The essential journalist news source
Back
6.
December
2017.
Un-ar-ddeg o yrwyr wedi'u dal a bydd gweithrediadau'n parhau

 

Rhennir neges Nadoligaidd â'r fasnach tacsis a llogi preifat - cadwch at delerau eich trwydded neu byddwch yn wynebu camau disgyblu.

Mae un-ar-ddeg o yrwyr llogi preifat wedi'u dal yn casglu pobl oddi ar y stryd heb iddynt gadw lle ymlaen llaw. Nid yw gyrwyr y cerbydau hyn wedi'u trwyddedu i wneud hynny ac nid oes ganddynt yr yswiriant cywir.

Yn ddiweddar, mae swyddogion o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir wedi bod yn cynnal ymarferion siopa dirgel ac mae rhagor o weithrediadau wedi'u cynllunio dros gyfnod y Nadolig.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd, y Cyng. Jacqueline Parry: "Mae telerau trwyddedau tacsi'n gymhleth ac yn ddryslyd, felly rydym eisiau lledaenu'r neges â'r cyhoedd fel eu bod yn deall y gwahaniaeth rhwng gweithredwyr llogi preifat a thacsis du a gwyn (cerbydau hacni) a pha wasanaeth y gallant ei ddisgwyl.

"Mae'r rhan fwyaf o yrwyr yn gweithredu'n gywir, ond rwyf wedi cael llond bol ar glywed adroddiadau am rai o'r fasnach yn credu y gallant weithredu fel y mynnent."

Er bod y ddau fath o gerbyd yn derbyn trwydded gan y Cyngor ac er bod gyrwyr trwyddedig wrth y llyw, maen nhw'n edrych ac yn gweithio'n wahanol iawn.

Maetacsis (cerbydau hacni)un ai'n ddu gyda boned gwyn neu'n 'gerbydau tacsi Llundain' sydd ag arwydd ar y to pan fydd un ar gael i'w llogi.

Mae modd sicrhau'r tacsis hyn ar y stryd neu gael un o orsaf dacsis, ac mae'n rhaid i'r gyrwyr ddefnyddio'r mesurydd i gyfrifo'r pris - os yw'r daith yn dechrau ac yn gorffen yn ffiniau Caerdydd.

Mae'n rhaid i'r rheiny sydd am deithio y tu allan i Gaerdydd negodi'r pris â'r gyrrwr ar bris y daith, nid oes rhaid i'r gyrrwr ddefnyddio mesurydd a gall ofyn am daliad ymlaen llaw. Mae hwn yn gontract rhwng y gyrrwr a'r cwsmer.

Mae'n drosedd i yrrwr tacsi wrthod taith sy'n dechrau ac yn gorffen yn ffiniau Caerdydd heb esgus rhesymol e.e. mae'r cwsmer wedi meddwi neu'n bod yn dreisgar.

Mae gangerbydau llogi preifathawl i wrthod teithiau. Mae hyn yn hollol gyfreithlon ac mae'n drosedd i yrrwr llogi preifat dderbyn taith heb archeb ymlaen llaw drwy weithredwr trwyddedig.

Nid oes gan gerbydau llogi preifat a drwyddedir gan Gyngor Caerdydd arwydd ar y to, ond mae ganddynt blât trwydded melyn ar gefn y cerbyd. Gallant fod unrhyw liw heblaw am ddu gyda boned gwyn.

Parhaodd y Cyng. Parry, "Os ydych chi'n archebu cerbyd llogi preifat, sicrhewch eich bod yn gwneud hynny drwy'r gweithredwr.Os na wnewch hynny, yna mae'r gyrrwr yn torri telerau ei drwydded ac nid ydych dan yswiriant."

Ni all cerbydau a drwyddedir gan awdurdodau lleol eraill weithredu fel tacsis (aros mewn rhengoedd tacsi, casglu oddi ar y stryd heb archebu ymlaen llaw, na stopio i alwad) yng Nghaerdydd.  

Mae Adran Drwyddedu Caerdydd yn sicrhau bod cerbydau trwyddedig yn ddiogel ac yn gyfforddus ac mae'n gwirio bod gan bob gyrrwr wybodaeth dda am yr ardal, yn feddygol ffit a heb unrhyw euogfarnau difrifol.

Nodyn i'r Golygyddion

Mae'n rhaid i bob cerbyd a drwyddedir gan Gyngor Caerdyddarddangos plât trwydded ar gefn y cerbyd ac arddangos ID llun o'r gyrrwr trwyddedig ar ochr chwith y ffenestr flaen yn ogystal â chael ei wisgo ganddo.

Ni ddylid galw na llogicerbydau heb eu marcionad oes ganddynt blât trwydded ar y stryd, gan nad ydynt yn drwyddedig. Nid yn unig ydych chi'n rhoi eich hun mewn perygl drwy ddefnyddio'r cerbydau hyn, ond ni chewch eich yswirio pe byddech chi mewn damwain.

Maededdfwriaeth genedlaetholyn caniatáu cerbydau hacni i ymgymryd â gwaith llogi preifat unrhyw le o fewn y DU. Nid oes rhaid archebu ymlaen llaw drwy weithredwr (gellir gwneud hyn yn uniongyrchol â'r gyrrwr). Golyga hyn y gall cerbydau hacni a drwyddedir mewn ardaloedd megis Merthyr neu Fryste weithio i weithredwr llogi preifat yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, gall cerbydau hacni ond chwilio am waith (casglu oddi ar y stryd) yn yr ardal y maent wedi'i thrwyddedu ynddi.Hefyd, gall cerbydau llogi preifat gymryd archebion unrhyw le yn y DU, ond mae'n rhaid i bob un o'r tair trwydded gyfateb h.y. mae'n rhaid i'r cerbyd, y gyrrwr a'r gweithredwr ddod o'r un ardal awdurdod lleol.

Cwynion

Mae cwynion y gall yr Adran Drwyddedu ymchwilio iddynt, yn cynnwys:

        Tacsis yn gwrthod cwsmeriaid sydd eisiau teithio o fewn ffiniau Caerdydd yn unig

        Tacsis yn codi gormod neu'n gwrthod defnyddio mesurydd o fewn ffiniau Caerdydd

        Cerbydau trwyddedig diffygiol neu fudr

        Ymddygiad y gyrrwr yn is na'r safon ddisgwyliedig

        Cerbydau/gyrrwr heb drwydded yn chwilio am waith

        Gyrwyr llogi preifat yn derbyn teithwyr heb iddynt archebu ymlaen llaw

        Cerbydau o ‘du allan i'r dref' yn chwilio am waith.

 

Os dymunwch gwyno, cysylltwch ag Adran Drwyddedu'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir artrwyddedu@caerdydd.gov.ukneu029 20871651,a darparwch yr wybodaeth ganlynol:

     Rhif cofrestru'r cerbyd

     Rhif y plât trwydded ôl

     Rhif adnabod y gyrrwr.