The essential journalist news source
Back
13.
December
2017.
Penodi Sefydliad Prydeinig y Galon yn Bartner Ailddefnyddio Gwastraff Newydd Cyngor Caerdydd


Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi cael ei benodi yn bartner ailddefnyddio gwastraff Cyngor Caerdydd, gan roi cyfle i drigolion droi eu heitemau diangen yn arian gwerthfawr ar gyfer gwaith ymchwil ar y galon.

Bydd y cynllun yn gweld Sefydliad Prydeinig y Galon yn gosod cynhwysyddion llongau yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Heol Lamby a Bessemer Close, gan ei gwneud yn hawdd i'r cyhoedd gyfrannu eitemau megis soffas, cadeiriau, byrddau, dodrefn ystafell wely a setiau teledu sydd mewn cyflwr da at yr elusen y galon fwyaf yng Nghymru.

Caiff yr eitemau eu gwerthu yn siopau Dodrefn ac Eitemau Trydanol Sefydliad Prydeinig y Galon, a bydd yr arian a godir yn cael ei roi tuag at waith ymchwil a allai helpu tua 32,800 o bobl yng Nghaerdydd sy'n brwydro yn erbyn clefydau sy'n effeithio ar y galon a chylchrediad y gwaed.

Dywedodd Karen O'Donoghue, Rheolwr Partneriaethau Manwerthu Sefydliad Prydeinig y Galon: "Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd ar y cynllun ailddefnyddio hwn a gaiff ei dreialu mewn dwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Ddinas.   Mae ein siopau yng Nghaerdydd bob amser angen eitemau y gellir eu gwerthu, ac yn ogystal â lleihau gwastraff, bydd y bartneriaeth hon yn helpu i godi arian hanfodol i fynd i'r afael â chlefyd y galon yn lleol.   Rydym yn obeithiol y bydd mwy o drigolion yn mynd â'u heitemau diangen i'r canolfannau ailgylchu er mwyn i Sefydliad Prydeinig y Galon eu casglu a'u gwerthu."

 

Fel rhan o'r bartneriaeth, mae Cyngor Caerdydd yn annog trigolion i roi unrhyw eitemau cartref diangen sydd mewn cyflwr da yn y cynhwysyddion llongau a gaiff eu gosod mewn safleoedd penodol.

P'un ai a ydych yn symud tŷ neu ddim ond yn cael gwared â phethau, mae'n bwysig cofio ‘arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu'. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu'r amgylchedd ond mae siopau Sefydliad Prydeinig y Galon yn cynnig yr ateb cynaliadwy perffaith i wastraff, a gallwch fod yn sicr y bydd pob eitem a brynir drwy gyfraniadau yn helpu'r frwydr yn erbyn clefyd y galon.

Mae'r Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glan ac Ailgylchu yn awyddus i sefydlu cynlluniau ailddefnyddio ledled Caerdydd. "Pan fo'n bosibl, mae ailddefnyddio yn ddewis gwell nag ailgylchu ac rwy'n falch bod y bartneriaeth hon bellach ar waith. Mae rhai meini prawf iechyd a diogelwch penodol y mae'n rhaid eu bodloni cyn y gellir ailddefnyddio eitemau, felly os na chaiff y meini prawf hyn eu bodloni, yna mae gwasanaethau'r cyngor dal ar gael."

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu dodrefn am ddim i'r rheiny nad ydynt yn gallu teithio i'r safleoedd hyn. Gallwch drefnu casgliad ar-leinwww.bhf.org.uk/collectionneu drwy ffonio0808 250 0260.