Meddai’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael: “Mae colli rhywun sy'n annwyl i chi yn anodd ar y naw, ond gall fod yn arbennig o heriol ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi’r cyfle i bawb o bob ffydd ddod ynghyd a chofio'r rheini sydd ddim gyda ni mwyach.”
Bydd y gwasanaeth, a arweinir gan y Parchedig Lionel Fanthorpe, yn cynnwys nifer o ddarlleniadau, cerddi a charolau, gyda Deborah Morgan Lewis yn arwain y canu. Mae’r gwasanaeth yn dechrau am 2pm ac yn dod i ben tua 3pm.Cynhelir casgliad er budd Tŷ Hafan yn ystod y gwasanaeth.
Tŷ Hafan yw un o elusennau gofal lliniarol arweiniol y DU. Maent yn cynnig cysur, gofal a chymorth i blant a phobl ifanc y mae eu bywydau’n gyfyngedig a’u teuluoedd yn yr hosbis, yn y gymuned ac yn eu cartrefi.
Bydd y Gwasanaethau Profedigaeth unwaith eto’n gwerthu tagiau coffa am rodd o £2.00 neu fwy. Gallwch roi’r rhain ar un o’r Coed Nadolig Coffa yn iard Capel y Wenallt.Bydd y coed yn eu lle o 5 Rhagfyr 2017 ac yn aros yno tan 6 Ionawr 2018 pan gânt eu symud ymaith yn unol â thraddodiad ‘Nos Ystwyll’.Bydd unrhyw roddion yn cael eu rhoi i Dŷ Hafan.