod yn amhosibl cynnal y dyhead hwnnw heb sicrhau tenant cyn dechrau adeiladu.

Yn yr wythnosau diwethaf, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i berswadio Llywodraeth Cymru i sicrhau'r elfen swyddfa ar y datblygiad.  O ganlyniad, bydd menter arloesol ar y cyd rhwng y Cyngor, Llywodraeth Cymru a phartner datblygu'r Cyngor, Rightacres, yn galluogi'r swyddfeydd i fod yn rhan o'r cynllun.

Gwnaeth Cabinet y Cyngor gwrdd ym mis Gorffennaf gan gytuno i ymgymryd ag adolygiad llawn o'r cynllun a'r trefniadau cyllid. Mae'r cynllun sydd wedi'i ddatblygu o ganlyniad yn llawer gwell ac yn cynnwys elfen swyddfa sylweddol, mwy o unedau preswyl a dyluniad newydd ar gyfer y maes parcio. Ni fydd llawer o newid i'r orsaf fysus ar y llawr gwaelod a'r unedau preswyl.

Bydd angen cais cynllunio newydd er mwyn cymeradwyo'r newidiadau, ond disgwylir y bydd y caniatâd cynllunio presennol yn galluogi i ni ddechrau gwaith ar y safle'n gynnar.

Mae'r fenter ar y cyd y mae'r Cyngor wedi'i negodi wedi galluogi cadw'r elfen swyddfa yn y datblygiad, wrth alluogi dechrau gwaith ar y safle o fewn yr amserlenni a gyhoeddwyd ym mis Mehefin.  Heb y fenter ar y cyd hon, byddai wedi bod yn angenrheidiol i ddibynnu ar gynllun aml-ddefnydd yn cynnwys llety myfyrwyr a gwesty o bosibl.  Nid dyma'r achos.

Maes o law, ac o ganlyniad o drafodaethau'r Cyngor gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd y fenter ar y cyd hon - wedi'i hehangu i gynnwys Llywodraeth y DU, yn cyflawni'r project Cyfnewidfa Caerdydd Canolog, gan gynnwys moderneiddio Gorsaf Caerdydd Canolog. 

Yn ystod y ddadl ar drafnidiaeth gyhoeddus yn y Cynlluniad y prynhawn ‘ma, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates, y bwriad i Lywodraeth Cymru fynd i mewn i fenter ffurfiol ar y cyd â Chyngor Caerdydd a'u datblygwr partner, Rightacres, i fwrw ymlaen â'r project. 

Dywedodd y Cyng. Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygiad: "Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llenni, nid yn unig i fwrw ymlaen â chynllun fydd yn cyflenwi gorsaf fysus newydd Caerdydd, ond i greu cynllun fydd yn trawsffurfio ac yn moderneiddio ardal y Gyfnewidfa Ganolog yn ei chyfanrwydd.

"Does dim amheuaeth i'r project gael ei oedi tan fis Mai eleni, ond mae'r bartneriaeth newydd hon yn galluogi'r Cyngor i fwrw ymlaen â datblygiad yr orsaf fysus heb unrhyw oedi pellach, ac yn galluogi ardal swyddfeydd newydd Caerdydd yn y Sgwâr Canolog i gael ei gorffen yn iawn.  Dywedais o'r dechrau fod angen i ni fod yn hyblyg i gwblhau'r project, gan ddefnyddio dull a arweinir gan y farchnad i gynhyrchu'r arian fyddai angen arnom. Dyma'n union yr ydyn ni'n ei wneud."

Yn rhan o'r cytundeb, bydd Trafnidiaeth Cymru'n gweithredu'r orsaf fysus newydd. Bydd hyn yn helpu i alinio gweithrediad yr orsaf fysus newydd gyda gweithrediad Caerdydd Canolog a'r cyfleusterau newydd eraill sy'n cael eu creu yn yr ardal yn rhan o'r project Cyfnewidfa ehangach.

Mae'r adroddiad, fydd yn mynd i'r Cabinet i gael ei gymeradwyo ar ddydd Iau, 14 Rhagfyr, yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys:

  • Cytuno mewn egwyddor ar y model cyllid newydd a'r bartneriaeth

  • Sicrhau manylion terfynol gyda'r datblygwr i gwblhau'r orsaf fysus newydd

  • Dechrau ar y broses o sicrhau arian Bargen Ddinesig tuag at gostau creu'r Gyfnewidfa Ganolog ehangach

Bydd y cynllun newydd arfaethedig yn galluogi i ni ddechrau ar y safle ar ddechrau 2018 a fydd yn cynnwys cymysgedd o ofod swyddfa Gradd A* 110,000tr sg., 400 o unedau sector rhent preifat a 250 o fannau parcio uwchben yr orsaf fysus gydag unedau preswyl ar y llawr gwaelod.

Bydd Dull Dibenion Arbennig (DDA) a elwir y Bartneriaeth Cyflawni'r Metro (PCM) yn cael ei greu gan y partneriaid a nodir uchod i gyflawni'r project.

Dywedodd y Cyng Goodway: "Bwriedir y bydd buddsoddiad y Cyngor yn y DDA yn cael ei gyfyngu i'r costau yr ydym wedi'u creu hyd yma. Byddai hynny'n cynnwys trefnu'r tir, cynllunio a dylunio a chostau cyn datblygu eraill.

"Wrth symud ymlaen, credwn y bydd partneriaid yn gallu adennill eu buddsoddiad unwaith y bydd yr unedau preswyl a'r gofod swyddfa'n llawn. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at yr holl fuddsoddiad cyhoeddus yn cael ei dalu'n ôl.

"Bydd y Bartneriaeth Cyflawni'r Metro, fel y bydd yn cael ei galw, yn cael ei dylunio i fod yn rhywbeth hir dymor gyda dibenion mwy sylweddol na chyflawni'r orsaf fysus yn unig. Unwaith y mae adeilad yr orsaf fysus wedi'i gwblhau a'i werthu, bwriedir y bydd yr arian hwnnw'n cael ei ailgylchu i gyflawni'r ail gam datblygu, gan gynnwys moderneiddio Caerdydd Canolog."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Does dim amheuaeth mai nawr yw'r amser cywir i ehangu'r orsaf fel y gall fod yn addas ar gyfer y galw cynyddol am deithio ar drenau, ymdopi â chalendr digwyddiadau mawr cynyddol ac wrth gwrs i osod y cynsail ar gyfer Metro De Cymru.

"Mae gennym ni, ynghyd â'r Cyngor, weledigaeth ar gyfer y safle o amgylch Caerdydd Canolog i ddod yn hyb trafnidiaeth integredig, yn darparu integreiddiad rhwydd rhwng trenau, bysus a'r Metro, gan alluogi mynediad rhwydd i gerddwyr a chyfleusterau storio i feicwyr.

"Gall y fenter ar y cyd hon gyflawni'r holl ddyheadau ar gyfer y gyfnewidfa, gan ddechrau gydag ailddatblygu'r orsaf fysus, a chan fod y datblygiad hwn nawr yn cynnwys gofod o safon all ddenu'r math o brif fuddsoddwyr fydd yn ein helpu ni i fwrw ymlaen â dyheadau ein Cynllun Gweithredu Economaidd newydd sbon."

Nid oes llawer o newid i'r llawr gwaelod yn sgil y cynllun newydd, felly ar ôl derbyn cymeradwyaeth ar y model ariannol, gallai'r gwaith ar y llawr gwaelod ddechrau yn y flwyddyn newydd. Mae disgwyl iddo gymryd oddeutu dwy flynedd i adeiladu'r orsaf fysus newydd unwaith y mae'r gwaith yn dechrau.