The essential journalist news source
Back
4.
December
2017.
Rheoli llifogydd yng Nghaerdydd
Bydd sut mae Cyngor Caerdydd a’i bartneriaid yn ymateb i’r risg o lifogydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol fory. 

Bydd aelodau’n cael y cyfle i adolygu rolau a chyfrifoldebau a sefydlir yn y Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol a fabwysiadwyd ym mis Medi 2014.

Mae Cyngor Caerdydd fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid allweddol Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Bwrdd Draenio Mewnol i atal a pharatoi ar gyfer llifogydd.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel:“Mae’n hanfodol bwysig fod gennym gynlluniau cadarn mewn lle i leihau’r risg o lifogydd gan y gall y canlyniadau fel arall fod yn ddinistriol i breswylwyr a busnesau lleol.  O ganlyniad i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 mae’r Cyngor a phartneriaid statudol wedi gwneud llawer o waith caled i leihau’r risg o lifogydd yng Nghaerdydd, ond y rôl nawr i fy mhwyllgor yw adolygu'r mesurau hyn a sicrhau eu bod yn addas i’r diben.”   

Mae cyfarfod fory am 4.30pm a bydd yn cael ei ddarlledu’n fyw yma:  https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/321648