The essential journalist news source
Back
30.
November
2017.
Creu mwy o swyddi gwell
Mae trigolion Caerdydd, busnesau lleol a’r holl bobl hynny sy’n dibynnu ar economi Caerdydd i gael cyfle i helpu i siapio agenda uchelgeisiol sydd â’r bwriad o ail-greu momentwm prifddinas Cymru.

Yn ystod y tri mis nesaf, gofynnir i’r cyhoedd am eu barn ar strategaeth posibl wedi’i dylunio i wneud Caerdydd a’r ardal o’i hamgylch yn lle hyd yn oed yn well i fyw, gweithio ac ymweld â hi yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyrdd llywodraeth sirol o'r enw "Creu Mwy o Swyddi Gwell".

Mae'r weinyddiaeth gyngor newydd, wedi'i chreu yn dilyn etholiadau'r Cyngor ym mis Mai, yn deall bod Caerdydd wedi'i gweddnewid dros y chwarter canrif diwethaf.Mae’r weinyddiaeth hefyd yn gwerthfawrogi y rhagwelir y bydd y boblogaeth yn cynyddu'n sylweddol, mae cynlluniau wedi’u rhoi ar waith i sicrhau y rheolir y twf hwn a’i fod yn gynaliadwy. Mae hefyd yn bwysig y rhennir manteision y twf gan bawb ledled y ddinas.  

Ymhlith yr amcanion i gyflawni dyheadau’r ddinas mae creu swyddi, denu buddsoddiad, denu digwyddiadau mawr, sicrhau y rhennir ffyniant ledled Caerdydd, cynyddu enillion; denu mwy o ymwelwyr â’r ddinas yn ogystal â gwella seilwaith y ddinas.

Mae’r Cyng Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu am i gymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd er mwyn cael yr ymrwymiad mwyaf posibl i gynlluniau’r Cyngor, ac i ddylanwadu ar ddatblygiadau’r dyfodol i greu mwy o swyddi a buddsoddi.

Dywedodd y Cyng Goodway: “Mae amcanion y Cabinet wedi’u nodi yn y ddogfen bolisi Uchelgais Caerdydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy’n gosod ymrwymiad ar y weinyddiaeth i ddatblygu strategaeth economaidd newydd ar gyfer Caerdydd a chyfraniad Caerdydd at y rhanbarth ehangach.Dylunnir hyn i ddenu buddsoddiad busnes a swyddi, datblygu seilwaith y mae ei angen yn fawr ac yn bwysicaf i sicrhau bod y gwelliannau a wneir o fudd i bobl Caerdydd.

“Nid oes amheuaeth bod angen i ni fod wedi’n cysylltu’n well trwy wella'r seilwaith trafnidiaeth, creu mwy o swyddi sy’n talu’n well; mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag anghydraddoldeb a bod yn gall trwy gofleidio gwelliannau technolegol yn ogystal ag ymateb yn ddeallus i faterion y mae’n rhaid i’r ddinas ymdrin â nhw.

“Trwy weithio gyda’r sector preifat, llywodraeth a’n partneriaid, mae’r strategaeth newydd yn nodi‘r hyn y mae’r Cyngor yn bwriadu canolbwyntio ei fuddsoddiad arno sef Canol y Ddinas, Bae Caerdydd, arloesedd yng Ngogledd Caerdydd a Chlwstwr Chwaraeon y Gorllewin a diwydiant yn nwyrain y ddinas.”

Mae’r meysydd canlynol yn cael eu cynnig yn rhan o’r strategaeth newydd:

CANOL Y DDINAS yw’r clwstwr busnes pwysicaf yn y rhanbarth yn barod.Mae’n gynyddol ddod yn lle i fyw ynddo yn ogystal â gweithio ynddo.Ein bwriad yw annog y gwaith parhaol o ymestyn canol y ddinas i'r de y tu hwnt i'r llinellau rheilffordd trwy ddatblygiadau aml-ddefnydd lle bydd swyddfeydd wedi eu lleoli yn bennaf.

Mae BAE CAERDYDD eisoes wedi'i drawsnewid yn llwyr.Erbyn hyn mae angen gwneud gwaith pellach yno.Rydym am i’r Bae ddod yn gyrchfan egwyl byr blaenllaw y bydd angen buddsoddi pellach yn y seilwaith hamdden er mwyn ei wireddu.

Mae GOGLEDD CAERDYDD yn gartref i sefydliadau gwybodaeth y ddinas a nifer o’r busnesau ymchwil a datblygu mwyaf dwys yn y ddinas.Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn buddsoddi mewn cyfleusterau newydd a fydd yn lledu ôl eu troed yn y ddinas.Mae safle Ysbyty’r Mynydd Bychan a’r clwstwr gwybodaeth o gwmpas Coryton yn cynnig cyfleoedd i dyfu ymhellach.

Mae DWYRAIN CAERDYDD, i’r de o’r llinell rheilffordd, yn ganolfan ddiwydiannol eisoes sydd yn barod i ehangu.  Mae gan yr ardal, y mae iddi ystod o seilwaith o ansawdd, gan gynnwys Porth Caerdydd a Gorsaf Reilffordd Cludiant Ewro, botensial sylweddol i gynnig mwy o swyddi ym meysydd cynhyrchu, dosbarthu a masnach.

Mae eisoes yng NGORLLEWIN CAERDYDD nifer o gyfleoedd chwaraeon a hamdden gorau’r ddinas.Mae potensial i adeiladu ar lwyddiant Stadiwm Dinas Caerdydd a datblygiad newydd y Tŷ Chwaraeon i greu clwstwr o seilwaith chwaraeon i fod o fudd i chwaraeon elît ac ar gyfer defnydd gan gymunedol lleol.

Cyhoeddir y strategaeth ar www.caerdydd.gov.uk ac mae cyfres o gwestiynau wedi’u gofyn yn y ddogfen er mwyn cael adborth gan y cyhoedd.Yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad tri mis, caiff digwyddiadau cyhoeddus eu cynnal hefyd a chaiff y rhain eu hysbysebu i’r cyhoedd o flaen llaw.